Cysylltwyr Lles
Mae gan Gyngor Caerffili Gysylltwyr Lles sy'n gweithio gydag oedolion ledled y Fwrdeistref Sirol. Byddan nhw'n ceisio ailgysylltu pobl â'u cymunedau trwy eu helpu nhw i ddod o hyd i weithgareddau a grwpiau addas, cysylltu pobl sydd â diddordebau tebyg ac annog cymryd rhan o fewn eu cymuned. Nod Cysylltwyr Lles yw:
- Gwella lles cymdeithasol ac emosiynol
- Meithrin annibyniaeth
- Lleihau ynysigrwydd ac unigrwydd cymdeithasol ac emosiynol
- Helpu pobl i deimlo fel rhan o'r gymuned
- Cydlynu gwasanaethau cymorth priodol i hwyluso canlyniadau cadarnhaol ar gyfer achosion cymhleth
- Darparu gwybodaeth a chyngor ar grwpiau a gweithgareddau cymunedol addas
Os hoffech wybod mwy cysylltwch â ni.