FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Eiddo gwag ac ail gartrefi 

Eiddo gwag 

Os yw eich eiddo yn wag, a heb ei ddodrefnu, bydd wedi’i eithrio am y 6 mis cyntaf o’r dyddiad lle’r oedd heb i ddodrefnu. Gallai hyn fod cyn i chi gymryd yr eiddo drosodd, a fyddai'n golygu y byddech ond yn cael y rhan hynny o'r cyfnod eithrio 6 mis sy'n berthnasol i chi.

 Ar ôl i’r cyfnod hwn ddod i ben, bydd eich eiddo yn rhan o’r dosbarth anheddau dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae hyn yn rhoi disgresiwn i'r Cyngor i benderfynu p'un ai i ganiatáu gostyngiad neu beidio. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi penderfynu na roddir gostyngiad mewn perthynas â’r dosbarth eiddo hwn ac felly bydd y gost lawn yn daladwy.  

Ail gartrefi

Nid oes gostyngiad i eiddo gwag sydd wedi’i ddodrefnu neu ail gartrefi onid yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’n llain â charafán arni neu’n angorfa â chwch ynddi;
  • mae’r person cyfrifol hefyd yn berson cyfrifol i eiddo arall sy’n ymwneud â’i swydd, e.e. tafarnwr;
  • pan fo’r person cyfrifol yn aelod o’r lluoedd arfog a bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn darparu tŷ arall ar ei gyfer;
  • mae’r person cyfrifol wedi marw a naill ai nad yw profiant wedi’i ddyfarnu neu fod llai na 12 mis ers dyfarnu’r grant.