Cartref Nyrsio Highfields 

Ffordd yr Uwchfaes, Coed Duon, NP12 1SL.
Nifer y gwelyau: 39 Cartref Gofal gyda Nyrsio 
Categori: 28 Person Hŷn (Nyrsio) / 10 Person Hŷn (Preswyl) 1 Anabledd Corfforol 
Deuol Cofrestredig
Ffôn: 01495 225221
E-bost: mrkhan.highfields@yahoo.co.uk
Gwefanwww.highfieldscarehomewales.co.uk

Adroddiad Monitro Contract 

  • Enw/Cyfeiriad y darparwr: Highfields Nursing Home, Highfields Way, Coed Duon
    NP12 1SL
  • Dyddiad/Amser yr ymweliad: Dydd Mercher 10 Mai a Dydd Iau 15 Mehefin 2023
  • Swyddog(ion) Ymweld: Ceri Williams - Swyddog Monitro Contractau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Yn bresennol: Shawkat Ilahi, Rheolwr Cofrestredig

Cefndir 

Mae Highfields wedi'i gofrestru i ddarparu gofal preswyl a nyrsio i hyd at 39 o bobl. Mae'r cartref yn adeilad deulawr ac mae pob ystafell yn feddiannaeth unigol.

Ar adeg yr ymweliad, mae gan y cartref 31 o breswylwyr; 20 yn derbyn gofal nyrsio ac 11 yn derbyn gofal preswyl.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, gall y darparwr gael camau unioni a datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw'r rhai y mae'n rhaid eu cwblhau yn ôl rheoliadau megis Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA). Mae camau datblygiadol yn argymhellion o ran arfer da.

Argymhellion Blaenorol

Camau Unioni

Pob hysbysiad Rheoliad 60 i Arolygiaeth Gofal Cymru i’w copïo i'r Tîm Comisiynu (yn unol â chontract cartrefi gofal y Cyngor). Heb ei fodloni.

Camau datblygiadol

Nid oedd unrhyw gamau datblygiadol yn ystod yr ymweliad diwethaf.

Canfyddiadau'r Ymweliad

Dogfennaeth

Edrychwyd ar ffeiliau gofal dau breswylydd yn ystod yr ymweliad. Roedd y ddau breswylydd yn derbyn gofal preswyl yn y cartref. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys yr asesiadau cyn derbyn priodol a oedd yn ddogfen drylwyr ynghylch anghenion gofal y preswylydd. 

Roedd y Cynlluniau Personol a welwyd ar y ddwy ffeil yn cynnwys yr holl feysydd cymorth sydd wedi'u nodi yng nghynlluniau gofal y Cyngor, a oedd yn bresennol yn y ddwy ffeil. Roedd y Cynlluniau Personol yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac roedd cynnwys manwl ar sut i reoli cyflyrau'r preswylwyr a'u hoffterau ac arferion personol. 

Roedd y Cynlluniau Personol a welwyd hefyd wedi'u llofnodi gan y preswylydd neu eu cynrychiolydd, gan ddangos eu bod nhw wedi bod yn rhan o'r gwaith o gynhyrchu'r cynlluniau.

Roedd Asesiadau Risg priodol ar waith, lle bo hynny'n briodol, i fodloni anghenion y preswylwyr.

Mae'r cynlluniau personol a'r asesiadau risg yn cael eu hadolygu'n fisol, sy'n arfer da, ac mae unrhyw newidiadau'n cael eu dogfennu a chynlluniau'n cael eu diweddaru yn ôl yr angen. Er bod cynlluniau personol yn cael eu hadolygu, nid oedd tystiolaeth bod adolygiadau'n cael eu cwblhau gan gynnwys yr unigolyn neu, os yn briodol, eu cynrychiolydd.

Roedd tystiolaeth ar y ffeiliau a welwyd bod iechyd preswylwyr yn cael ei fonitro'n briodol, gyda gwahanol atgyfeiriadau at weithwyr iechyd proffesiynol megis meddygon teulu, dietegwyr a deintyddion.

Roedd pob cynllun personol yn cynnwys nodau a chanlyniadau unigol ac yna rhestr o'r cymorth sydd ei angen i helpu'r preswylydd eu cyflawni. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys cytundebau gydag aelodau'r teulu/cynrychiolwyr ynghylch cael gwybod am ddigwyddiadau, a oedd wedi eu llofnodi gan y preswylwyr. Roedd y ddwy ffeil hefyd yn cynnwys Cynlluniau Gofal Uwch ar gyfer y preswylwyr a'r cyfarwyddiadau 'Na cheisier dadebru cardio-anadlol' ar ffeil a oedd hefyd wedi'i drafod gydag aelodau'r teulu.

Roedd dogfennau Hanes Bywyd yn bresennol ar y ddwy ffeil ac yn cynnwys manylder da o ran blynyddoedd cynnar y preswylwyr, yn ogystal â'u diddordebau, galwedigaeth, a'r hyn oedd yn bwysig iddyn nhw.

Gweithgareddau

Mae Highfields yn cyflogi cydlynydd gweithgareddau amser llawn ac mae rhaglen o weithgareddau'n cael ei chynllunio'n wythnosol gan ystyried awgrymiadau'r preswylwyr.   Mae digwyddiadau'n cael eu hysbysebu ar hysbysfwrdd a hefyd mewn cylchlythyr ar gyfer pobl sy'n treulio amser yn eu hystafelloedd fel eu bod nhw'n ymwybodol o ddigwyddiadau os ydyn nhw'n dymuno mynychu. Yn ddiweddar, dathlodd y preswylwyr goroni'r Brenin ac fe gafodd digwyddiad ei gynllunio ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision oedd ar fin digwydd. Ar ddiwrnodau'r ymweliadau monitro, arsylwyd ar breswylwyr yn pobi cacennau ac yn mwynhau diwrnod thema 'ar lan y môr', gan fwynhau hufen iâ a phyllau padlo.

Cyfleusterau ac Arsylwadau

Roedd y swyddog monitro yn cerdded o gwmpas y cartref yn ystod y dydd ac roedd pob ardal yn edrych yn lân ac yn daclus. Roedd pob ystafell wely wedi'i haddurno'n unigol, ac yn cynnwys sawl eitem bersonol fel addurniadau, lluniau ac ati.

Siaradodd y swyddog monitro â'r preswylwyr yn ystod yr ymweliadau, a braf oedd clywed sylwadau cadarnhaol am fyw yn y cartref, gan gynnwys cyfeillgarwch y staff, y bwyd, a'r gweithgareddau sydd ar gael.

Gwelwyd y staff yn trin preswylwyr ag urddas a pharch bob amser a nodwyd bod preswylwyr yn cael cynnig dewis, ynghylch ble roedden nhw am dreulio amser yn ystod y dydd ac opsiynau cinio. Roedd y gweithgaredd a gynlluniwyd ar gyfer y dydd hefyd wedi'i newid mewn ymateb i ddewisiadau preswylwyr.

Gwelwyd yr asesiad tân diwethaf. Roedd dau argymhelliad ac fe wnaeth y Rheolwr roi tystiolaeth eu bod nhw'i gyd wedi'u cwblhau. Roedd y ffeil cynnal a chadw yn dangos archwiliadau rheolaidd o ran diogelwch tân.

Roedd Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng ar gael ar gyfer yr holl breswylwyr ac yn dangos bod pobl yn cael eu hasesu am eu hanghenion codi a chario mewn achosion gadael mewn argyfwng ac yn gwahaniaethu rhwng gadael yn y dydd a'r nos. Mae'r cynlluniau hyn hefyd yn cael eu hadolygu'n fisol.

Yn ddiweddar, mae'r cartref wedi cael yr Arolygiad Hylendid Bwyd blynyddol ac wedi cadw eu sgôr 5 seren.

Hyfforddiant

Mae Highfields yn defnyddio cymysgedd o hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb sy'n cael ei ddarparu gan y Bwrdd Iechyd Lleol, y Cyngor a darparwr hyfforddiant allanol. Mae staff yn gallu nodi eu hanghenion hyfforddi eu hunain yn ystod sesiynau goruchwylio.

Roedd y matrics hyfforddi a ddarparwyd yn dangos bod yr hyfforddiant gorfodol yn cael ei gynnal yn rheolaidd, a bod hyfforddiant yr holl staff yn gyfredol. Roedd hefyd tystiolaeth o amrywiaeth dda o hyfforddiant nad yw'n orfodol yr oedd staff wedi cwblhau er mwyn eu galluogi i fodloni gofynion eu rôl a diwallu anghenion y preswylwyr unigol.

Staffio

Yn ystod y dydd mae 6 Gofalwr, 2 Nyrs, 1 Cydlynydd Gweithgareddau, 2 Gynorthwyydd Domestig a 2 Gynorthwyydd Cegin yn staffio'r cartref. Mae rheolwr a gweinyddwr y cartref hefyd yn bresennol o ddydd Llun i ddydd Gwener. Yn ystod y nos, mae 4 Gofalwr ac un Nyrs yn staffio’r cartref. 

Edrychwyd ar ddwy ffeil staff yn ystod yr ymweliad. Canfuwyd fod y broses recriwtio yn gadarn. Mae rhestrau gwirio yn cael eu defnyddio i sicrhau bod yr holl ddogfennau angenrheidiol yn eu lle cyn dechrau’r swydd. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol. Roedd tystiolaeth yn sicrhau bod gwiriadau priodol wedi'u gwneud fel rhan o'r broses ymgeisio, megis ffurflen gais, dau eirda, a chofnod o'r cyfweliad. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys contract cyflogaeth wedi'i lofnodi, disgrifiad swydd, hanes cyflogaeth llawn a thystiolaeth o hunaniaeth. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys tystiolaeth bod gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'i gwblhau cyn i'r aelod o staff ddechrau gweithio, ac fe gadarnhaodd y Rheolwr fod y rhain yn cael eu cwblhau bob 3 blynedd.

Darparwyd Matrics Goruchwylio a oedd yn dangos bod pob aelod o staff yn cael goruchwyliaeth o fewn yr amserlenni sydd wedi'u nodi mewn rheoliadau. Gwelwyd enghreifftiau o oruchwylio. Roedd sesiynau a recordiadau o oruchwylio yn fanwl ac yn cynnwys y cyfle i staff fyfyrio ar eu hymarfer ac unrhyw faterion eraill roedden nhw am eu codi. Gwelwyd tystiolaeth hefyd fod yr holl staff wedi cael gwerthusiad blynyddol.   Roedd cofnodion yn fanwl ac yn cynnwys cynllun gweithredu, datblygiad gyrfa a sylwadau gan y gwerthuswr a'r un oedd yn cael ei werthuso.

Sicrhau ansawdd

Darparwyd copi o'r adroddiad sicrhau ansawdd. Mae tystiolaeth amlwg o gynnwys preswylwyr, perthnasau, staff a rhanddeiliaid eraill yn y broses sicrhau ansawdd. Fodd bynnag, nid oedd tystiolaeth bod yr adolygiadau ansawdd gofal yn cael eu gwneud bob chwe mis fel sy'n ofynnol gan reoliadau.

Rhoddwyd adroddiad monitro chwarterol yr Unigolyn Cyfrifol i'r swyddog monitro hefyd i fonitro perfformiad y gwasanaeth. Roedd hwn yn ddogfen gynhwysfawr ac yn cynnwys adborth preswylwyr, adborth staff, cynllunio gofal a chofnodion dyddiol, cynnal a chadw'r adeilad ac unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau. Byddai'r adroddiad sy'n deillio o ymweliadau'r Unigolyn Cyfrifol yn elwa o fod yn adroddiadau ar wahân ar gyfer pob ymweliad, yn lle cyfuno'r ddau ymweliad mewn un adroddiad. Byddai hyn yn ei wneud yn haws i'w ddarllen a gall unrhyw weithredoedd sy'n deillio o'r ymweliad gael eu nodi'n glir.

Roedd tystiolaeth ar gael o archwiliadau misol cynhwysfawr a gynhaliwyd, mae gwybodaeth yn cael ei chadw ac yn cael ei gweithredu arni ar gyfer datblygu a gwelliant parhaus. Mae cyfarfodydd Iechyd a Diogelwch yn cael eu cynnal yn chwarterol gyda'r tîm rheoli ac uwch aelodau o staff. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, mae digwyddiadau/damweiniau ac unrhyw weithredoedd a dysgu sydd wedi’u cofnodi yn cael eu trafod. Mae archwiliadau, hyfforddiant a gwaith chynnal a chadw’r eiddo hefyd yn cael eu trafod.  

Mae polisïau a gweithdrefnau ar gael i staff drwy ap ar eu ffonau symudol, sydd hefyd yn rhoi gwybod i staff pan mae unrhyw bolisïau neu weithdrefnau wedi'u diweddaru neu adolygu. 

Mae sesiwn drosglwyddo dan arweiniad nyrs cyn i bob shifft ddechrau, ac mae'r holl staff gofal a nyrsio yn ei mynychu. Yn ystod y sesiwn drosglwyddo, mae gwybodaeth a diweddariadau yn cael eu rhannu am y preswylwyr, gan gynnwys unrhyw newidiadau pwysig, ac mae hefyd yn cael ei gofnodi.

Mae llawlyfr cynnal a chadw cynhwysfawr i’r cartref, sy'n dangos unrhyw welliannau a gwaith i'w gwblhau o gwmpas y cartref. Hefyd, mae gwiriadau dyddiol, wythnosol, misol, chwarterol a chwe misol yn cael eu cynnwys, ar gyfer agweddau amrywiol ar amgylchedd y cartref.

Roedd adborth gan y preswylwyr yn ystod yr ymweliad yn gadarnhaol o ran y gofal a'r cymorth sy'n cael ei ddarparu a hefyd y staff a sut mae'r cartref yn cael ei reoli. Mae'r rheolwr yn weledol ac yn hawdd mynd ato, i staff a phreswylwyr drwy'r cartref.

Cysylltwyd â pherthnasau dau breswylydd i gael adborth. Cadarnhaodd y ddau berthynas bod eu haelodau o'r teulu wedi setlo'n dda yn y cartref ac nad oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon ynghylch y gofal a'r cymorth sy'n cael ei ddarparu. Dywedodd y ddau eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw wedi cael eu croesawu i'r cartref wrth ymweld, ac er nad oedd gan unrhyw un ohonyn nhw reswm i godi unrhyw faterion neu bryderon, dywedodd y ddau eu bod nhw'n teimlo bod y staff a'r rheolwr yn hawdd mynd atyn nhw, a bydden nhw'n teimlo'n gyfforddus yn gwneud hyn, pe bai angen. Maen nhw, fel teuluoedd, yn cael gwybodaeth am unrhyw newidiadau yng ngofal a chymorth eu perthnasau ac yn cael gwybod am unrhyw apwyntiadau ysbyty/meddygol bob amser. Disgrifion nhw eu hanwyliaid fel 'hapus iawn' a'u bod yn 'caru'r lle' wrth gael eu holi am fyw yn y cartref.

Camau Unioni / Datblygiadol

Camau Unioni

Dylai adolygiadau gael eu cynnal a, lle bo'n briodol, gyda chytundeb yr unigolyn, a'u cynrychiolwr bob tri mis o leiaf.  (Rheoliad 16, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA)

Dylid adolygu ansawdd gofal a chymorth bob chwe mis o leiaf.  (Rheoliad 80, RISCA)

Dylid cyflwyno hysbysiad Rheoliad 60 i'r rheoleiddiwr i'w anfon at Dîm Comisiynu'r Cyngor.  (Contract Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili)

Camau Datblygiadol

Dylai adroddiadau Rheoliad 73 yr Unigolyn Cyfrifol adlewyrchu ymweliadau sy'n cael eu cynnal ganddo a dylen nhw ddogfennu pob ymweliad. 

Casgliad

Roedd awyrgylch gynnes a chyfeillgar drwy gydol yr ymweliadau â'r cartref. Gwelwyd bod staff yn rhoi dewis i breswylwyr ynghylch eu hanghenion gofal a chymorth, sut roedden nhw am dreulio'u diwrnod a phrydau/byrbrydau.  

Roedd safon y ddogfennaeth yn rhagorol a darparwyd popeth y gofynnwyd amdano gan y swyddog monitro yn brydlon. Hoffai'r swyddog monitro contractau ddiolch i'r preswylwyr a'r staff am eu hamser a'u croeso yn ystod yr ymweliad.

  • Awdur: Ceri Williams
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: 07 Gorffennaf 2023