Llancaiach Fawr
Mae Maenordy Llancaiach Fawr yn atyniad i dwristiaid sy'n croesawu tua 60,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, mae'n cynnwys y Maenordy sydd wedi'i ddodrefnu fel y byddai wedi bod yn 1645.
Mae dehonglwyr mewn gwisg o'r cyfnod yn dangos ymwelwyr o gwmpas tra'n siarad y Saesneg hen ffasiwn. Mae yna gaffi, bwyty, siop anrhegion, arddangosfa a gerddi yn ogystal ag ystafelloedd digwyddiadau, ystafelloedd addysg ac ardal chwarae.
Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?
Creu cysylltiadau, cwrdd â phobl o'r un anian, dysgu rhywbeth newydd. Bod yn rhan o gymuned greadigol lewyrchus yng nghanol Cymoedd De Cymru.
Mae cymaint o’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn deillio o’n tîm ymroddedig o wirfoddolwyr, mae pob gwirfoddolwr yn gwneud gwahaniaeth gwerthfawr i Faenordy Llancaiach Fawr.
Rydyn ni wedi ymrwymo i flaenoriaethu lles ein gwirfoddolwyr ac yn cydnabod y llawenydd o gymryd rhan mewn cyfleoedd deniadol a hyblyg. Os ydych chi'n mwynhau hanes a threftadaeth, eisiau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned a bod yn rhan o dîm a fydd yn eich codi a'ch cefnogi, yna gallai gwirfoddoli gyda ni fod yn addas i chi.
Fel aelod gwerthfawr o'n tîm byddwch chi’n:
- Cael eich gwahodd i ddigwyddiadau cymdeithasol gwirfoddol rheolaidd
- Cael eich gwahodd i fynychu Fforymau Gwirfoddolwyr
Ar hyn o bryd rydyn ni’n derbyn ceisiadau ar gyfer gwirfoddolwyr garddio a chynnal a chadw.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?
Beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwch chi’n cael eich gwahodd i sesiwn sefydlu ac yn dilyn hynny, byddwch chi’n cael mynediad at ein hystod lawn o gyfleoedd a gallwch gofrestru ar gyfer eich sesiwn wirfoddoli gyntaf. Byddwn ni’n sicrhau eich bod wedi'ch hyfforddi'n llawn ac yn eich paru â chyfaill gwirfoddol i'ch helpu i ddechrau arni.
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn y Maenordy, cysylltwch â Sean neu Louise ar 01443 412248
neu e-bostio llancaiachfawr@caerffilli.gov.uk