Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 – Triniaethau Arbennig 

Cyflwyno’r Cynllun Trwyddedu Mandadol yng Nghymru - Cylchlythyr Ymarferwyr Rhif 10

Mae'r cylchlythyr hwn yn cynnwys y diweddaraf gan y Canolfannau Hyfforddi Cymeradwy sy'n cynnig Dyfarniad Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd (RSPH) Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig. Mae hefyd yn rhoi diweddariad byr o'r weminar a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr ac eglurhad pellach ynglŷn â'r ffioedd trwyddedu cenedlaethol dangosol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Mae ein hymateb i'r ymgynghoriad cyntaf yn cael ei gyfieithu ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Rydym wrthi'n cwblhau'r ymgynghoriad nesaf a'r olaf a fydd yn rhoi cyfle i randdeiliaid ymateb i'n rheoliadau drafft. Byddwn yn rhoi gwybod ichi pan fydd yn cael ei gyhoeddi. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: Sarah.Jones058@llyw.cymru

Dyfarniad Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd (RSPH) Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig

Y diweddaraf gan y Canolfannau Hyfforddi Cymeradwy

Cognition Training

rydym wedi strwythuro ein cwrs mewn modd sy'n caniatáu i stiwdios brynu cynnwys y cwrs a cheisiadau arholiad ar wahân gan wneud y broses yn fwy costeffeithiol i stiwdios sydd â nifer o staff neu artistiaid. Byddwn yn rhoi system ar waith lle bydd ceisiadau arholiad yn cael eu prosesu ar yr 20fed o bob mis er mwyn i'r RSPH drefnu dyddiad yr arholiad yn uniongyrchol â'r ymgeiswyr eu hunain. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: info@cognition.training

Gweler isod y dolenni at ddeunyddiau'r cwrs a'r ceisiadau arholiad. 

Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Triniaethau Arbennig – Cognition Training

Cais arholiad ar gyfer Dyfarniad RSPH Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau – Cognition Training  

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen

bellach wedi lansio fersiwn ar-lein o'r dyfarniad Lefel 2 sy'n costio £99. Ewch i'r ddolen isod. Mae'r ddogfen PDF sydd wedi'i hatodi yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Y Cyngor Cymwysterau ar gyfer Triniaethau Cosmetig (QCCP)

Mae'r e-ddysgu ar Atal a Rheoli Heintiau, sy'n cael ei ddarparu gan y Cyngor Cymwysterau, wedi cael marc 10/10 yn seiliedig ar adborth gan ymarferwyr, gyda chyfradd basio o 100% ar hyn o bryd.

Mae'r Cyngor yn annog ymarferwyr i fanteisio ar y gostyngiad sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y cymhwyster Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau. Cofrestrwch cyn diwedd 2023 i gael gostyngiad o 25% oddi ar ffi'r cwrs. Cofrestrwch yma RSPH Cofrestru ar gyfer Lefel 2 - (qccp.org.uk) 

Coleg Llandrillo - Grŵp Llandrillo Menai Gogledd Cymru. 

Caiff y Dyfarniad hwn mewn Atal a Rheoli Heintiau ei gynnig ar draws siroedd Gogledd Cymru. Gellir dod o hyd i ddyddiadau a manylion ymgeisio yn y ddolen hon: Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau 

Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024, mae gostyngiad yng nghost y cwrs (o £185 i £150). Archebwch eich lle cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio'r ddolen uchod. Archebwch a thalu ar-lein. Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar y cwrs.

Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS).

Gellir dod o hyd i fanylion pellach a dyddiadau sydd ar y gweill, pan fyddant wedi'u cadarnhau, yma, Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig (srs.wales). I gadw lle, neu os oes gennych ymholiad, cysylltwch â training-srswales@valeofglamorgan.gov.uk

MM Training Academy

Dylai ymarferwyr sydd â diddordeb yn ei chyrsiau gofrestru drwy fynd i www.mmtrainingacademy.co.uk a chlicio ar ‘online courses’. 

Gweminar Ymarferwyr a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr - 'Ymgynghori â Chleientiaid a Rheoli'

Daeth dros 130 o ymarferwyr i'r weminar hon. I'r rhai ohonoch chi a oedd yn bresennol ac a hoffai gael tystysgrif, cliciwch ar y dolenni isod i lenwi'r ffurflenni adborth a bydd tystysgrif yn cael ei hanfon atoch:

Dolen1 = https://forms.office.com/e/nkXtLH62Qp

Dolen 2 = https://forms.office.com/e/DVptqCE5Mu

Bydd y pecyn e-ddysgu ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael i'w ddefnyddio yn y flwyddyn newydd. Byddwn yn rhoi gwybod ichi pan fydd y pecyn ar gael. Yn y cyfamser, i'r rhai ohonoch chi nad oedd yn gallu bod yn bresennol, rydym wedi crynhoi'r negeseuon allweddol a rannwyd yn ystod dau o'r cyflwyniadau.

NODER: Yn ystod y weminar hon, holodd nifer o ymarferwyr gwestiynau ynglŷn â'r cynllun trwyddedu newydd. Rydym wedi nodi'r cwestiynau hynny ac yn bwriadu ymateb iddynt pan gyhoeddir y rheoliadau drafft. Bydd yr holl gwestiynau sy'n ymwneud ag ymgynghori â chleientiaid yn cael eu rhoi mewn adnodd Cwestiynau Cyffredin yn rhan o'r pecyn dysgu hwn.

Malisa Pierri, Nyrs Glinigol Arbenigol Arweiniol yng Nghanolfan Epilepsi Cymru: 

Mae epilepsi yn ddwy ffit neu ragor sy'n digwydd mwy na 24 awr ar wahân. Mae 80% o holl achosion o ffitiau epilepsi yn cael eu rheoli'n llwyr a dim ond 20% o ffitiau sy'n amrywio o ffitiau lluosog difrifol y dydd i un ffit bob 2 i 3 blynedd. Mae ffitiau'n digwydd mewn sawl ffurf wahanol. 

Os oes gan eich cleient epilepsi, mae'n bwysig gofyn:

  • pa fath o ffit mae'n ei chael?
  • beth sy'n digwydd pan fydd yn cael ffit?
  • pryd a pha mor aml mae'r ffitiau'n digwydd?
  • a oes unrhyw rybudd?

Wedi hynny, rydych chi mewn sefyllfa well i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth o ran a allwch chi roi'r driniaeth arbennig yn ddiogel.

Er enghraifft, os oes gan rywun hanes o ffitiau pan fydd yn cysgu, ni fydd rhaid ichi boeni am y person hwnnw yn cael ffit pan fydd yn effro. O dan yr amgylchiadau hyn, mae'r risg y bydd y person hwnnw yn cael ffit wrth gael triniaeth arbennig yn fach iawn.

Er, ar y llaw arall, os yw cleient yn cael ffit unwaith bob 3 wythnos, mae'r risg o gael ffit yn sylweddol uwch felly bydd angen ichi ofyn a yw'n cael rhybudd, sydd fel arfer yn deimlad neu feddwl pŵl. Er bod y risg yn gymharol uchel, os yw'r cleient yn cael rhybudd, mae'r risg o anaf yn isel gan fod modd i'r cleient ddweud wrthych ei fod yn mynd i gael ffit, ac os ydych chi wrthi yn rhoi triniaeth, gallwch stopio.

Os bydd ffit yn digwydd i rywun ag epilepsi, mae'n bwysig nodi, ar y cyfan, nad yw'n argyfwng meddygol (rydym yn gwybod eu bod yn byw gydag epilepsi ac y byddant yn cael ffitiau). Dylech greu amgylchedd diogel a sicrhau bod yr unigolyn yn ddiogel a bydd y ffit yn pasio. Os ydych yn bryderus am unrhyw reswm, gallwch ffonio am ambiwlans.

Mae dwy wefan ddefnyddiol sy'n cynnwys gwybodaeth am asesiadau risg, gwahanol fathau o ffitiau, sut i gadw rhywun yn ddiogel os ydynt yn cael ffit a llawer mwy:

Epilepsy action Ynglŷn ag epilepsi - Epilepsy Action

Epilepsy society https://epilepsysociety.org.uk/about-epilepsy

Emily van der Venter, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd (Lles Meddyliol) 

Rhannodd Emily lawer o wybodaeth ar reoli iechyd meddwl a lles meddyliol i geisio galluogi ymarferwyr i gyfeirio eu cleientiaid at gymorth priodol pe bai'r pwnc hwn yn dod i'r amlwg yn ystod sgwrs â chleientiaid. Yn ymarferwyr, efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol ichi hefyd, ond rydym yn cydnabod nad ydych yn arbenigwyr yn y maes hwn.

Am gynghorion ar sut i gynnal sgwrs gefnogol, manteisiwch ar y cwrs "Conversations in the Community" sy'n gwrs ar-lein 90 munud o hyd a ddarperir gan Mind yn rhad ac am ddim. 

Bywyd Actif – dyma gwrs ar-lein yn rhad ac am ddim i helpu i wella iechyd meddwl a lles https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/bywyd-actif/

Mae'r gwasanaeth ffôn GIG 111 – pwyso 2 ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos ledled Cymru i bobl o bob oed siarad â rhywun ar frys am eu hiechyd meddwl, neu os ydynt yn poeni am aelod o'r teulu GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y: Iechyd Meddwl a Lles 

Ffioedd Trwyddedu 

Yn ddiweddar, ar ran eu proffesiwn, cynigiodd Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd yng Nghymru ffioedd cenedlaethol ar gyfer y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig pan ddaw i rym yn 2024. Roedd hyn yn dilyn cydweithio â phob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. 

Mae'r ffioedd cenedlaethol hyn wedi'u cyfrifo ar sail adennill costau yn unig sy'n un o ofynion y Ddeddf i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio ag achos Hemming v Westminster City Council. Mae awdurdodau lleol yn cael eu gwahardd gan y gyfraith rhag gwneud elw o ffioedd cynlluniau trwyddedu - caniateir iddynt godi tâl am yr hyn sy'n rhesymol er mwyn talu am eu costau yn unig. 

Yn achos y ffi ymgeisio:

  • costau prosesu'r cais hyd at y pwynt pan fo'r awdurdod lleol yn penderfynu a ddylid rhoi'r drwydded/y dystysgrif cymeradwyo, neu ei gwrthod, ac 

ar gyfer y ffi cydymffurfio:

  • costau cynnal y cynllun o ddydd i ddydd, gan gynnwys cymorth a chyngor i ddeiliaid trwyddedau, gorfodi, a monitro cydymffurfiaeth yn ystod cyfnod y drwydded.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cael unrhyw ffioedd o'r cynllun trwyddedu ac nid oes ganddi unrhyw bŵer cyfreithiol i ddylanwadu ar gostau ffioedd. Ar ddiwedd y dydd, mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar gostau ffioedd. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru, drwy reoliadau, yn nodi'r hyn y caniateir i awdurdodau lleol godi tâl amdano.

Y cynllun cofrestru presennol a'r cynllun Trwyddedu newydd 

Ar hyn o bryd, mae pob unigolyn yng Nghymru sy'n rhoi un o'r pedair triniaeth arbennig wedi cofrestru â'i awdurdod lleol. Mae'r cofrestriad hwn yn gofyn am daliad untro ond nid oes amodau ynghlwm wrth y cofrestriad hwnnw. Yn y bôn, caniateir i unrhyw un, p'un a oes ganddynt brofiad neu a ydynt wedi derbyn hyfforddiant ai peidio, wneud cais am gofrestriad ac mae'n ofynnol i'w awdurdod lleol ei ganiatáu. O dan y cynllun presennol hwn, nid oes ychwaith safonau cyson o ran hylendid a rheoli heintiau y gellir eu gorfodi.

Mae cynlluniau trwyddedu yn gweithredu'n wahanol gan fod rhaid i unigolyn fodloni meini prawf penodol er mwyn cael trwydded, ac os cânt drwydded, rhaid i'r unigolyn weithredu i safon benodedig. Yn achos y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig, bydd safonau cyson o ran hylendid a rheoli heintiau yn ogystal â dull gorfodi mwy effeithiol a chyson.

Mae hyn yn sicrhau tegwch i ymarferwyr trwyddedig yn ogystal â diogelu iechyd y cyhoedd yn well ond mae angen mwy o adnoddau er mwyn gweithredu a monitro. Felly, yn hytrach na ffi untro, mae ffi ymgeisio a ffi i alluogi awdurdodau lleol i fonitro a yw deiliaid trwyddedau yn cydymffurfio. Wedi hynny, mae'n ofynnol i ddeiliaid adnewyddu eu trwyddedau/cymeradwyaeth bob tair blynedd. Maen nhw'n drwyddedau adnewyddadwy er mwyn sicrhau bod telerau'r drwydded/cymeradwyaeth yn parhau i fod yn berthnasol a bod safonau cymeradwy yn cael eu cynnal.

Cymeradwyodd Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd yng Nghymru y ffioedd cenedlaethol a ganlyn, felly byddant yr un fath ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru:

Cais newydd 

  • Trwydded triniaeth arbennig - £203
    • Ffi ymgeisio o £159 yn daladwy pan gyflwynir y cais.
    • Ffi cydymffurfio o £44 yn daladwy dim ond ar ôl i'r drwydded gael ei rhoi.
  • Tystysgrif cymeradwyo/cymeradwyo cerbyd newydd - £385
    • Ffi ymgeisio o £244 yn daladwy pan gyflwynir y cais. 
    • Ffi cydymffurfio o £141 yn daladwy dim ond ar ôl i'r dystysgrif cymeradwyo gael ei rhoi.

Adnewyddu 

  •  Trwydded triniaeth arbennig - £189 
    • Ffi ymgeisio o £147 yn daladwy pan gyflwynir y cais. 
    • Ffi cydymffurfio o £41 yn daladwy dim ond ar ôl i'r drwydded gael ei rhoi.
  • Tystysgrif cymeradwyo mangreoedd/cerbydau - £345
    • Ffi ymgeisio o £204 yn daladwy pan gyflwynir y cais.
    • Ffi cydymffurfio o £141 yn daladwy dim ond ar ôl i'r dystysgrif cymeradwyo gael ei rhoi.

Dim ond gan y rhai y rhoddir trwyddedau neu gymeradwyaethau iddynt y mae elfennau cydymffurfio'r ffioedd yn daladwy. Os bydd cais yn cael ei dynnu'n ôl gan yr ymgeisydd neu os caiff ei wrthod gan yr awdurdod lleol, ni chodir ffi cydymffurfio. Fodd bynnag, yn gyffredinol, ni ellir addalu ffioedd ymgeisio gan eu bod yn talu am gostau prosesu gwaith papur a gwneud penderfyniadau.

Bydd canllawiau ar sut y mae'r cynllun yn gweithio, yr hyn y mae angen ichi ei wneud i wneud cais, a'r hyn sy'n digwydd wedi hynny yn cael eu cyhoeddi'n agosach at ddyddiad dechrau'r cynllun.