FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Gorfodi bathodynnau glas

Blue badgeCyfrifoldeb y person a enwir ar y bathodyn glas yw sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio'n gywir. Mae'r bathodyn a'i gonsesiynau at ddefnydd y deiliaid a enwir yn unig.

Bydd sicrhau bod y cynllun ddim yn cael ei gamddefnyddio o fudd i ddeiliaid bathodynnau dilys. 

Mae'n drosedd i chi neu unrhyw un arall gamddefnyddio'r bathodyn, a gallai gwneud hynny arwain at ddirwy o £1,000. 

Bwriedir y bathodyn ar gyfer parcio ar y stryd yn unig. Mae meysydd parcio oddi ar y stryd, fel y rhai a ddarperir mewn meysydd parcio awdurdod lleol, ysbyty neu archfarchnad yn dod o dan reolau ar wahân.

Mae'r ddolen ganlynol yn darparu gwybodaeth ar sut a phryd y dylid defnyddio'ch bathodyn, gan gynnwys lle y gallwch ac na allwch barcio. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddefnyddio'ch bathodyn glas dramor.

Mwy o wybodaeth am fathodynnau glas