Cyngor a Chymorth i Wirfoddolwyr
Os ydych chi'n wirfoddolwr eisoes, yn rhan o grŵp cymunedol neu'n ystyried bod yn wirfoddolwr neu sefydlu grŵp cymunedol, mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael yn y dolenni isod:
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent
Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent yn Gyngor Gwirfoddol Sirol dros Flaenau Gwent, Caerffili, Mynwy a Chasnewydd a gafodd ei sefydlu ym 1927 Mae gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent brofiad cyfoethog mewn gwirfoddoli, datblygu cymunedau a phrosiectau, hyfforddi ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol ac ymgysylltu â chymunedau.
Ewch i wefan Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent
CGGC
CGGC yw’r corff aelodaeth genedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, a’i bwrpas yw galluogi mudiadau gwirfoddol i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
Ewch i wefan CGGC
Dewis
Dewis Cymru yw'r lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall.
Ewch i wefan Dewis
Grantiau Cymunedol
Mae yna ystod eang o gynlluniau grant sy'n agored i geisiadau gan grwpiau a sefydliadau cymunedol.
Mae'r Cyngor yn gweinyddu rhai o'r grantiau'n uniongyrchol, ond mae eraill yn cael eu cynnal gan bartneriaid neu sefydliadau elusennol mawr eraill fel y Loteri Genedlaethol.
Bydd gan bob grant thema neu ddiben gwahanol y maen nhw’n dymuno i'w harian gael ei ddefnyddio tuag atyn nhw, a set o feini prawf y mae'n rhaid i grwpiau eu bodloni.
Ewch i dudalen we Grantiau Cymunedol
Gallai Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent hefyd eich helpu i gyrchu cynlluniau grant eraill felly cysylltwch â nhw os nad oes unrhyw beth yn eich gweddu chi yma.