Siop Ailddefnyddio Penallta

Rydyn ni'n rheoli siopau ailddefnyddio ledled ardal De-ddwyrain Cymru, rydyn ni'n cynnig lleoliadau gwirfoddoli mewn manwerthu, TG, cynorthwyo gyda Phrofion Dyfeisiau Cludadwy (PAT) a gweinyddu. Mae ein hamcanion ni yn:

  • Amgylcheddol; atal dodrefn ac eitemau trydanol rhag mynd i'r safleoedd tirlenwi ac i hyrwyddo'u hailddefnyddio fel rhan o'r economi gylchol;
  • Economaidd – darparu dodrefn a chyfarpar TG cost-isel i deuluoedd a chymunedau difreintiedig;
  • Cymdeithasol – darparu lleoliadau a rhaglenni o ansawdd i bobl yn y gymuned sydd eisiau symud yn agosach i'r farchnad swyddi neu er mwyn 'rhoi rhywbeth yn ôl'.  

Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?

Bydd gwirfoddolwyr yn ennill sgiliau gwerthfawr mewn manwerthu a gweithio gydag eraill, byddan nhw'n gweld yn uniongyrchol sut mae'r economi gylchol yn gweithio ac yn cael hwyl yn y broses! Rydyn ni'n cynnig proses ymsefydlu llawn, a fydd yn cynnwys hyfforddiant codi a chario, rydyn ni'n darparu esgidiau diogelwch a festiau llachar.  

Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?

Rydyn ni'n darparu amgylchedd croesawgar a meithringar, mae gennym ni ystod eang o wirfoddolwyr o gefndiroedd amrywiol. Byddwn ni'n darparu hyfforddiant mewn codi a chario ac yn darparu £5.00 o dreuliau gwirfoddoli.

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Saffron Doney – Rheolwr Gwirfoddolwyr

E-bost: saffrondoney@wastesavers.co.uk
Ffôn: 07912 084706
Gwefan: www.wastesavers.co.uk/reuse