FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Amgueddfa'r Tŷ Weindio

Mae gan y Tŷ Weindio grŵp Cyfeillion a Gwirfoddolwyr llewyrchus a brwdfrydig. Maen nhw'n cynorthwyo’r Tŷ Weindio mewn nifer o ffyrdd, o godi arian a hyrwyddo, i gymorth ymarferol.         

Mae Cyfeillion a Gwirfoddolwyr y Tŷ Weindio yn helpu i gynorthwyo'r amgueddfa drwy:

  • Weithredu fel clwb cefnogwyr i ennyn brwdfrydedd dros y Tŷ Weindio.
  • Annog eraill i ddod a mwynhau'r Tŷ Weindio a chymryd rhan yn ei weithgareddau.
  • Cynorthwyo i godi arian i ehangu gwasanaethau a chyfleusterau'r Tŷ Weindio.
  • Cael cyfle i wirfoddoli yn y Tŷ Weindio a helpu i ddarparu gwasanaethau gwell a newydd.
  • Cyfrannu at dwf a llwyddiant y Tŷ Weindio i'r dyfodol.

Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?

Gallwch chi dderbyn yr holl fuddion yma, yn ogystal â bod yn rhan o brosiectau cyffrous a helpu gyda phob math o agweddau o'r amgueddfa:   

  • Tîm Blaen Tŷ - helpu i groesawu a gofalu am anghenion ymwelwyr.      
  • Tîm Digwyddiadau - helpu i gynnal digwyddiadau arbennig ar gyfer ein hymwelwyr.
  • Tîm Dysgu - helpu i gynnal sesiynau dysgu a gweithgareddau ar gyfer ymweliadau gan grwpiau ysgol.
  • Tîm Rheoli Casgliadau - cofnodi a dogfennu ein casgliad cynyddol o arteffactau.
  • Tîm Cynnal a Chadw’r Injan - helpu i ofalu am ein hinjan weindio.
  • Tîm Ymchwil - archwilio a hyrwyddo treftadaeth yr ardal.
  • Tîm Arddangosfeydd - cyfrannu at arddangosfeydd newydd.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?

Byddwch chi'n derbyn llawer o fuddion fel Cyfaill neu Wirfoddolwr y Tŷ Weindio, gan gynnwys:

  • Disgownt o 10% yn Siop Anrhegion a Siop Goffi’r Tŷ Weindio.
  • Rhagarddangosfeydd unigryw a derbyniadau gwin ar gyfer ein holl arddangosfeydd newydd.
  • Cyfle i fod yn rhan o drafodaethau ar gynlluniau ar gyfer y Tŷ Weindio yn y dyfodol.
  • Parti Nadolig Cyfeillion a Gwirfoddolwyr – cyfle i ddod ynghyd a mwynhau ychydig o hwyl yr ŵyl yn yr amgueddfa!
  • Mynediad â blaenoriaeth i’n llyfrgell ymchwil a’r casgliadau ymchwil hanes teulu.
  • Cyfle i fynychu ein cyfarfod blynyddol i ddarganfod sut mae eich aelodaeth wedi helpu i gynhorthwyo’r amgueddfa.
  • Rhagolwg o beth sydd ar y gweill yn y flwyddyn i ddod!

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Mae ffurflenni cais neu ragor o wybodaeth am ddod yn Gyfaill neu Wirfoddolwr ar gael ar wefan y Tŷ Weindio.