Cartref Gofal Abermill

Stryd Thomas, Abertridwr, Caerffili, CF83 4AY.
Ffôn: 029 2083 1622
E-bost: abermill@hc-one.co.uk
Gwefan:www.hc-one.co.uk

Adroddiad Monitro Cytundeb

Enw Darparwr:  Canolfan Ofal Abermill, Thomas Street, Abertridwr, Caerffili CF83 4AY
Dyddiad / Amser yr Ymweliad: Dydd Mercher 10 Ionawr 2024, 10am – 3pm / ymweliad: Dydd Mercher 31 Ionawr 2024, 10am – 2pm
Swyddog Ymweld: Andrea Crahart, Swyddog Monitro Contractau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Yn bresennol:  Christine Tipper, Rheolwr Cofrestredig y Cartref
Stephanie Williams, Dirprwy Reolwr (yn bresennol yn ystod yr ail ymweliad)

Cefndir

Mae Cartref Gofal Abermill wedi'i leoli yn agos at amwynderau lleol yn nhref Abertridwr ac mae ei phreswylwyr yn elwa ar fod mewn cymuned agos atoch a'r bryniau o'i hamgylch. Mae'r Cartref yn rhan o grŵp HC-One ac mae wedi'i gofrestru i ddarparu llety i 38 o bobl (29 o bobl gyda dementia a 9 person hŷn). Ar adeg yr ymweliad monitro diwethaf ym mis Ionawr, dim ond 1 swydd wag oedd yn y Cartref.

Mae'r Cartref yn cynnwys 1 lolfa fawr ac ardal fwyta yn y lolfa ar y llawr gwaelod, 2 lolfa ac ardal fwyta ar y llawr uchaf.

Derbyniwyd rhai atgyfeiriadau diogelu yn ystod y flwyddyn, gyda rhai yn bodloni'r trothwy ar gyfer ymchwiliadau pellach ac eraill sydd heb symud ymlaen ac felly eir i'r afael yn fewnol â nhw.

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) arolygiad ym mis Chwefror 2023 a lluniwyd adroddiad ym mis Mawrth 2023 lle ni thynnwyd sylw at unrhyw faterion yr oedd angen mynd i'r afael â nhw.

Mae'r Cartref wedi cyflawni gradd Hylendid Bwyd o 5, sy'n dda iawn a chafodd ei dyfarnu ym mis Rhagfyr, 2023.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, gall y darparwr gael camau unioni a datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw rhai y mae'n rhaid eu cwblhau fel y rheolir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), a chamau datblygiadol yw rhai sy'n cael eu hystyried yn arfer da. 

Camau unioni/datblygiadol blaenorol

Ffotograffau o breswylwyr i'w gosod ar y ffeil Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP) lle mae'r rhain ar goll ar hyn o bryd. Amserlen:  cyn gynted â phosibl Cyflawnwyd y cam gweithredu.

Ffotograffau o staff i'w gosod ar eu ffeiliau unigol. Amserlen: o fewn mis.  Heb ei gwblhau hyd yma.

Unigolyn Cyfrifol

Rôl yr Unigolyn Cyfrifol yw goruchwylio ansawdd, cydymffurfiaeth a pherfformiad y gwasanaethau, ac mae angen sicrhau y caiff y rhain eu goruchwylio a'u monitro. Roedd yn amlwg bod adroddiadau chwarterol wedi'u hysgrifennu, gyda'r rhai mwyaf diweddar wedi'u cwblhau ym mis Hydref 2023, a oedd yn ymweliad dirybudd ac a oedd yn dangos trosolwg cynhwysfawr iawn o'r gwasanaeth, lle ceisiwyd adborth gan randdeiliaid allweddol h.y. preswylwyr, teuluoedd, staff ac ati. Cadarnhaodd y Rheolwr fod yr Unigolyn Cyfrifol yn bresennol yn y Cartref yn aml.

Roedd Datganiad o Ddiben y Cartref ar gael a chafodd ei ddiweddaru ym mis Rhagfyr 2023. Roedd y ddogfen yn adlewyrchu'r gwasanaeth ac yn cyfeirio at ‘Y Cynnig Rhagweithiol’ - Mwy Na Geiriau, Deddf yr Iaith Gymraeg a sut y gellir hyrwyddo hyn yn y Cartref.

Roedd Canllawiau i Ddefnyddwyr Gwasanaeth y Cartref ar gael mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg.

Edrychwyd ar Bolisïau/Gweithdrefnau gorfodol y Cartref fel rhan o'r broses. Roedd yr holl bolisïau ar gael yn rhwydd ac wedi'u diweddaru, a oedd yn cynnwys hanes o fersiynau o ddiweddariadau ac yn cynnwys dyddiad ar gyfer adolygu. Mae rhai o'r polisïau hyn yn cynnwys e.e. diogelu, datblygiad staff, rheoli heintiau ac ati.

Yn absenoldeb yr Unigolyn Cyfrifol a'r Rheolwr Cofrestredig, byddai trefniadau'n cael eu gwneud i Reolwr arall o HC-One oruchwylio'r Cartref yn y cyfamser.

Rheolwr Cofrestredig

Mae'r Rheolwr wedi'i chofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru (corff rheoleiddio’r gweithlu).

Mae'r Rheolwr yn gyfrifol am redeg Abermill, ond disgwylir y bydd yn cyflenwi yng nghartrefi eraill HC-One ar gais ei rheolwr, os gofynnir am hynny. Caiff y Rheolwr Cofrestredig ei chefnogi'n dda gan y Rheolwr Rhanbarthol a'r Unigolyn Cyfrifol.

Mae'r Swyddog Monitro Contractau yn ymwybodol nad yw'r cartref yn gweithredu teledu cylch cyfyng, y tu mewn na'r tu allan i'r adeilad, ac felly, nid oes angen cael caniatâd y bobl sy'n byw yn y Cartref.

Roedd yn amlwg y caiff hysbysiadau Rheoliad 60 eu cyhoeddi i AGC pan fo digwyddiadau arwyddocaol yn y Cartref y mae angen i'r sefydliad hwn fod yn ymwybodol ohonynt, ond ni chaiff y rhain eu rhannu gyda Thîm Comisiynu Caerffili ar hyn o bryd. Wrth symud ymlaen, cytunodd y Rheolwr i'r rhain gael eu hanfon at y Swyddog Monitro Contractau yn y Tîm Comisiynu fel y bo'n ofynnol.

Caiff y bobl anawsterau i reoleiddio'r tymheredd yn eu hystafelloedd drwy eu rheiddiaduron ac felly, rheolir y tymheredd gan thermostat canolog ar bob llawr.

Hyfforddi a Datblygu Staff

Mae gan Gartref Gofal Abermill system electronig, sy'n nodi pryd y mae angen adnewyddu hyfforddiant staff. Mae'r cofnodion hyn yn darparu dadansoddiad ystadegol o'r hyfforddiant a gwblheir gan staff ac roedd hi'n amlwg y caiff staff hyfforddiant addas a'u bod yn gymwysedig mewn gofal cymdeithasol. 

Mae'r mwyafrif o'r cyrsiau hyfforddiant yn parhau i gael eu cynnal trwy E-Ddysgu y gall staff eu cwblhau yn ystod eu diwrnod gwaith a defnyddio cyfrifiaduron personol ar yr un safle. Mae'r cyrsiau hyn yn cynnwys e.e. diogelwch bwyd, ymwybyddiaeth o ddementia, maeth/hydradu ac ati. Mae hyfforddiant tebyg i'r ystafell ddosbarth hefyd ar gael ar gyfer cyrsiau fel trafod pobl yn fwy diogel, cymorth bywyd sylfaenol a chwympiadau ymhlith pobl hŷn. Roedd hyfforddiant arall a gwblhawyd gan staff yn ystod y cyfnod sefydlu yn cynnwys e.e. diogelwch tân, cymwyseddau mewn meddyginiaethau a gofal y geg. Yn ddiweddarach, cynigiwyd hyfforddiant yn y Cartref mewn perthynas â gofal pwysau trwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB), a groesawyd ac a dderbyniwyd. Mae staff HC-One yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfaoedd ymhellach drwy allu dilyn cyrsiau'r Brifysgol Agored, ac roedd hi'n ddymunol cael gwybod bod uwch aelod o staff wedi derbyn y cyfle hwn.

Caiff ansawdd yr hyfforddiant a gynigir ei asesu gan y Rheolwr drwy siarad â'r staff am yr hyn maent wedi'i ddysgu drwy sesiynau goruchwylio, arsylwadau o arferion (e.e. arferion codi a chario) a thrwy gerdded o gwmpas y cartref i arsylwi arferion. 

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru (rheoleiddiwr y gweithlu) yn gofyn i bob gofalwr gofrestru â nhw er mwyn bod yn rhan o weithlu proffesiynol. Mae'r holl staff wedi'u cofrestru ac mae proses ar waith lle y caiff hyn ei ddiweddaru'n fisol gan y Rheolwr ac adnoddau dynol.

Staffio a goruchwylio

Roedd hi'n hawdd dod o hyd i'r wybodaeth ar y ddwy ffeil yr edrychwyd arnynt gan eu bod wedi'u trefnu â mynegai a rhaniadau.

Astudiwyd y ddwy ffeil staff, ac roedd y ddwy ohonynt yn cynnwys yr holl ddogfennaeth briodol sy'n ofynnol ar gyfer proses recriwtio drwyadl h.y. dau eirda ysgrifenedig, ffurflen gais fanwl, cofnod o'r cyfweliad, Contract Cyflogaeth wedi'i lofnodi, gwybodaeth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac ati. Nid oedd un o'r geirdaon yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas â phresenoldeb/cadw amser ac ati, ac felly argymhellwyd y dylid ceisio gwybodaeth ychwanegol fel hyn lle mae prinder gwybodaeth. Nid oedd y ffeiliau'n cynnwys cofnod sefydlu i ddangos pa feysydd yr ymdriniwyd â nhw pan benodwyd yr aelod o'r staff, y gwnaeth y Rheolwr gadarnhau ei fod yn aml yn anodd eu hadfer gan yr aelod o staff dan sylw, ac nid oedd ffotograff yn un o'r ffeiliau.

Dangosodd y matrics goruchwylio fod gan y tîm o staff sesiynau goruchwylio wedi'u cynllunio yn chwarterol.

Roedd digon o ofalwyr, staff domestig a staff cynnal a chadw i'w gweld o gwmpas y Cartref yn ystod yr ymweliadau ac nid oedd y staff i'w gweld yn cael eu rhuthro. Mae'r Datganiad o Ddiben yn dangos bod 2 uwch-ofalwr a 5 gofalwr ar ddyletswydd yn ystod y dydd a bod 1 uwch-ofalwr a 3 gofalwr gyda'r nos ac 1 yn gynnar yn y nos.

Ar hyn o bryd, nid oes staff yn gweithio mwy na 48 awr yr wythnos.

Mae'r Cartref yn cyflogi 2 Gydlynydd Gweithgareddau sy'n gweithio 30 awr/16.5 awr yr wythnos sy'n galluogi ar gyfer cyflenwi gweithgareddau 7 diwrnod yr wythnos.

‘Mae'r ‘Cynnig Rhagweithiol – Mwy Na Geiriau’ (Deddf yr Iaith Gymraeg ddiwygiedig) yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparwyr gofal cymdeithasol gyfathrebu yn Gymraeg heb i'r person ofyn am hynny. Mae Cartref Gofal Abermill yn cofleidio hyn drwy sicrhau y gofynnir am ddewis iaith yr unigolyn pan gaiff ei dderbyn er mwyn gallu darparu ar gyfer anghenion yr unigolyn a chreu cyswllt gyda sefydliadau cymunedol lleol er mwyn helpu hyrwyddo Cymraeg llafar. Gwneir hyn yn ogystal â chefnogi'r unigolyn i gael gwybodaeth yn Gymraeg yn ddyddiol. Mae'r Datganiad o Ddiben yn adlewyrchu'r ddarpariaeth hon hefyd.

Archwiliad o Ffeiliau a Dogfennaeth

Edrychwyd ar ddwy ffeil a oedd yn cynnwys mynegai a phroffil preswylydd ar ddechrau'r ffeil.

Cwblhawyd dogfen ‘Dyma fi’ (a ysgrifennwyd gan y Gymdeithas Alzheimer) ar gyfer un o'r preswylwyr a oedd yn darparu cefndir i hoff a chas bethau'r unigolyn ac ati.

Cwblhawyd ‘asesiad symud i mewn’ sy'n cwmpasu meysydd fel hanes personol yr unigolyn, cyfathrebu, anghenion gofal, hanes meddygol blaenorol ac ati. Cafwyd Cynllun Gofal 7 diwrnod hefyd a roddwyd ar waith i gefnogi'r unigolyn hyd nes y gellir ysgrifennu Cynlluniau Cymorth llawnach.

Roedd asesiadau risg addas ar gyfer meysydd fel tagu, trafod pobl yn fwy diogel (er mwyn cefnogi'r unigolyn gyda slingiau/teclynnau codi/cynfas lithro), cwympiadau, gofal y geg ac ati. Adolygwyd y rhain yn fisol.

Roedd Cynlluniau Personol (Cynlluniau Gofal) yn cynnwys meysydd angen, yn nodweddiadol, bwyta ac yfed, cyflwr y croen, cwympiadau, gofal y geg, trafod pobl yn fwy diogel, cysgu, meddyginiaeth (yn fisol gan mwyaf, os nad yn amlach). Edrychwyd ar rai siartiau ychwanegol (lle caiff gwiriadau ac anghenion gofal eu cofnodi) a thynnwyd sylw at faes sy'n destun gofid.

Roedd taflenni cofnodion perthnasau ac ymhelwyr proffesiynol yn bresennol i gofnodi cyfathrebiadau perthnasol gyda'r unigolion hyn ac roedd yn ddymunol gweld bod y staff wedi dal ati i geisio cysylltu â'r perthynas ar ôl iddo fethu ag ymateb i alwad ffôn yn rhoi gwybod iddo fod rhywbeth wedi digwydd. Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Ardal a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill yn ymweld yn rheolaidd ac maent yn cefnogi'r preswylwyr fel y bo'n ofynnol. Mae'r Swyddog Monitro Contractau yn ymwybodol y gwneir preswylwyr yn gyfforddus pan fyddant yn cael gofal diwedd bywyd a cheir pryder gwirioneddol gan staff wrth ofalu am bobl yn ystod y cam hwn yn eu bywyd.

Cyfeiriodd y Rheolwr at system gofnodion electronig y bwriedir iddi gael ei chyflwyno erbyn mis Hydref 2024 a fydd yn dileu'r angen am gofnodion ysgrifenedig ac yn cofnodi gwybodaeth drwy system electronig. Mae'r Cartref yn defnyddio cofnod meddyginiaeth electronig sydd ond wedi bod ar waith ers mis Mawrth 2023.

Systemau Ansawdd

Mae ‘cyfarfodydd sydyn’ (cyfarfodydd tîm byr) yn parhau i gael eu cynnal yn ddyddiol er mwyn i ddiweddariadau mewn perthynas ag anghenion y preswylwyr/gwybodaeth berthnasol arall allu cael eu gwneud yn ystod y dydd er mwyn diweddaru staff, yn ogystal â chael uwch ofalwr yn ‘cerdded o gwmpas’. Edrychwyd ar rai cyfarfodydd diweddar ac roedd hi'n amlwg bod y cyfarfodydd hyn yn cwmpasu meysydd allweddol fel anghenion cadw tŷ, unrhyw bryderon bwyta/yfed (colli pwysau ac ati), unrhyw breswylwyr a oedd yn dangos arwyddion o waethygu yr oedd angen eu huwchgyfeirio, materion cynnal a chadw, digwyddiadau llesiant, meddyginiaeth, cydweithwyr (absenoldebau ac ati).

Mae cyfarfodydd ‘Preswylydd y Dydd’ yn parhau i gael eu cynnal, ac fe'u defnyddir er mwyn sicrhau bod ffeil gofal yr unigolyn yn gyfredol (cynlluniau personol ac asesiadau risg), bod unrhyw ddamweiniau/digwyddiadau yn cael eu nodi ac ati. Caiff unrhyw gamau cadw tŷ (e.e. glanhau'r ystafell yn drwyadl), gwirio'r fatras, gwirio dillad a olchwyd, meddyginiaeth ac ati, eu nodi.

Edrychwyd ar rai cofnodion cyfarfodydd staff yn ddiweddar sy'n cynnwys meysydd dysgu a nodwyd ar draws Cartrefi HC-One eraill. Roedd y wybodaeth yn fanwl ac roedd hi'n amlwg bod nifer da o staff yn bresennol.

Cynhelir cyfarfodydd â'r preswylwyr yn rheolaidd i geisio eu syniadau a'u safbwyntiau am y gweithgareddau yr hoffent eu gwneud y tu mewn a'r tu allan i'r Cartref. Roedd yn amlwg bod y staff yn gwrando ar y bobl ac yn gwneud trefniadau i roi'r ceisiadau hyn ar waith. Ceisiwyd barn y bobl am y gwaith adnewyddu diweddar hefyd a dywedodd un o'r preswylwyr gymaint yr oedd hi wedi mwynhau dewis y lliwiau ar gyfer y gwaith adnewyddu. Ffurfiwyd sawl cyswllt â'r gymuned, gydag ysgol leol yn ymweld ac yn canu i'r preswylwyr, a chorau lleol hefyd. Mae Abermill wedi cyflwyno cylchlythyr a gaiff ei ddosbarthu i berthnasau hefyd ac mae rhai wedi dangos diddordeb mewn cymryd rhan yn y cyfarfodydd i'r preswylwyr yn y dyfodol.

Cynhelir cyfarfodydd trosglwyddo staff sy'n cynnwys yr holl staff gofal perthnasol, uwch-ofalwyr a'r Rheolwr. Cyfeiriwyd at lesiant y preswylwyr, hwyliau, pa mor dda roeddent yn cysgu ac ati, yn ogystal â diweddariadau mewn perthynas â chysylltu â'r meddyg teulu, derbyniadau ysbyty ac ati.

Diogelwch Tân/Iechyd a Diogelwch

Cynhaliwyd yr Asesiad Risg Tân blaenorol ym mis Gorffennaf 2022 a nododd rai materion i fynd i'r afael â nhw, ac roedd hi'n amlwg bod y rhain wedi'u hysgrifennu mewn cynllun gweithredu ac wedi'u cwblhau yn unol â hynny. Gwnaed y Swyddog Monitro Contractau yn ymwybodol fod Asesiad Risg Tân mwy diweddar yn cael ei geisio trwy'r Unigolyn Cyfrifol a chadarnhawyd bod hyn wedi'i wneud ar 30 Ionawr 2024.

Cynhaliwyd ymarferion tân yn rheolaidd yn 2023, gyda chofnodion da o'r ffordd y cynhaliwyd yr ymarfer tân/y rheswm dros wneud, yr amser a gymerodd, ac unrhyw feysydd yr oedd angen eu gwella.  Roedd cofnodion hefyd o'r staff a oedd wedi mynychu pob ymarfer tân.

Ceir Cynlluniau Gwacáu mewn Argyfwng Personol ar gyfer pob unigolyn sy'n byw yn y Cartref, sy'n rhoi arweiniad ar sut i gael pob unigolyn allan yn ddiogel yn dibynnu ar ei anghenion unigol. Caiff y ffeil hon ei hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau y caiff unrhyw newidiadau eu nodi ac roedd tystiolaeth fod hyn wedi'i gadw'n gyfredol a bod ffotograffau ar gael ar gyfer pob cofnod.

Rheoli arian y preswylwyr

Caiff arian y bobl ei reoli gan weinyddydd y Cartref sy'n sicrhau y caiff y broses hon ei goruchwylio'n dda. Ceir taflenni lwfans personol sy'n cael eu cwblhau pan ddaw arian i mewn a phan gaiff arian ei wario ar eitemau/gwasanaethau ar gyfer yr unigolyn dan sylw. Caiff derbynebau eu cofnodi a gwneir llofnodion dwbl ar gyfer pob trafodyn.

Caiff y trafodion banc eu cysoni'n wythnosol, sy'n sicrhau bod yr arian a ddelir yn gywir drwy'r amser ac y gellir eu hunioni'n gyflym os bydd unrhyw wallau'n codi.

Caiff cyfriflenni misol eu cyhoeddi hefyd sy'n gofnodion electronig sy'n cael eu cymeradwyo gan y Rheolwr Cofrestredig. Ceir archwiliadau blynyddol hefyd gan bersonél HC-One i sicrhau bod y system yn rhedeg fel y dylai.

Holiadur perthynas

Cysylltwyd â pherthynas i gael ei adborth ar y gofal yng Nghartref Gofal Abermill. Cadarnhaodd y perthynas ei fod yn arfer ymweld bob yn ail wythnos ac yn cael croeso pan fydd yn gwneud hynny. Er bod y staff yn brysur iawn, maent yn hyfryd ac yn ddymunol. Mae'r amgylchedd hefyd yn bwyllog a hamddenol gyda llawer o staff gwych o gwmpas.

Cadarnhaodd yr unigolyn hefyd fod ei berthynas sy'n byw yn y Cartref yn sefydlog iawn ac yn fwy pwyllog nag ydoedd pan oedd hi'n byw yn ei chartref ei hun ac mae hi bellach yn bwyta'n llawer gwell ac yn fodlon derbyn gofal personol.

Mae'r perthynas wedi cael gwybod am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ac yn fwy diweddar mewn perthynas â'r gwaith adnewyddu sy'n mynd rhagddo. Ni chafwyd unrhyw faterion/pryderon yr oedd angen i'r perthynas eu cyfleu i'r staff/Rheolwr.

Arsylwadau (Gweithgareddau, amgylchedd, profiad amser bwyd, rhyngweithio ac ati).

Mae Abermill yn mynd trwy waith adnewyddu mawr, lle mae rhai o'r ystafelloedd wedi'u haddasu at ddibenion gwahanol, eu hailaddurno a'u hailddodrefnu. Mae ardaloedd o'r Cartref yn edrych yn lleoedd llawer mwy ffres a deniadol. Mae'r gwaith yn parhau i fynd rhagddo, gyda chynlluniau i wella ardaloedd awyr agored y Cartref a'r cyfleuster hyfforddiant ar y safle hefyd.

Mae ardaloedd y cyntedd yng nghymuned Bluebell wedi cael eu hailwampio ac mae lluniau mewn fframiau hyfryd sy'n dangos lleoedd o ddiddordeb yng Nghymru i bobl edrych arnynt.

Mae Abermill wedi cael cyfnod ansicr pan oedd y Cartref ar werth, ond mae bellach mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â'r gwaith adnewyddu hwn a datblygu'r gwasanaeth ymhellach.

Gwnaed y Swyddog Monitro Contractau yn ymwybodol fod problem wedi bod wrth wresogi un o'r ystafelloedd gwely, ond cafodd y mater ei uwchgyfeirio o fewn y tîm cynnal a chadw ac mae'r ystafell wedi'i dadgomisiynu hyd nes ei bod wedi'i hatgyweirio.

Mae'r Cydlynwyr Gweithgareddau a'r staff gofal yn parhau i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau i bobl eu mwynhau ac i roi ysgogiad iddynt. Yn ystod yr ymweliad, roedd y bobl yng nghymuned Bluebell yn mwynhau ‘hwyl a chân’ ac roedd un fenyw yn cael ei hewinedd wedi'u paentio. Roedd awyrgylch hamddenol iawn yno.

Mae pobl yn cael cyfle i ymweld â lleoedd o ddiddordeb y tu allan i'r Cartref gan fod bws mini ar gael iddynt, gyda chymorth gofalwr arall sy'n cefnogi gyda hyn. Mae gan y Cartref gysylltiadau o hyd ag amrywiaeth o sefydliadau e.e. Therapi Anifeiliaid Anwes, y caffi Oasis lleol, cantorion sy'n ymweld â'r Cartref ac ati. Yn ogystal, dywedodd preswylydd wrth y Swyddog Monitro Contractau gymaint roedd hi'n mwynhau mynd allan i'r gymuned gyda'i theulu pan fyddant yn ymweld ar y penwythnos a nododd preswylydd arall y mynydd lleol y dywedodd ei bod hi wedi ei ddringo a chymaint roedd hi'n edrych ymlaen at eistedd yn yr ardd yn ystod y misoedd nesaf.  Mae'n amlwg hefyd bod pobl yn cael eu cefnogi i gael cysur i leddfu eu gorbryder.

Arsylwyd y profiad amser bwyd yn y ddwy lolfa (Bluebell ac Ein Cartref) gyda mwy o ffocws ac amser yn cael ei dreulio yn Ein Cartref. Roedd llieiniau bwrdd ac addurn canol bwrdd wedi'u gosod ar y byrddau. Roedd arogl blasus ar y prydau a chafwyd nifer o sylwadau gan y preswylwyr yn dweud eu bod yn mwynhau eu prydau poeth.  Roedd diodydd wedi'u darparu ac roedd y bobl yn cael cymorth i fwyta'u prydau lle roedd angen hyn. Roedd y profiad yn hamddenol ac roedd y staff yn talu sylw gan nad oedd un gŵr eisiau bwyta'i swper a daethpwyd â dewis arall iddo yn eithaf cyflym.

Sylwyd ar dechneg codi a chario mewn lolfa, lle rhoddwyd help i un gŵr drosglwyddo o'i gadair i mewn i gadair olwyn. Gwnaed hyn yn ofalus dros ben a rhoddwyd sicrwydd i'r gŵr ar lafar drwy'r trosglwyddiad i gyd.

Roedd y bobl i'w gweld yn cael gofal da ac wedi'u gwisgo'n briodol ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn ac roedd y Cartref yn teimlo'n gynnes. Mae'r Rheolwr yn ymwybodol o anghenion y preswylwyr, a hefyd anghenion y staff pan fydd y tymereddau'n dueddol o godi yn ystod yr haf oherwydd gall ardaloedd llawr cyntaf y Cartref fod yn gynnes iawn i fyw a gweithio ynddynt ac ystyried ffyrdd o fynd i'r afael â hyn.

Camau gweithredu

Camau Unioni

Bydd ffeiliau'r staff yn cynnwys gwybodaeth sefydlu, ffotograff diweddar o'r aelod o staff a bydd gwybodaeth cyfeirio ychwanegol yn cael ei cheisio lle mae'n ddiffygiol.  Amserlen:  Parhaus. Rheoliad 35 RISCA.

Siartiau ychwanegol i adlewyrchu'r amseroedd gwirioneddol pan gafodd gofal ei ddarparu. Amserlen:  Ar unwaith ac yn barhaus. Rheoliad 21 RISCA.

Bydd hysbysiadau Rheoliad 60 yn cael eu hanfon at Dîm Comisiynu Caerffili i roi gwybod am ddigwyddiadau arwyddocaol. Amserlen:  Ar unwaith ac yn barhaus.  Rheoliad 60 RISCA.

Casgliad

Mae'r preswylwyr yn parhau i elwa ar dîm sefydlog o staff sydd wedi'i hyfforddi'n addas, sy'n gymwys yn eu rolau ac sy'n ofalgar ac yn cymryd sylw o anghenion pobl.

Roedd dogfennaeth y preswylwyr i'w gweld yn gadarn gyda gwybodaeth yn cael ei hadolygu'n rheolaidd.

Mae systemau sicrhau ansawdd cadarn ar waith ac mae'r unigolyn cyfrifol yn parhau i ymweld yn rheolaidd, yn ogystal â'r Rheolwr Rhanbarthol a chydweithwyr eraill er mwyn cynnig cymorth ac i sicrhau y caiff safonau eu cynnal. Mae adroddiadau'r Unigolyn Cyfrifol yn dangos bod trosolwg trwyadl o'r gwasanaeth yn cael ei gwblhau yn rheolaidd.

Mae llesiant yn rhywbeth y mae Cartref Gofal Abermill yn canolbwyntio arno ac mae pobl yn elwa ar lawer o ysgogiadau y tu mewn a'r tu allan i'r Cartref. Mae'r preswylwyr a'r staff yn byw ac yn gweithio mewn amgylchedd newydd ei adnewyddu a'i ailddodrefnu.

Hoffai'r Swyddog Monitro Contractau ddiolch i'r tîm o staff yn Abermill am ei groeso cynnes a'i amser yn ystod yr ymweliadau.

Llofnodwyd: Andrea Crahart, Swyddog Monitro Contractau
Dyddiad: Ionawr 2024