Canolfan Gofal Parklands

Heol Casnewydd, Bedwas, Ger Caerffili, NP10 8BJ. 
Nifer y gwelyau: 38 Cartref Gofal gyda Nyrsio 
Categori: 29 Person Hŷn (Nyrsio) / 9 Person Hŷn (Preswyl – gwnewch ymholiadau gyda’r cartref os gwelwch yn dda wrth i ofal preswyl ddod i ben yn raddol) 
Deuol Cofrestredig
Ffôn: 029 2088 0525
E-bost: parklands.manager@hc-one.co.uk
Gwefanwww.hc-one.co.uk

Adroddiad Monitro Contract 

  • Enw/Cyfeiriad y darparwr: Canolfan Gofal Parklands, Newport Road, Bedwas
  • Dyddiad/Amser yr ymweliad: 4 Mai 2023
  • Swyddog(ion) Ymweld: Caroline Roberts, Swyddog Monitro Contractau / Jay Ventura-Santana, Nyrs Arweiniol ar gyfer Llywodraethu a Diogelu Cartrefi Gofal, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Yn bresennol: Alison Durbidge, Rheolwr y Cartref / Amy Campbell, Dirprwy Reolwr y Cartref

Cefndir 

Mae Parklands yn gartref pwrpasol ym Medwas, Caerffili, sy'n darparu nyrsio a gofal preswyl i hyd at 38 o bobl. 

Cynhaliwyd y broses fonitro ffurfiol ddiwethaf yn 2018 ar ôl i Parklands fod drwy gyfnod o fonitro agos gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili oherwydd pryderon parhaus.  Ar adeg yr ymweliad yn 2018, roedd y broses hon wedi dod i ben gan fod y gwelliannau wedi cael eu gwneud. 

Oherwydd pandemig COVID-19, gohiriwyd ymweliadau â’r cartref er mwyn diogelu’r preswylwyr a’r staff ac i leihau nifer yr ymwelwyr.  Fodd bynnag, roedd cyswllt dros y ffôn ac e-bost yn cael ei gynnal drwy gydol y broses.

Cynhaliwyd ymweliadau drwy gydol 2022 gan y Bwrdd Iechyd Lleol a’r Swyddog Monitro Contractau ar sail dal i fyny a monitro anffurfiol ar ôl pandemig COVID-19.

Mae'r swyddogion ymweld yn defnyddio amrywiaeth o systemau monitro i gasglu a dehongli data fel rhan o ymweliadau monitro, gan gynnwys arsylwi ymarfer yn y cartref, archwilio dogfennau a sgwrsio gyda staff, defnyddwyr gwasanaeth a pherthnasau lle bo modd. 

Cynhaliwyd arolygiad diwethaf Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Ionawr 2022 ac mae'r adroddiad wedi’i leoli ar wefan y cartref i’r cyhoedd ei weld.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, caiff y darparwr gamau unioni a datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw rhai y mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â'r ddeddfwriaeth); argymhellion arfer da yw camau datblygiadol.

Canfyddiadau

Rheolwr Cofrestredig

Mae Rheolwr y Cartref wedi'i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae'r Dirprwy Reolwr yn nyrs gofrestredig.  Mae Rheolwr y Cartref yn rheoli un cartref; fodd bynnag, gofynnwyd yn flaenorol i'r Rheolwr gynorthwyo chwaer gartrefi pan fo angen. 

Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i Reolwr y Cartref fel rhan o'r broses fonitro a dywedodd wrth y Swyddog Monitro Contractau nad oes gan y cartref deledu cylch cyfyng.  Ar adeg yr ymweliad, roedd gan y cartref 5 lleoliad preswyl, ac roedd angen cymorth nyrsio ar weddill y preswylwyr.

Ar adeg yr ymweliad, nid oedd unrhyw bryderon ynghylch cynnal a chadw'r cartref ac roedd yr holl offer yn gweithio'n iawn.

Gall preswylwyr yn Parklands newid tymheredd eu hystafelloedd gan ddefnyddio rheiddiaduron unigol.

Dywedodd y Rheolwr ei bod yn cael ei chynorthwyo gan yr Unigolyn Cyfrifol, ac ymwelodd yr Unigolyn Cyfrifol y tro diwethaf ar 1 Mawrth 2023, gydag ymweliad wedi'i drefnu er mwyn i'r Unigolyn Cyfrifol gwblhau ei adroddiad Rheoliad 80.

Os yw'r Rheolwr Cofrestredig yn absennol, bydd Dirprwy Reolwr y Cartref yn goruchwylio'r gwaith o redeg y cartref; fodd bynnag, pe bai Rheolwr y Cartref yn absennol am gyfnod hir, byddai HC One yn gofyn i'r 2 Reolwr wrth Gefn (yng Nghymru) gynorthwyo, ynghyd â Rheolwyr o gartrefi HC One cyfagos. 

Yn absenoldeb yr Unigolyn Cyfrifol, mae gan HC One nifer o gydweithwyr a fyddai'n cynorthwyo gyda'r rôl hon, gan gynnwys y Tîm Cymorth Ansawdd. 

Unigolyn Cofrestredig

Yr Unigolyn Cofrestredig sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am redeg y cartref, a disgwylir iddo ymweld â'r cartref a chwblhau ymweliad/adroddiad Rheoliad 73 bob chwarter.

Bydd yr ymweliad yn ymdrin ag amrywiol agweddau ar redeg y cartref h.y. y croeso a gewch, materion/pryderon am yr eiddo, recriwtio, adborth staff, adborth preswylwyr/cynrychiolwyr, glendid y cartref, ardal y gegin, amseroedd ymateb i glychau galw, archwiliadau ffeiliau preswylwyr, dangosyddion clinigol allweddol, archwiliadau meddyginiaeth ac ati.

Mae’r adroddiad yn amlinellu’r canfyddiadau a’r camau gweithredu sydd angen eu cymryd er mwyn bodloni safonau a disgwyliadau fel yr amlinellir yn y Datganiad o Ddiben.

Mae Datganiad o Ddiben y cartref yn esbonio i'r darllenydd yr hyn y gallai ei ddisgwyl gan y cartref ac fe'i adolygwyd ddiwethaf ym mis Hydref 2022.  Mae'r ddogfen yn amlinellu sut mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu, faint o unigolion mae’n gallu eu cynorthwyo (38), y safonau y mae HC One yn anelu atynt, lefelau staffio, eiriolaeth ac ati.

Yn ystod trafodaeth gyda Rheolwr y Cartref, dywedodd ei bod yn teimlo ei bod yn cael ei chynorthwyo gan yr Unigolyn Cyfrifol a'r Cyfarwyddwr Ardal hefyd.

Staffio, Hyfforddiant a Goruchwylio

Ar adeg yr ymweliad, roedd swydd nyrs wag yn cyfateb i 33 awr (nos).

Cynorthwyir y cartref gan 2 nyrs yn ystod y dydd a 4 aelod o staff gofal, 1 Cynorthwyydd Nyrsio ac 1 Uwch-nyrs.  Yn ystod y nos, darperir y cymorth gan 1 Nyrs, 2 Ofalwr ac 1 Uwch-nyrs.

Mae gan y cartref 2 gydlynydd gweithgareddau, sy'n helpu preswylwyr gyda chrefftau, gwibdeithiau, adloniant, darllen, tylino dwylo ac ati.  Fodd bynnag, mae gan bob aelod o staff gyfrifoldeb i gynnig ysgogiadau i'r preswylwyr sy'n byw yn y cartref.

Defnyddir nyrsys asiantaeth weithiau, ac mae Rheolwr y Cartref a Dirprwy Reolwr y Cartref yn sicrhau eu bod yn defnyddio'r un asiantaethau i gynnig cysondeb i'r preswylwyr.

Defnyddir e-ddysgu (cyfleuster Touchstone) at ddibenion hyfforddi, ynghyd â hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth. 

Gwelwyd bod yr hyfforddiant gorfodol yn gyfredol, a thynnir sylw’r Rheolwr at unrhyw hyfforddiant sy'n weddill/yn hwyr.  Ar adeg yr ymweliad, roedd yr hyfforddiant canlynol yn cydymffurfio â safonau mewnol y cartref: Cymorth Bywyd Sylfaenol (Cymorth Cyntaf) 92.3%, Diogelwch Bwyd 86.7%, Iechyd a Diogelwch 100%, Rheoli Heintiau 88.9%, Diogelu 80% a Symud a Thrin 93.3%.  Hefyd, ymgymerir â hyfforddiant anorfodol er mwyn helpu’r staff i ddarparu gofal a chymorth priodol, h.y. Ymwybyddiaeth o Gwympiadau, Tagu, Maeth a Hydradiad, Gofal Dementia, Hybu Croen Iach, Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid i enwi dim ond rhai.

Cynhelir sesiynau goruchwylio un i un ac, o’r matrics a welwyd, mynychodd yr holl staff oruchwyliaeth ddiwethaf ym mis Chwefror, Mawrth neu Ebrill; yna, caiff dyddiadau ar gyfer goruchwyliaeth 3 mis eu rhoi ar y matrics ar gyfer goruchwyliaeth ddilynol.  Cyfrifoldeb y rheolwyr yw sicrhau bod yr holl staff yn cael eu goruchwylio bob chwarter.

Ar adeg yr ymweliad, nid oedd yr un aelod o staff yn gweithio mwy na 48 awr yr wythnos.

Wrth gyrraedd y cartref, gofynnir i bob preswylydd newydd am eu dewis o iaith gyntaf a bydd y cartref yn gwneud ei orau glas i ddarparu ar gyfer hyn yn unol â Datganiad o Ddiben HC One.

Arsylwyd dwy ffeil staff ac roedd y ddwy ffeil yn cynnwys dau eirda ysgrifenedig.  Roedd un ffeil yn ymwneud â nyrs a gyflogir yn y cartref drwy nawdd.  Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys disgrifiad swydd, ffurflen gais fanwl a chofnodion cyfweliad.  Nid oedd y naill ffurflen gais na'r llall yn amlygu unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.  Dim ond un ffeil oedd â chopi o dystysgrif geni’r unigolyn; esboniodd Gweinyddwr y Cartref fod yr ail aelod o staff yn y broses o wneud cais am gopi.

Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys copi o basbort yr unigolyn, roedd llun yn bresennol ac edrychwyd ar dystysgrifau hyfforddi.  Gwelwyd bod y nyrsys yn nyrsys cofrestredig wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (Oedolion) yn ddyddiedig Ebrill 2023.  Roedd gwiriadau'r Swyddfa Gartref wedi'u cynnal a gwelwyd Tystysgrif Heddlu (Rhyngwladol) yn y ffeil.  Roedd gan yr ail ffeil wiriadau cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) dyddiedig Ebrill 2023.

Gwelwyd hefyd dystysgrif nawdd fisa'r Deyrnas Unedig a dogfennaeth mewnfudo.

Dogfennaeth Preswylwyr

At ddiben yr ymweliad monitro, archwiliwyd ffeiliau dau breswylydd.  Arsylwyd ar asesiadau cyn-derbyn, sy'n pennu a yw'r cartref mewn sefyllfa i ddiwallu anghenion yr unigolyn ai peidio, yn y ddwy ffeil.

Roedd Cynlluniau Personol yn amlwg a gwelwyd eu bod yn canolbwyntio ar yr unigolyn o ran y gofal sydd ei angen; fodd bynnag, mae angen cynnwys rhagor o fanylion am ganlyniadau/nodau personol. 

Wrth adolygu’r cynlluniau personol, mae’n rhaid i’r cartref ddangos pa wybodaeth sydd wedi’i defnyddio i lywio datblygu'r cynllun, h.y. mae’r unigolyn/cynrychiolydd wedi darparu gwybodaeth, cysylltwyd â’r gweithiwr cymdeithasol am wybodaeth ac edrychwyd ar y cofnodion dyddiol i nodi unrhyw newidiadau mewn hwyliau, cyflwyniad, diet, cymeriant hylif ac ati.

Gwelwyd bod Asesiadau Risg priodol ar waith, h.y. Bwyta/Yfed, Tagu, Cwympo, Cynllun Triniaeth Ddietegol, Symud a Chario ac ati. Gwelwyd bod adolygiadau'n cael eu cynnal bob mis. 

Roedd y ffeiliau a welwyd yn dangos bod staff yn ymwybodol o sut i atgyfeirio unigolyn at asiantaethau allanol priodol, h.y. meddyg teulu, deintydd, dietegydd, ciropodydd.

O ran y rhai sy'n cael eu pwyso'n wythnosol, mae gwybodaeth yn cael ei dogfennu a chysylltir â gweithwyr proffesiynol priodol os gwelir bod unigolyn yn colli pwysau’n gyson, h.y. meddyg teulu, dietegydd. 

Mae staff y gegin yn cael yr hysbysiadau diweddaraf am anghenion dietegol, sy'n cael eu llofnodi gan yr aelod o staff sy'n cynnal yr adolygiad a'r cogydd.  Mae hyn yn dangos bod y ddau barti yn wybodus am y math o ddeiet sydd ei angen ar unigolyn a'r risgiau sy'n gysylltiedig pe bai'r cysondeb anghywir yn cael ei ddarparu, h.y. bwyd sydd wedi'i stwnsio neu sy'n gallu cael ei stwnsio â fforc ac ati.

Er ei fod yn bwnc sensitif, roedd yn amlwg bod sgyrsiau wedi'u cynnal naill ai gydag unigolion neu'u teuluoedd ynghylch dymuniadau DNACPR (na cheisier dadebru cardio-anadlol).  Mae hyn yn rhoi dewis a chyfle i unigolyn rannu ei ddymuniadau a’i farn ar gyfer ei gynllun diwedd oes.

Ar adeg yr ymweliad, dywedodd y Rheolwr wrth y swyddog a oedd yn ymweld fod gan y cartref yr wybodaeth ddiweddaraf am ei Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid.

Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys hanes bywyd byr yr unigolion gan roi cefndir yr unigolyn i’r darllenydd, h.y. plentyndod, priodas, cyflogaeth, plant, anifeiliaid anwes, hobïau ac ati.   

Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEPs); fodd bynnag, er bod un yn ddyddiedig Chwefror 2023, roedd yr ail ddogfen yn ddyddiedig 2019.  Felly, mae angen adolygu a diweddaru’r ddogfen hon.

Gwelwyd ffurflenni rhoi gwybod am anghenion dietegol yn y ddwy ffeil, ac roedd y ddwy wedi’u llofnodi gan Reolwr y Cartref a Chogydd y Cartref.  Adolygir y rhain yn flynyddol neu pan fydd newid yn digwydd.

Adborth Preswylwyr a Chynrychiolwyr

Siaradodd y swyddogion ymweld â nifer o breswylwyr yn ystod yr ymweliad.  Cyfarfu’r Swyddog Monitro Contractau a oedd yn ymweld ag un gŵr a’i ymwelwyr.  Roedd y gŵr yn gyn-filwr a dywedodd ei gyfeillion (cyn-gymrodyr) eu bod yn ymweld ag ef bob wythnos, ac roedd pob person yn awyddus i rannu rhai o’u profiadau blaenorol.

Roedd ystafell yr unigolyn wedi’i haddurno â’i holl fedalau a lluniau o’i gymrodyr yn y mannau lle’r oeddent ar wasanaeth gweithredol.

Roedd yr unigolyn yn newydd i’r cartref ac nid oedd gan y ffrindiau sy’n cynrychioli’r unigolyn unrhyw bryderon am y gofal na’r cymorth a ddarperir.  Gwnaethant ofyn am ffan ar gyfer yr ystafell a darparodd uwch swyddog un ar unwaith.

Sylwyd bod yr unigolyn mewn hwyliau da ac yn drwsiadus. 

Gwnaeth y cynrychiolydd ymholiadau ynghylch deintydd yn ymweld a dygwyd hyn i sylw Rheolwr y Cartref er mwyn gwneud atgyfeiriad priodol.

Dywedodd pob person fod y bwyd yn y cartref yn dda ac nad oedd ganddynt unrhyw bryderon i’w codi.

Diogelwch Tân/Iechyd a Diogelwch/Cynnal a Chadw’r Cartref

Cwblhawyd yr asesiad tân diwethaf ym mis Ebrill 2023 ac, ar adeg yr ymweliad, nid oedd yr adroddiad ar gael gan nad oedd wedi’i rannu â’r Cartref.  Fodd bynnag, dywedodd y Gweithiwr Cynnal a Chadw nad oedd unrhyw argymhellion a’i fod yn arolygiad trylwyr iawn.

Arsylwyd y cofnodion dril tân, ac ymgymerir â'r rhain gan y Gweithiwr Cynnal a Chadw.

Gwelwyd bag cydio hefyd yn y prif gyntedd pe bai argyfwng.

Mae'r Gweithiwr Cynnal a Chadw yn cynnal gwiriadau cynnal a chadw rheolaidd ledled y cartref

Mae’r Swyddog Gweinyddol yn gyfrifol am reoli arian y preswylydd.  Caiff arian a dderbynnir ei gofnodi'n electronig ac mae derbynebau papur ffurfiol yn cael eu defnyddio.  Mae un copi yn cael ei gadw gan y preswylydd/aelod o'r teulu, un arall yn y llyfr cofnodion ac mae'r trydydd yn cael ei gadw gan y swyddfa.  Mae gan breswylwyr gyfrifon unigol ac mae dau swyddog (y Swyddog Gweinyddol a Rheolwr y Cartref) yn llofnodi ar gyfer unrhyw arian sy'n cael ei dalu i mewn/ei dynnu allan.

Yn ystod yr ymweliad, sylwyd bod preswylwyr yn mynd at y Swyddog Cynnal a Chadw i ofyn iddo ddatrys problemau gyda theledu SKY, ailosod batris mewn cymhorthion clyw yn lle'r rhai presennol, rhoi lluniau wedi'u fframio ar waliau ystafelloedd gwely ac ati.

Caiff pob damwain ei gofnodi ar system gwybodaeth rheoli risg o'r enw DATIX a, thros y 6 mis diwethaf, ni welwyd unrhyw dueddiadau na phatrymau.

Cyfleusterau

Mae'r cartref wedi'i addurno ag addurniadau ysgafn ac yn ddeniadol i ymwelwyr.  Mae swyddfa’r Rheolwr a'r Gweinyddwr i’r chwith o’r fynedfa ac, i’r dde, mae ardal goffi agored a chroesawgar lle mae rhai preswylwyr yn hoffi cyfarfod â’u hymwelwyr.

Mae ystafell wydr fawr, agored wedi'i chynllunio, ystafell fwyta a lolfa.  Mae gan y lolfa ddrysau sy'n agor i'r ardd, sy'n gartref i bergola, gan ganiatáu i'r preswylwyr eistedd yn yr awyr agored, dan do pe bai'r tywydd yn caniatáu.

Mae gan y cartref ei fws mini ei hun a cheir teithiau rheolaidd i'r Barri, Parc y Rhath, canolfannau garddio, Ikea, bwytai a thafarndai lleol drwy gydol y flwyddyn.  Ar adeg yr ymweliad, sylwyd bod preswylwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ymarfer corff gan ddarparwr allanol.  Mae’r cartref hefyd yn ymgysylltu â ‘Burns Gym’ sy’n darparu ymarfer corff a symbyliadau meddwl i’r preswylwyr hynny sy’n dymuno cymryd rhan.  Ar gyfer unigolion y gofelir amdanynt yn y gwely, bydd y cydlynwyr gweithgareddau/staff gofal yn darllen, peintio ewinedd, tylino dwylo ac ati.

Sicrhau ansawdd

Mae gan y cartref weithdrefn gwyno fewnol HC One; fodd bynnag, dywedodd y Rheolwr fod polisi drws agored ar waith ac mae'n well ganddi fynd i'r afael ag unrhyw faterion neu bryderon gyda phreswylwyr yn y lle cyntaf gan ganiatáu i'r cartref ddatrys materion ar unwaith.  Cofnodir cwynion ffurfiol ar system electronig ac mae'r cofnodion yn cael eu cau pan maen nhw'n cael eu datrys.  Mae pob cwyn ffurfiol i'w datrys yn ffurfiol o fewn 4 wythnos.  Os bydd cwyn yn ymwneud ag aelodau o staff, darperir adborth gan y Rheolwr ar sail un i un a chymerir mesurau/camau gweithredu priodol os oes angen.

Arddangosir canmoliaeth drwy gardiau ar yr hysbysfwrdd i bawb eu gweld ac anogir Rheolwr y Cartref i rannu adborth cadarnhaol gyda'r Swyddog Monitro pan gaiff ei dderbyn.

Cynhelir cyfarfodydd staff rheolaidd, a llofnodir y cofnodion gan y staff sy'n bresennol.  Mae prif ffocws y cyfarfodydd yn amrywio, yn dibynnu ar ba faterion sy’n dod yn flaenoriaeth, h.y. gwersi a ddysgwyd o unrhyw bryderon a godwyd neu drwy archwiliadau, meddyginiaeth, materion staff asiantaeth ac ati.  Mae cofnodion y cyfarfod yn cael eu hychwanegu at becyn electronig o'r enw Deputy, ac mae’r holl staff yn cael cyfrif ac yn gallu cael mynediad at y pecyn ar unrhyw adeg.

Ailddechreuodd cyfarfodydd Preswylwyr/Cynrychiolwyr ym mis Ebrill 2023 ac, yn ystod y cyfarfod, dywedodd y preswylwyr wrth Reolwr y Cartref a’r Dirprwy yr hoffent gael rhagor o adloniant rheolaidd.  Buont yn trafod gwibdeithiau, gwasanaethau Eglwys, partïon gwisg ffansi, prynhawniau ffilm, bingo, felly, roedd llawer o syniadau gan y preswylwyr y gall y Cydlynwyr Gweithgareddau eu hystyried.  

Nid oes gan Gartref Gofal Parklands Hyrwyddwr Dementia ar hyn o bryd.

Bydd y Nyrs a'r Uwch-gynorthwyydd Gofal yn gwneud y trosglwyddo ar lafar cyn dechrau bob shifft. Bydd y trosglwyddo'n cynnwys gwybodaeth am unrhyw newid mewn meddyginiaeth, unrhyw feysydd sy'n peri pryder, newid mewn ymddygiad/hwyliau ac ati.  Mae gwybodaeth o'r fath yn cael ei dogfennu, ac mae gan bob llawr ei ffolder trosglwyddo ei hun y gall staff gyfeirio ati unrhyw bryd yn ystod eu shifft.

Yr amgylchedd

Mae'r cartref wedi'i addurno i safon uchel ac mae'n lân ac yn daclus drwyddo draw, heb unrhyw arogleuon drwg ac ni welwyd unrhyw beryglon yn ystod yr ymweliad.

Gwelwyd bod holl ffeiliau'r staff a'r preswylwyr yn cael eu storio'n ddiogel.

Mae gan y drysau i ystafelloedd gwely unigol lun o'r preswylydd a'i enw.  Mae’r ystafelloedd gwely yn cynnwys gwely, cwpwrdd dillad a chabinet bach gyda theledu. Mae preswylwyr yn addurno eu hystafelloedd ag eiddo personol, ffotograffau teuluol, eitemau sentimental, dillad gwely addurnol ac ati.

Mae yna ardal goffi fechan i fyny'r grisiau, gyda chyfleusterau ar gael yn rhwydd, sydd eto yn hygyrch i bawb.

Camau unioni a datblygiadol

Camau unioni

Roedd Cynlluniau Personol yn amlwg a gwelwyd eu bod yn canolbwyntio ar yr unigolyn o ran y gofal sydd ei angen; fodd bynnag, mae angen cynnwys rhagor o fanylion am ganlyniadau/nodau personol. Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Arolygiaeth Gofal Cymru (RISCA) 6

Wrth adolygu’r cynlluniau personol, mae’n rhaid i’r cartref ddangos pa wybodaeth sydd wedi’i defnyddio i lywio datblygu'r cynllun, h.y. mae’r unigolyn/cynrychiolydd wedi darparu gwybodaeth, cysylltwyd â’r gweithiwr cymdeithasol am wybodaeth ac edrych ar y nodiadau dyddiol i nodi unrhyw newidiadau mewn hwyliau, cyflwyniad, diet, cymeriant hylif ac ati. Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Arolygiaeth Gofal Cymru (RISCA) 16

Camau datblygiadol

Camau datblygiadol Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEPs) i’w hadolygu’n flynyddol, neu’n gynt pe bai amgylchiadau unigolyn yn newid.

I'r Rheolwr/Dirprwy Reolwr rannu unrhyw ganmoliaeth a dderbyniwyd gyda'r Awdurdod Lleol.

Casgliad

Mae gan y cartref dîm rheoli sefydlog ac roedd yn amlwg bod perthynas waith gadarnhaol gan Reolwr y Cartref, y Dirprwy Reolwr a Gweinyddwr y Cartref  sy'n cyfoethogi'r tîm staff. 

Yn ystod yr ymweliad, sylwyd bod y staff yn rhyngweithio'n dda â'r preswylwyr, yn gwenu, yn chwerthin ac yn canu â'i gilydd.  Gwelwyd bod preswylwyr yn cael eu trin ag urddas a pharch.

Bydd monitro rheolaidd yn parhau yng Nghanolfan Gofal Parklands a hoffai'r Swyddog Monitro ddiolch i bawb a gymerodd ran am y lletygarwch a ddangoswyd yn ystod yr ymweliadau.

  • Awdur: Caroline Roberts 
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: 22/05/2023