Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 – Triniaethau Arbennig 

Cyflwyno’r Cynllun Trwyddedu Mandadol yng Nghymru - Cylchlythyr Ymarferwyr Rhif 9

Rydym yn parhau i ddrafftio ein hymateb i'r ymgynghoriad cyntaf. Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar yr un pryd, rydym yn paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad nesaf a fydd yn rhoi'r cyfle i randdeiliaid ymateb i'n rheoliadau drafft.

Yn ogystal â'n diweddariad arferol gan y canolfannau hyfforddi, mae'r cylchlythyr hwn hefyd yn cynnwys cyngor gan Arbenigwyr Iechyd y Cyhoedd ar Hepatitis B ac MRSA. Mae gennym hefyd 'Ddyddiad i'ch Dyddiadur' ar gyfer y cyntaf mewn cyfres o Weminarau Ymarferwyr rhad ac am ddim. 

Mae awdurdodau lleol Cymru yn gweithio ar gwblhau'r ffioedd arfaethedig ar gyfer trwydded ymarferydd a chymeradwyo safleoedd/cerbydau. Pan fydd y rhain wedi'u cwblhau, byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth â chi. 

Dyfarniad Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd (RSPH) Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig

Y diweddaraf o'r Canolfannau Hyfforddi sydd wedi'u cymeradwyo 

Y Cyngor Cymwysterau ar gyfer Triniaethau Cosmetig (QCCP) 

Mae’r e-ddysgu ar Atal a Rheoli Heintiau, sy’n cael ei ddarparu gan y Cyngor Cymwysterau, wedi cael marc 10/10 yn seiliedig ar adborth gan yr ymarferwyr, gyda chyfradd basio o 100% ar hyn o bryd. 

Maen nhw'n annog ymarferwyr i fanteisio ar y gostyngiad sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y cymhwyster Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau. Cofrestrwch cyn diwedd 2023 i gael gostyngiad o 25% oddi ar ffi'r cwrs. 

Cynhaliodd y Cyngor Cymwysterau eu hyfforddiant wyneb yn wyneb cyntaf y mis diwethaf gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Llwyddodd 14 o'r 15 o ymgeiswyr i basio'r hyfforddiant ac mae cwrs arall wedi'i drefnu ar gyfer 16 Hydref. Mae'r Cyngor Cymwysterau a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hefyd yn cynnal cwrs ddydd Llun 30 Hydref. Mae lleoedd ar gael o hyd felly os oes gennych ddiddordeb, dilynwch y ddolen isod i gadw'ch lle neu ffoniwch y Cyngor Cymwysterau ar 01443 704220.

Cognition Training

I gael gwybodaeth am y Dyfarniad Lefel 2 cysylltwch â: info@cognition.training

Mae Cognition Training hefyd yn cynnig hyfforddiant bioddiogelwch ynglŷn â feirysau a gludir yn y gwaed. Mae wedi'i anelu yn benodol at dyllwyr ond byddai hefyd o fudd i artistiaid tatŵ a staff stiwdio cyffredinol. Mae'r hyfforddiant yn cydymffurfio â meini prawf aelodaeth y Gymdeithas Tyllwyr Proffesiynol (APP) a Chymdeithas y Deyrnas Unedig ar gyfer Tyllwyr Proffesiynol (UKAPP). Mae hefyd yn ymdrin â'r prif feirysau a gludir yn y gwaed, defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) a phrotocolau nodwyddau. Mae'r hyfforddiant yn hyfforddiant DPP achrededig. 

Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen 

bydd y gwasanaeth yn lansio'r Dyfarniad Lefel 2 y mis hwn. I nodi eich diddordeb ymlaen llaw i ymuno â'r cwrs hwn ym mis Hydref, cysylltwch â Rachel.richards@torfaen.gov.uk

Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS)

Dyma fanylion eu cyrsiau hyfforddi nesaf: Dydd Llun 6 Tachwedd yn y Barri, a dydd Llun 11 Rhagfyr yng Nghaerdydd.

I gadw lle, neu os oes gennych ymholiad, cysylltwch â training-srswales@valeofglamorgan.gov.uk. Mae manylion am y cwrs ar gael ar eu gwefan: Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig (srs.wales)

Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, cynhaliodd SRS ddau gwrs hyfforddi wyneb yn wyneb a chafwyd cyfradd basio o 100%. Llongyfarchiadau i'r holl ymarferwyr hynny a lwyddodd i ennill eu cymhwyster. 

Coleg Llandrillo

Mae taflen y cwrs bellach ar gael ar eu gwefan (gweler isod) a gall darpar fyfyrwyr dalu ar-lein. Dylid anfon pob ymholiad at sylw Louise Duller duller1l@gllm.ac.uk

MM Training Academy

Dylai ymarferwyr sydd â diddordeb yn ei chyrsiau gofrestru drwy fynd i www.mmtrainingacademy.co.uk a chlicio ar ‘online courses’. 

Y diweddaraf gan Gymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd

Rydym yn diweddaru ein gwaith ynghylch y Gweithlu Iechyd y Cyhoedd Ehangach, gan ganolbwyntio ar y cymorth sydd ei angen ar y gweithlu i gynyddu ei effaith ar iechyd y cyhoedd yn y blynyddoedd i ddod. Rydym yn ystyried Ymarferwyr Triniaethau Arbennig yn rhan allweddol o'r Gweithlu hwn.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal arolwg i ofyn i'r Gweithlu Ehangach am eu barn am y cyfleoedd a'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu. Mae'r arolwg a chrynodeb o'r gwaith hwn ar gael yma

Byddem yn falch o gael barn Ymarferwyr Triniaethau Arbennig yng Nghymru.

Dyddiad i'ch Dyddiadur - Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2023

Paratoi at y Cynllun Trwyddedu Mandadol ar gyfer Triniaethau Arbennig: Ymgynghori â Chleientiaid 

Dyma'r cyntaf mewn cyfres o weminarau rydym yn bwriadu eu cynnal ar gyfer ymarferwyr yng Nghymru er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer cyflwyno'r Cynllun Trwyddedu sydd ar y gweill.

Bydd y weminar ar-lein, a gynigir yn rhad ac am ddim, yn para tua 2 awr a 30 munud. Bydd yn cynnwys manylion ynghylch y gofyniad i ymgynghori â chleientiaid yn ogystal â chyflwyniadau byr gan arbenigwyr gofal iechyd ar gyflyrau iechyd perthnasol a gwrtharwyddo.

Bydd manylion am o ran amser, agenda a siaradwyr ar gael maes o law, ynghyd â gwybodaeth am sut i gadw lle. Bydd tystysgrif presenoldeb i'w defnyddio tuag at DPP hefyd ar gael. I'r rhai nad ydynt yn gallu bod yn bresennol, bydd yr hyfforddiant yn cael ei recordio a'i ddatblygu yn becyn eddysgu a fydd yn cael ei gynnal ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gofynnwch i'r Dermatolegydd

Beth yw MRSA? (Staffylococws awrëws sy'n gwrthsefyll Methisilin)

Mae MRSA yn fath o facteria sydd fel arfer yn byw heb wneud drwg ar groen neu drwyn pobl iach; cyfeirir weithiau at hyn fel "cytrefiad" ("colonisation") ac nid oes angen ei drin. Nid oes gan bobl sydd â chytrefiad unrhyw symptomau. Os yw'r bacteria yn mynd i mewn i'r croen, gall hyn achosi "haint".

Mae methisilin yn wrthfiotig a ddefnyddiwyd i drin yr heintiau hyn, ond mae'r bacteria wedi datblygu ymwrthedd iddo, ac mae hyn yn golygu nad yw'r gwrthfiotig bellach yn gweithio yn erbyn yr haint. Mae yna wrthfiotigau eraill y gellir eu defnyddio os oes gan rywun arwyddion clinigol o haint mewn briw neu gymal fel gwres, cochni, chwydd a phoen. Ar y cyfan mae pobl sydd mewn perygl o gael MRSA yn sâl iawn neu â salwch cronig (hirdymor).

Sut mae MRSA yn lledaenu? 

Mae MRSA yn cael ei ledaenu drwy ddwylo o rywun sydd â'r bacteria (cyswllt uniongyrchol) i berson arall neu drwy gyffwrdd offer neu arwynebau nad ydynt wedi'u dihalogi'n ddigonol (cyswllt anuniongyrchol). Felly, mae'n hanfodol gweithredu rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol gyda phob cleient o hyd, gan gynnwys golchi dwylo yn rheolaidd, glanhau offer ac arwynebau, dihalogi offer, gwaredu gwastraff yn ddiogel a defnyddio menyg pan fyddwch yn dod i gysylltiad â gwaed a hylifau corfforol. Dylai'r gweithgareddau hyn gael eu cynnal gyda phob cleient

A ddylwn i roi triniaeth arbennig ar rywun sydd wedi cael MRSA?

Yn gyntaf, ni fydd y mwyafrif o bobl yn gwybod bod ganddynt MRSA ar eu croen, a dyna pam felly ei bod yn bwysig gweithredu'r rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol, fel yr amlinellir uchod. Os yw unigolyn wedi cael triniaeth ar gyfer MRSA yn yr ysbyty neu gan feddyg teulu yn ddiweddar neu wedi cael gwybod bod y bacteria wedi cytrefu arno, dylid rhoi gwybod i'r unigolyn y gallai fod mewn perygl o gael haint os caiff y croen ei dorri wrth gynnal y driniaeth arbennig. 

Pa gamau y dylwn i eu cymryd os yw fy nghleient wedi cael triniaeth ar gyfer MRSA yn ddiweddar?

Gan fod llawer o bobl sydd wedi cael triniaeth ar gyfer MRSA naill ai wedi bod yn ddifrifol wael neu'n dioddef salwch cronig, mae'n bwysig cadarnhau gyda'r cleient ei fod yn ddigon ffit ac iach i gael y driniaeth arbennig. Os yw'n ffit ac yn iach, mae'n bwysig bod yn glir gyda'r cleient y gallai fod mewn perygl o gael haint pan fydd y croen yn cael ei dorri o ganlyniad i gael y driniaeth arbennig. 

O ran y risg o haint, bydd gweithredu'r rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol o hyd, yn enwedig golchi dwylo yn rheolaidd, glanhau a diheintio offer ac arwynebau, dihalogi offer, gwaredu gwastraff yn ddiogel a defnyddio menyg pan fyddwch yn dod i gysylltiad â gwaed a hylifau corfforol, yn lleihau'r risg hon o MRSA a heintiau staffylococol eraill.

Hepatitis B

Rydym yn cael llawer o ymholiadau ynghylch y brechiad Hepatitis B i'r rhai sy'n cyflawni triniaethau arbennig. Nid yw'n fwriad gennym ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr gael y brechiad hwn er mwyn gwneud cais am drwydded. Fodd bynnag, byddai cael y brechiad yn cael ei ystyried yn arfer da.

Beth yw Hepatitis B? 

Mae'r feirws hepatitis B (HBV) yn achosi haint ar yr afu. Mae'r feirws yn trosglwyddo (o un person i'r llall) o ganlyniad i gysylltiad â gwaed neu hylifau corfforol heintiedig. Yn y sefyllfa hon, mae trosglwyddiad yn bosibl yn sgil anaf â nodwydd. Argymhellir bod gweithwyr sydd mewn mwy o berygl galwedigaethol o gael anaf gan offerynnau miniog sydd wedi'u halogi â gwaed (nodwyddau / llafnau ac ati) yn cael y brechlyn ar gyfer atal Hepatitis B

Sawl dos sydd ei angen arnaf? 

Yn gyffredinol, mae angen tri brechiad ar wahân drwy bigiad yn rhan uchaf y fraich dros gyfnod o chwe mis. Nid yw Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell unrhyw frechiadau atgyfnerthu pellach. Mewn achos dilynol o anaf â nodwydd, dylid golchi'r ardal a cheisio cyngor meddygol.

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Yn anffodus, mae hyn yn wahanol ar draws Cymru. Gallwch ddechrau gyda'ch meddyg teulu a gweld a yw'n darparu'r gwasanaeth, neu efallai y bydd y meddyg teulu yn gallu eich cyfeirio at feddygfa arall. Fel arall, gall rhai fferyllfeydd ar y stryd fawr a Chlinigau Teithiol gynnig y brechiad. Bydd rhaid talu am bob brechiad a roddir (cyfanswm o oddeutu £150 ar adeg ysgrifennu'r cylchlythyr hwn).

Fe'ch cynghorir i gael prawf gwaed 2-3 mis ar ôl y cwrs i wirio bod gennych imiwnedd. Bydd y prawf yn edrych ar y lefelau gwrthgyrff yn eich gwaed i wirio eich bod yn gallu ymladd yr haint. Efallai y gellir trefnu hyn drwy eich meddyg teulu, neu fel arall, gall roi cyngor ichi ynglŷn â ble y gellir gwneud hyn. 

Yn anaml iawn, nid yw rhai yn ymateb i'r brechiadau ac mae eu lefelau o wrthgyrff yn isel iawn. Os felly, bydd eich meddyg teulu yn eich cynghori ar y camau i'w cymryd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y ddolen hon: Hepatitis B: the green book, chapter 18 - GOV.UK (www.gov.uk)