Bandiau a thaliadau treth y cyngor

Mae swm treth y cyngor yr ydych chi’n ei dalu yn dibynnu ar werth eich eiddo. Mae eich eiddo wedi’i brisio a’i roi yn un o naw band treth y cyngor gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n rhan o Gyllid y Wlad. 

Mae’r band prisio yn seiliedig ar werth yr eiddo ar 1 Ebrill 2003, nid ei werth cyfredol. Mae’r bandiau prisio yng Nghymru fel a ganlyn:

Band

Gwerth y tŷ

A

Hyd at £44,000

B

£44,001 i £65,000

C

£65,001 i £91,000

D

£91,001 i £123,000

E

£123,001 i £162,000

F

£162,001 i £223,000

G

£223,001 i £324,000

H

£324,001 i £424,000

I

£424,001 ac uwch

Ddim yn siŵr pa fand mae’ch eiddo chi'n perthyn iddo?

Edrychwch ar restr brisio treth y cyngor

Ar ôl i chi ganfod pa fand mae eich eiddo’n perthyn iddo, bydd y swm treth y cyngor yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar le rydych yn byw yn y fwrdeistref sirol. Cliciwch ar y ddolen isod:

Taliadau treth gyngor 2024/25

Sut caiff fy mil treth y cyngor ei gyfrifo?

Mae eich bil treth y cyngor yn cynnwys y tair elfen ganlynol:

  • Cost Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cost Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
  • Cost y Cyngor Cymuned (os oes un yn bodoli yn yr ardal)