PRESS Tir-y-Berth

Adroddiad Monitro Contract

  • Man preswyl: 3 Woodside, Tir Y Berth
  • Enw/Cyfeiriad y darparwr: Press, Festival House, Parc Busnes Fictoria (D) Glynebwy NP23 8ER
  • Dyddiad yr ymweliad: 20 Gorffennaf 2023
  • Swyddog ymweld: Ceri Williams, Swyddog Monitro Contractau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cefndir

Mae 3 Woodside yn fyngalo mawr, ar wahân sydd wedi’i leoli yn Nhir-y-berth, yn agos at yr holl amwynderau. Mae'r eiddo wedi'i gofrestru i ddarparu gofal personol a llety i hyd at dri oedolyn sydd ag anableddau dysgu. Ar adeg yr ymweliad, roedd dau berson yn byw yn y cartref gydag un lle gwag.

Cynhaliwyd yr ymweliad monitro blaenorol ym mis Ionawr 2020.  Dyma'r ymweliad monitro cyntaf ers pandemig Covid-19 ac nid yw argymhellion blaenorol wedi'u hystyried.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, rhoddir camau unioni a datblygiadol i'r darparwr eu cwblhau. Camau unioni yw'r rhai y mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â’r ddeddfwriaeth ac ati), a chamau datblygiadol yw'r rhai yr ystyrir eu bod yn arfer da i'w cwblhau.

Canfyddiadau o’r Ymweliad

Dogfennaeth

Roedd y cynlluniau personol a welwyd yn fanwl ac yn canolbwyntio ar unigolion ac yn cynnwys digon o fanylion i staff gynorthwyo preswylwyr i gyflawni canlyniadau. Roedd cynlluniau personol y preswylwyr yn cynnwys yr holl anghenion gofal a chymorth a nodwyd yng nghynllun gofal a chymorth y Cyngor.

Roedd asesiadau risg addas ar waith i ddiwallu anghenion gofal ac iechyd unigolion. Roedd asesiad risg penodol yn ymwneud ag un o anghenion iechyd un o’r preswylwyr a ysgrifennwyd gan gydweithwyr iechyd. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y risgiau sy'n gysylltiedig â'r angen iechyd penodol, a sut i reoli’r angen hwnnw ar gyfer yr unigolyn.  Argymhellwyd ychwanegu taflen ddarllen a llofnodi i staff sicrhau eu bod nhw wedi darllen a deall yr asesiad risg.

Roedd dogfennaeth ar ffeil yn cyfeirio at ymarferion penodol a ddarparwyd gan weithwyr ffisiotherapi ar gyfer un unigolyn, fodd bynnag, nid oedd cyfeiriad at yr ymarferion yn y cynllun personol unigol a dim gwybodaeth mewn cofnodion dyddiol ynghylch a oedden nhw wedi'u cwblhau.

Roedd tystiolaeth bod cynlluniau personol yn cael eu hadolygu bob tri mis fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth.  Fodd bynnag, nid oedd tystiolaeth bod yr unigolyn yn rhan o'r adolygiad o'i gynlluniau personol.  Caiff Asesiadau Risg eu hadolygu'n flynyddol, gan fod y rhain yn rhan o'r cynllun personol ar gyfer unigolyn, dylid adolygu asesiadau risg bob tri mis i sicrhau eu bod nhw’n dal i adlewyrchu'r risgiau sy'n gysylltiedig â darparu cymorth yn gywir.

Cynorthwyir unigolion gydag apwyntiadau meddygol arferol ac roedd tystiolaeth hefyd ar gael o atgyfeiriadau yn cael eu gwneud at asiantaethau allanol ynghylch iechyd a lles unigolion.

Mae diddordebau, gweithgareddau, sgiliau ymarferol a manylion gofal personol yn cael eu cofnodi'n ddyddiol ar gofnodion 'Keeping Track' fel tystiolaeth bod canlyniadau preswylwyr yn cael eu cyflawni.

Gweithgareddau

Trefnir gweithgareddau gyda'r unigolyn a'u gweithiwr allweddol a gan ystyried dewisiadau personol. Mae amserlen weithgareddau ar waith, fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar yr unigolyn a'i ddewisiadau. Roedd tystiolaeth ar gael bod preswylwyr yn mynd i’r gymuned yn rheolaidd er mwyn siopa, cael prydau bwyd a gwneud gweithgareddau fel mynychu sioeau a gemau rygbi.  Dywedodd staff hefyd eu bod nhw’n ddiweddar wedi dod o hyd i weithgaredd roedd un preswylydd yn arfer ei fynychu cyn y pandemig, a'u bod nhw’n gobeithio ailddechrau'r gweithgaredd yn fuan.

Meddyginiaeth

Mae meddyginiaeth yr holl breswylwyr yn cael ei chadw'n ddiogel mewn cabinet sydd wedi’i gloi yn swyddfa’r staff. Roedd Cofnodion Rhoi Meddyginiaethau a welwyd yn dangos bod meddyginiaeth wedi cael ei rhoi'n gywir yn y mis presennol.  Mae meddyginiaethau'n cael eu cyfrif bob dydd ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi ac mae’r tîm rheoli’n cyflawni archwiliadau yn wythnosol.

Maeth

Mae'r preswylwyr yn cymryd rhan yn y gwaith o ddewis y fwydlen wrth benderfynu beth hoffen nhw ei fwyta ac maen nhw bob amser yn cael cynnig dewis. Mae pob preswylydd yn cael mynd i’r siop i brynu nwyddau ar gyfer y cartref ac yn cael eu hannog hefyd i helpu gyda pharatoi bwyd. Mae diet iach yn cael ei sicrhau trwy gynorthwyo'r preswylwyr i ddewis opsiynau iach lle bo hynny'n bosibl a drwy fonitro pwysau.

Iechyd a Diogelwch Tân

Mae unrhyw ddamweiniau neu achosion yn cael eu cofnodi, a hysbysir yr uwch reolwyr. Cynhelir nifer o archwiliadau wythnosol a misol i sicrhau cydymffurfio o ran iechyd a diogelwch. Roedd tystiolaeth ar gael o gwblhau driliau tân ac maen nhw’n cael eu cofnodi ynghyd â rhestr o’r unigolion a gymerodd ran.

Recriwtio, Goruchwylio a Hyfforddi Staff

Ystyriwyd dwy ffeil staff fel rhan o'r ymweliad monitro. Roedd yr holl dystiolaeth ddogfennol angenrheidiol o ran recriwtio ar gael ar ffeil gan gynnwys prawf hunaniaeth, geirdaon gan gyflogwyr blaenorol, tystiolaeth o wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ffurflenni cais a chontractau cyflogaeth.

Darparwyd matrics hyfforddi staff a oedd yn dangos bod staff wedi cael hyfforddiant mewn cyrsiau gorfodol ac anorfodol.  Fodd bynnag, nid oedd mwyafrif y staff wedi cael hyfforddiant mewn Rheoli Heintiau na Diogelu Oedolion Agored i Niwed.

Nodwyd hefyd nad oedd mwyafrif y staff wedi cael neu angen hyfforddiant diweddaru ynghylch cyflwr meddygol penodol y mae un o'r preswylwyr wedi cael diagnosis ohono, er bod hyn yn cael ei argymell yn yr asesiad risg a ddarparwyd gan y bwrdd iechyd.

Darparwyd matrics goruchwylio staff hefyd a chafwyd tystiolaeth bod staff yn cael eu goruchwylio’n rheolaidd gan eu rheolwr o fewn yr amserlenni a bennir mewn rheoliadau. Dangosodd dogfennaeth oruchwylio fod sesiynau goruchwylio yn ystyrlon ac yn rhoi cyfle i’r aelodau o staff drafod eu rôl, datblygiad, cynnydd mewn camau gweithredu o sesiynau blaenorol ac unrhyw gymorth arall y gallai fod ei angen.

Edrychwyd ar arfarniadau blynyddol hefyd ac roedden nhw’n ddogfennau cynhwysfawr a oedd yn rhoi cyfle i gael adborth ar amrywiaeth o feysydd sy'n ymwneud â pherfformiad a datblygiad.

Sicrwydd Ansawdd

Darparwyd dau adroddiad ymweliad diwethaf yr Unigolyn Cyfrifol. Roedd y cofnodion hyn yn dangos bod yr ymweliadau â'r gwasanaeth yn cael eu cynnal gan yr Unigolyn Cyfrifol mewn modd amserol ac roedden nhw’n cynnwys adborth gan breswylwyr a nifer o wiriadau a gynhaliwyd yn y gwasanaeth a hefyd unrhyw gamau i'w cwblhau yn dilyn yr ymweliad.

Darparwyd dau adroddiad ansawdd gofal hefyd ac roedden nhw’n cael eu cwblhau o fewn amserlenni a bennir mewn rheoliadau. Roedd yr adroddiad diweddaraf yn dilyn y templed a argymhellwyd gan y rheoleiddiwr ac roedd yn fanwl, gan gynnwys camau gweithredu ar gyfer gwella a datblygu.

Amgylchedd

Gwnaed gwelliannau sylweddol yn yr eiddo ers yr ymweliad diwethaf, gan gynnwys ailaddurno, lloriau newydd a dodrefn newydd. Mae'r cartref wedi'i addurno mewn modd cartrefol ac mae'n gyfforddus ac yn hygyrch i'r preswylwyr sy'n byw yno. Mae ffotograffau o'r preswylwyr yn mwynhau gweithgareddau yn cael eu harddangos a hefyd celf a chrefftau a grëwyd ganddyn nhw.

Gwelwyd un o ystafelloedd gwely'r preswylwyr wrth ymweld a gwelwyd ei fod newydd ei addurno, yn lân ac wedi'i bersonoli. Dywedodd y preswylydd wrth y swyddog monitro ei fod wedi bod yn rhan o’r gwaith o ailaddurno ei ystafell yn dewis lliwiau a dodrefn.

Nid oedd unrhyw ddrewdod na pheryglon trwy’r holl eiddo.

Adborth Staff

Roedd aelod o staff yn gallu rhoi adborth ynghylch gweithio yn y cartref yn ystod yr ymweliad. Dywedodd ei fod yn mwynhau gweithio yn y cartref ac yn teimlo ei fod yn cael ei gynorthwyo yn ei rôl.  Dangosodd staff wybodaeth dda o'r preswylwyr y maen nhw’n eu cynorthwyo. Dywedodd staff eu bod nhw’n mynd i'r gymuned yn ddyddiol gyda phreswylwyr, ond mae ganddyn nhw hefyd amser i eistedd a siarad â phreswylwyr, ac nid ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw wedi'u cyfyngu gan dasgau ac arferion. Roedden nhw’n teimlo eu bod yn gallu ac yn cael eu hannog i wneud awgrymiadau ynghylch gweithredu’r cartref yn gyffredinol ac yn gallu nodi eu hanghenion hyfforddi eu hunain trwy oruchwyliaeth.

Adborth Preswylwyr

Dywedodd y preswylydd a siaradwyd ag ef am adborth ei fod yn hapus yn byw yn y cartref ac yn cyd-dynnu'n dda gyda'r staff a'r bobl eraill oedd yn byw yno.  Dywedodd ei fod yn teimlo'n dda ac yn trafod gweithgareddau roedd wedi eu mwynhau yr wythnos honno a gweithgareddau a gynlluniwyd ar ei gyfer yn y dyfodol.

Camau Unioni

Y Cynllun Personol i gynnwys yr holl anghenion gofal a chymorth a nodwyd a'r camau sydd eu hangen i fodloni llesiant yr unigolion a sut y byddan nhw’n cael eu cynorthwyo i gyflawni canlyniadau. Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Rheoliad 15.

Cynnal adolygiadau sy'n cynnwys yr unigolyn a, lle bo'n briodol, gyda chytundeb yr unigolyn neu ei gynrychiolydd.

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Rheoliad 16.

Dylid adolygu Asesiadau Risg (fel rhan o'r Cynllun Personol cyffredinol) o leiaf bob tri mis. Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Rheoliad 16.

Yr holl staff i gael hyfforddiant ynghylch Rheoli Heintiau. Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Rheoliad 56.

Yr holl staff i gael hyfforddiant ynghylch Diogelu Oedolion Agored i Niwed. Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Rheoliad 26.

Yr holl staff i gael hyfforddiant fel y nodir yn yr asesiad risg sy'n ymwneud â chyflwr meddygol unigolyn. Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Rheoliad 36.

Camau Datblygiadol

Ni nodwyd unrhyw gamau datblygiadol yn ystod yr ymweliad hwn.

Casgliad

Roedd yn ymweliad cadarnhaol â'r cartref, y cyntaf ers y pandemig, ac roedd yn braf gweld gwelliannau yn cael eu cyflawni wrth adnewyddu'r cartref.  Roedd yr unigolion oedd yn byw yn y cartref yn hapus ac yn fodlon yng nghwmni ei gilydd a'r staff. Roedd y staff yn wybodus ac yn rhyngweithio'n gadarnhaol â'r unigolion y maen nhw’n eu cynorthwyo. Anogir Press i sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant craidd ac arbenigol perthnasol i'w galluogi i gyflawni gofynion eu rôl, a diwallu anghenion yr unigolion maen nhw’n eu cynorthwyo, cyn gynted â phosibl. Hoffai'r swyddog monitro ddiolch i breswylwyr a staff am eu croeso yn ystod yr ymweliad.

  • Awdur: Ceri Williams
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: 12 Medi 2023