Mannau Croesawgar

Mae Mannau Croesawgar (neu Canolfannau Clyd) wedi’u sefydlu ar draws y fwrdeistref i ddarparu canolfan glyd a wyneb cyfeillgar.  Mae nhw wedi’u sefydlu mewn lleoliadau amrywiol fel llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, neuaddau eglwysi a chlybiau chwaraeon.  Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth a lleoliadau’r mannau croesawgar.

Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?

  • Paratoi'r ystafell gyda byrddau a chadeiriau
  • Cwrdd a chyfarch cwsmeriaid
  • Cymryd archebion, gweini bwyd a diod
  • Sgwrsio â phobl a chyfeirio at wasanaethau pan fo angen
  • Bod yn rhan o bwyllgor y grŵp sy’n rhedeg y Mannau Croesawgar

Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?

  • Cwrdd a chymdeithasu gyda phobl newydd
  • Mynediad at hyfforddiant priodol
  • Bod yn rhan o dîm cefnogol

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Cysylltwch â Gofalu am Gaerffili
E-bost: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443811490