Rail linc
rail linc 901 yw’r gwasanaeth penodedig, cyflym a chyfleus sy’n cysylltu gorsaf Ystrad Mynach â Choed Duon, Pontllan-fraith a Maes-y-cwmwr.
Mae’r amserlen wedi’i llunio i gwrdd â’r trên fel y bod y mwyafrif o’r teithiau rhwng Coed Duon a Chaerdydd yn para am lai nag awr.
Neidiwch ar y bws, prynwch eich tocyn oddi wrth y gyrrwr rail linc a’i ddefnyddio ar y trên. Neu, os ydych chi’n cychwyn eich taith ar y trên, gofynnwch am rail linc Coed Duon.
Amserlen Rail linc
Prisoedd
Os ydych chi’n cychwyn eich taith ar rail linc – prynwch eich tocyn oddi wrth y gyrrwr.
Os ydych chi’n cychwyn eich taith ar y trên – gofynnwch am rail linc y Coed Duon wrth brynu eich tocyn yn yr orsaf neu oddi wrth y casglwr tocynnau ar y trên.
Prisiau i oedolion
Taith sengl - £5.70
Taith ddwyffordd - £8.70
Tocyn wythnosol - £31.50
Prisiau i blant
Taith sengl - £2.85
Taith ddwyffordd - £4.35
Tocyn wythnosol - £15.25
Prisiau gyda cherdyn ieuenctid
Taith sengl - £3.75
Taith ddwyffordd - £5.75
Am fanylion pellach gofynnwch i’r aelodau staff yn y gorsafoedd, ffoniwch 0345 748 4950 neu ewch i www.trctrenau.cymru.
Ariennir rail linc 901 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a chaiff ei weithredu gan N.A.T. Group.