Cartref Preswyl Ashville

Teras Briste, Brithdir, Tredegar Newydd, NP24 6JG.
Nifer y gwelyau: 35 Cartref Gofal gyda Nyrsio 
Categori: 24 Dementia (Nyrsing) / 11 Person Hyn/Dementia 
Deuol Cofrestredig
Ffôn: 01443 834842
E-bost: admin@ashvillecare.co.uk  
Gwefanwww.comfortcarehomes.co.uk

Adroddiad Monitro Contract

  • Enw/Cyfeiriad y darparwr: Cartref Preswyl Ashville, School Street, Brithdir, Tredegar Newydd NP24 6JH    
  • Dyddiad/Amser yr ymweliad(au): 6 Ebrill 2023, 10.00–2.45pm, 19 Ebrill 2023, 11.30–3.45pm, 21 Mehefin 2023, 11.30–2.55pm
  • Swyddogion Ymweld: Andrea Crahart, Swyddog Monitro Contractau, Tîm Comisiynu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Jay Ventura-Santana, Uwch Nyrs Arweiniol ar gyfer Llywodraethu a Diogelu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ymweliad 6 Ebrill yn unig)
  • Present: Marcella Taylor, Rheolwr Cofrestredig, Angela Mason, Arweinydd Clinigol (yn bresennol yn ystod yr ymweliadau ar 6 Ebrill a 21 Mehefin 2023)

Cefndir

Mae Cartref Gofal Ashville wedi'i gofrestru i ddarparu llety i 35 o bobl sydd ag anghenion preswyl dementia neu nyrsio dementia. Ar adeg yr ymweliad diweddaraf, roedd y Cartref yn llawn, heb unrhyw swyddi gwag ar gael.

Mae'r rheolwr wedi'i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (corff rheoleiddio'r gweithlu).

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) arolygiad o'r Cartref ym mis Ebrill 2023, a oedd yn gadarnhaol ac ni wnaed unrhyw argymhellion ar gyfer gwella.

Yn aml, cynhelir y gwaith o fonitro'r Cartref ar y cyd gan Gomisiynwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CCBC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae swyddogion ymweld yn defnyddio amrywiaeth o systemau monitro i gasglu gwybodaeth ac mae hyn yn cynnwys arsylwadau o ymarfer yn y Cartref, archwilio dogfennaeth a sgyrsiau gyda staff, preswylwyr, perthnasau, gweithwyr proffesiynol ac ati sy’n cael eu defnyddio i gynorthwyo gydag unrhyw welliannau mewn gofal a hysbysu arferion da ac ati.

Yn dibynnu ar y canfyddiadau yn yr adroddiad, bydd camau unioni a datblygiadol yn cael eu rhoi i'r darparwr i'w cwblhau. Camau unioni yw'r rhai y mae'n rhaid eu cwblhau (fel sy’n cael ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth); argymhellion arfer da yw camau datblygiadol.

Argymhellion blaenorol

Camau Unioni

Dylid diwygio’r Datganiad o Ddiben a’r Canllawiau Defnyddwyr Gwasanaeth cyfredol.  Amserlen: O fewn 1 mis. (Rheoliad 7, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Dylid cynnwys dyddiad adolygu arfaethedig yn yr holl Bolisïau a Gweithdrefnau fel bod gwybodaeth yn cael ei chadw’n gyfredol. Amserlen: O fewn 1 mis. (Rheoliad 12, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Dylid diweddaru manylion cyswllt o fewn ffeil y cynlluniau personol gadael mewn argyfwng. Amserlen: O fewn 1 mis. (Rheoliad 19, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Dylid ail-baentio rhannau o'r Cartref (gwaith coed) a’u cynnwys yn y Rhaglen Cynnal a Chadw. Amserlen: O fewn 6 mis. (Rheoliad 44, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Wedi’i gyflawni’n rhannol.

Dylid cofnodi dau lofnod ar gyfer yr holl drafodion sy'n ymwneud â chronfeydd preswylwyr. Amserlen: Ar unwaith ac yn barhaus. (Rheoliad 44, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Camau Datblygiadol

Clirio’r ardal glyd yn y lolfa ar y llawr gwaelod, er mwyn galluogi pobl i chwarae'r piano os ydyn nhw’n dymuno. Amserlen: O fewn 1 mis. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Ychwanegu sefyllfaoedd addas at y cofnod cyfweld staff. Amserlen: O fewn 2 fis. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Yr Unigolyn Cyfrifol i ddatblygu’r adroddiadau chwarterol ymhellach, er mwyn cynnwys agweddau eraill ar y gwasanaeth a rhannu'r wybodaeth yn benawdau, gan gynnwys unrhyw gamau gweithredu sydd eu hangen. Amserlen: O fewn 6 mis. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.  

Parhau i wella'r profiad ymolchi i bobl drwy wneud pob ystafell ymolchi yn y Cartref yn gartrefol. Amserlen: O fewn 12 mis. Wedi'i gyflawni'n rhannol – mae cynlluniau i wella'r ardaloedd hyn. 

Rheolwyr/staff i fod yn ymwybodol o’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan newydd sy'n cael ei gyflwyno gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Rhaid bod yn ymwybodol hefyd o'r broses gofrestru ar gyfer gofalwyr sy'n dod i rym ym mis Ebrill 2022 ar gyfer staff cartrefi gofal. Lledaenu hynny i staff ac annog staff i gyrchu sesiynau cyngor/hyfforddiant pellach. Amserlen: O fewn 24 mis. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Unigolyn Cyfrifol

Mae Unigolyn Cyfrifol y gwasanaeth yn ymweld â chartref gofal Ashville yn rheolaidd, ac yn rhan o'r rôl, mae disgwyl i adroddiadau chwarterol gael eu cynhyrchu i adrodd ar y gwasanaeth a'i ansawdd, yn ogystal ag Adolygiad Ansawdd chwe misol. 

Roedd Datganiad o Ddiben y Cartref wedi'i ddiweddaru ym mis Mawrth 2023 ac yn darparu trosolwg clir o nodau’r cartref ac ymrwymiad y cartref i'r preswylwyr mae'n darparu gofal a chymorth iddyn nhw.

Darllenwyd polisïau a gweithdrefnau'r Cartref ac roedd yn amlwg bod y mwyafrif ohonyn nhw wedi cael eu hadolygu eleni, ac eithrio un a oedd wedi cael ei adolygu ym mis Medi 2022. Fodd bynnag, ni nodwyd dyddiadau adolygu arfaethedig ar y polisïau.

Rheolwr Cofrestredig

Mae Rheolwr y Cartref wedi'i gofrestru yng Nghartref Gofal Ashville, ac fel Cyfarwyddwr Cartref yn ardal Cyngor Dinas Casnewydd.

Mae gan yr adeilad gamerâu teledu cylch cyfyng, sydd wedi'u lleoli yn ardaloedd cymunedol y Cartref yn unig. Mae'r canolbwynt wedi'i leoli yn swyddfa'r rheolwr ac mae trefniadau ar waith i breswylwyr/eu perthnasau roi caniatâd ar gyfer hyn.  Nid oes camerâu teledu cylch cyfyng yn weithredol yn ystafelloedd gwely yr unigolion i sicrhau preifatrwydd ac urddas pobl.

Mae'n ofynnol i gartrefi gyflwyno dogfennau Rheoliad 60 i Arolygiaeth Gofal Cymru a sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r Tîm Comisiynu yn ymwybodol o faterion sylweddol yn ymwneud â phobl yn y cartref a digwyddiadau eraill sy'n effeithio ar y Cartref. Roedd yr Unigolyn Cyfrifol wedi adrodd ar hyn mewn ymweliad diweddar i gadarnhau bod y rhain yn cael eu cyflwyno pan fo angen.

Staffio a hyfforddiant

Mae Cartref Gofal Ashville yn cael mynediad at hyfforddiant gorfodol ac anorfodol i'w tîm o staff drwy amrywiaeth o ddarparwyr hyfforddiant, er enghraifft, Langfords, Tîm Datblygu'r Gweithlu Cyngor Caerffili/Blaenau Gwent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae staff hefyd yn gallu cael mynediad at hyfforddiant ar-lein trwy 'Care Skills' i wella eu dysgu. 

Mae gan y Cartref fatricsau hyfforddi sy'n dangos yn glir pryd mae bwriad i gynnal cyrsiau hyfforddi. Nododd y matricsau fod presenoldeb da wedi bod ar gyrsiau hyfforddi gorfodol (hynny yw codi a chario, hylendid bwyd, diogelu ac ati) gydag ychydig o staff angen ymgymryd â'r rhain i gael eu diweddaru.

Mae'r Cartref wedi cyflwyno pecyn e-ddysgu amgen (Academi Sgiliau Allweddol) i staff weithio gydag ef. Rhoddwyd gwybod i'r swyddog monitro contractau bod hyfforddiant wedi'i ddarparu yn ddiweddar ar gyfer gofal cathetr a gwythïen-bigo a bod y Nyrsys Ardal mewn sefyllfa i allu cynnal profion cymhwysedd ar gyfer yr hyfforddiant gofal cathetr a chytunwyd ei fod yn fuddiol.

Mae staff yn parhau i gofrestru ar gyfer cymwysterau’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau mewn gofal cymdeithasol fel rhan o'u rôl nhw. Ar hyn o bryd, mae'r tîm nyrsio yn cael ei arwain gan arweinydd clinigol, sy'n cael ei oruchwylio gan yr Unigolyn Cyfrifol, ac mae pedair nyrs gyffredinol gofrestredig a dwy nyrs iechyd meddwl gofrestredig. Mae pedwar uwch aelod o staff, gofalwyr, staff domestig, staff cegin, staff golchi dillad a staff cynnal a chadw.

Yn ystod y dydd, mae hefyd o leiaf chwech o ofalwyr, dwy nyrs gymwysedig, ac yn ystod y nos, mae tri aelod o staff gofal ac un nyrs gymwysedig.  Mae hyn bob amser yn cael ei adolygu i sicrhau bod nifer y staff yn ddigonol i ddiwallu anghenion y preswylwyr.

'Y Cynnig Gweithredol' – Mae Mwy na Geiriau (Deddf Iaith Gymraeg ddiwygiedig) yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gofal cymdeithasol ddarparu cyfathrebu yn Gymraeg heb i'r person ofyn am hyn. Mae'r rheolwr yn ymwybodol o'r Ddeddf a sut mae modd ei chymhwyso, ond ar hyn o bryd, nid yw'r cartref yn gallu darparu ar gyfer unrhyw un sy'n dewis siarad Cymraeg.

Ffeiliau staff a goruchwylio

Edrychwyd ar ddwy ffeil staff a oedd wedi'u trefnu'n daclus, yn cynnwys mynegai ac roedd yr wybodaeth yn hawdd ei darganfod.

Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys gwybodaeth a fyddai wedi cael ei chasglu yn rhan o'r broses recriwtio, hynny yw, ffurflen gais fanwl, geirdaon ysgrifenedig, cofnodion cyfweld, contractau cyflogaeth, gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), llun o'r gofalwr a thystysgrifau hyfforddiant. Nid oedd un o'r contractau cyflogaeth wedi’i lofnodi, a ddaeth i sylw'r rheolwr yn ystod yr ymweliad, ac nid oedd y geirdaon wedi'u dilysu yn rhan o'r broses.

Cynhaliwyd cyfweliadau gyda'r ymgeiswyr, a oedd wedi'u llofnodi a'u dyddio gan y cyfwelwyr dan sylw. Roedd y cwestiynau a ofynnwyd yn cynnwys cwestiynau perthnasol a sefyllfa i brofi gwybodaeth yr unigolyn o'r hyn y byddai'n ei wneud pe bai'n credu bod arfer gwael.

Roedd yn amlwg o'r tystysgrifau hyfforddi ar ffeil bod staff yn cael eu cynorthwyo i fynychu llawer o wahanol gyrsiau hyfforddi er mwyn gwella eu gwybodaeth ynghylch gofalu am bobl, sy'n cael eu darparu wyneb yn wyneb, drwy ddysgu ar-lein a thrwy arsylwadau ymarfer uniongyrchol.

Gwelwyd matrics goruchwylio presennol y Cartref. Roedd yn amlwg bod sesiynau goruchwylio wedi cael eu cynnal yn rheolaidd (hynny yw bob tri mis) gyda'r holl staff sy’n cael eu cyflogi yn y cartref ac roedd gwerthusiadau wedi'u cynllunio hefyd. 

Archwilio ffeiliau a dogfennaeth

Cafodd dwy ffeil eu harchwilio fel rhan o'r broses fonitro a drefnwyd mewn modd trefnus ac roedden nhw’n cynnwys gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â phenderfyniad ‘na cheisier dadebru cardio-anadlol’, manylion derbyn, proffil y person (gan gynnwys llun), dogfen 'Dyma fi' ac ati, a chafwyd caniatâd o ran tynnu lluniau o'r person a'r defnydd o gamerâu teledu cylch cyfyng mewn ardaloedd cymunedol, cynlluniau gofal a chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac ati.

Roedd y Cynlluniau Personol (Cynlluniau Gofal a Chymorth) ar waith ar gyfer pob agwedd ar ofal, er enghraifft, iechyd a lles, gofal personol, symudedd, cyflwr y croen, gofal ymataliaeth ac ati, ac fe'u nodwyd a'u hysgrifennu mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Roedd Asesiadau Risg hefyd yn bresennol mewn perthynas â diogelwch rheiliau gwelyau, peryglon tagu ac ati.

Roedd y Cynlluniau Personol wedi cael eu hadolygu'n fisol o leiaf i adlewyrchu pryd roedd anghenion pobl wedi newid, neu lle roedd achosion wedi codi (er enghraifft cwympiadau), ac roedden nhw’n ddisgrifiadol iawn.

Roedd cofnodion i ddangos bod y gweithwyr proffesiynol priodol yn ymwneud â gofal y person hwn gan fod ymweliadau â meddygon teulu wedi'u dogfennu a bod cofnod amlddisgyblaethol wedi'i gwblhau gan weithwyr proffesiynol eraill hefyd.

Edrychwyd ar y Cofnodion Dyddiol ar gyfer un o'r unigolion ac roedden nhw’n adlewyrchu'r gofal a'r cymorth oedd eu hangen arnyn nhw (fel yr amlinellwyd yn eu Cynlluniau Personol).

Systemau Sicrhau Ansawdd

Mae'r Unigolyn Cyfrifol yn parhau i oruchwylio Ashville trwy gynnal ymweliadau rheolaidd â'r cartref ac roedd adroddiadau ar gael yn barod i ddangos tystiolaeth o'r ymweliadau hyn.

Gwelwyd adroddiadau’r Unigolyn Cyfrifol ar gyfer y tri chwarter blaenorol a chadarnhawyd bod yr Unigolyn Cyfrifol yn rhan fawr o fywyd y cartref wrth gyfathrebu â staff, preswylwyr a pherthnasau a chael adborth ganddyn nhw. Mae'r adroddiadau hefyd yn cynnwys digwyddiadau/damweiniau, archwiliadau ac ati.

Cyhoeddwyd adroddiad Sicrhau Ansawdd chwe misol diweddaraf y Cartref (hyd at fis Mawrth 2023) a oedd yn ymdrin â llawer o feysydd, er enghraifft, archwiliad mewnol o hyfforddiant, ffeiliau staff a phreswylwyr, systemau sicrhau ansawdd, adborth staff a pherthnasau ac ati. Er nad oedd unrhyw ddyddiadau na blaenlythrennau’r bobl y siaradwyd â nhw wedi cael eu cadw fel tystiolaeth o’r rheini y siaradwyd â nhw.

Mae'r rheolwr yn parhau i fod â pholisi 'drws agored' o ran galluogi cyfathrebu un i un rhwng perthnasau, gweithwyr proffesiynol sy'n ymweld ac ati, i alluogi trafodaeth ynghylch unrhyw bryderon, a chadarnhawyd hyn hefyd gan berthynas a oedd yn ymweld y siaradwyd ag ef.

Mae'r nyrsys neu'r uwch ofalwyr yn ymgymryd â phroses drosglwyddo staff yn ddyddiol ac mae'r rhain yn cael eu gwneud i gyfnewid gwybodaeth am iechyd a lles y preswylwyr, ac maen nhw’n gallu cynnwys, er enghraifft, iechyd cyffredinol, anghenion cyflwr y croen, sut maen nhw wedi cysgu, cyngor ymwelwyr proffesiynol ac ati. 

Cynhelir cyfarfodydd tîm staff yn rheolaidd gyda staff gofal, staff domestig a’r tîm nyrsio i drafod pynciau perthnasol. Yn ddiweddar, roedd cyfarfod gyda gofalwyr yn edrych ar nodau, cyflawniadau a chydnabyddiaeth o arferion da, gwelliannau yn y cartref, rôl yr arweinydd clinigol, disgwyliadau rolau swydd ac ati. Roedd yn amlwg bod y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal yn rheolaidd. 

Ym mis Ebrill 2023, cyflawnodd y cartref sgôr Hylendid Bwyd o 3 sy'n nodi lefel foddhaol o gyflawniad.

Mae'r Meddyg Teulu yn cynnal adolygiadau o feddyginiaeth bob blwyddyn o leiaf, ond mae'r person hwn yn galw'n amlach os oes angen. 

Cynnal a chadw’r Cartref

Mae staff cynnal a chadw yn cynnal archwiliadau cynnal a chadw o'r adeilad. Mae'r rôl hon yn cynnwys llawer o ddyletswyddau, er enghraifft, paentio ac addurno, gwirio bod cadeiriau olwyn mewn cyflwr da, gwiriadau diogelwch tân ac ati. Roedd yn amlwg bod ardaloedd i'w hatgyweirio wedi'u nodi a chadarnhawyd eu bod wedi cael sylw.

Diogelwch Tân/Iechyd a Diogelwch

Cwblhawyd yr Asesiad Tân diweddaraf ym mis Chwefror 2021 ac roedd yr holl feysydd i'w gwella wedi'u marcio fel rhai a gwblhawyd gan Reolwr y Cartref.

Roedd staff wedi bod yn bresennol mewn driliau tân yn fisol, a oedd yn cynnwys gwahanol aelodau o staff (er enghraifft gofalwyr, domestig, nyrsys, gweinyddiaeth) ar sawl achlysur. Gwnaed pob proses wacáu mewn modd amserol ac ni chofnodwyd unrhyw faterion. Hysbyswyd y swyddog monitro contractau bod driliau tân yn cael eu cynnal yn rheolaidd bob mis i sicrhau bod yr holl staff yn cael cyfle i fod yn rhan o'r rhain, wrth i staff newydd gael eu penodi.

O ran gwacáu yn ystod tân, mae'r Cartref wedi gwneud y trefniant gydag eglwys leol, os bydd angen i'r preswylwyr adael i 'le diogel', byddan nhw’n gallu gwneud hynny a bydd manylion cyswllt ar gael yn barod.

Gwelwyd y Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng ar gyfer pobl sy'n byw yn y cartref. Roedd yn amlwg bod y rhain wedi cael eu hadolygu'n rheolaidd. Roedd rhai manylion cyswllt yn y ffeil wedi dyddio ar gyfer rhai unigolion, ond cawson nhw eu diweddaru ar unwaith.

Rheoli arian preswylwyr

Mae'r gweinyddwr yn y cartref yn rheoli arian pobl ac roedd hi'n amlwg bod system glir a chadarn ar gyfer cofnodi pryd cafodd arian ei dderbyn a'i dynnu allan. Llofnodwyd unrhyw drafodion gan 2 lofnodwr a chafwyd derbynebau.

Adborth staff

Cynhaliwyd nifer o sgyrsiau gyda staff yn ystod yr ymweliadau, lle'r oedd yn amlwg bod staff yn cymryd rhan ym mywyd y cartref ac yn siarad yn dda am y tîm maen nhw’n gweithio gyda nhw a'r cymorth maen nhw’n ei gael.

Adborth perthnasau

Soniodd un unigolyn fod ei berthynas yn derbyn gofal da iawn yn Ashville a'i fod yn hapus iawn gyda'r gofal a ddarperir gan bawb yn y Cartref. Cadarnhawyd ei fod bob amser yn teimlo bod croeso iddo pan fydd yn ymweld, gan gael cynnig diod a rhywbeth i'w fwyta, a bod staff mor ddefnyddiol. Mae’r perthynas yn teimlo’n gartrefol wrth i staff ddiwallu ei hanghenion yn ddyddiol, treulio amser yn siarad â hi a phaentio ei hewinedd, sy'n rhywbeth mae hi'n ei fwynhau'n fawr.

Arsylwadau cyffredinol

Cyfleusterau/Amgylchedd

Gellid gweld staff yn treulio amser gyda'r preswylwyr mewn ardaloedd cymunedol, yn siarad â phobl ac yn cael prydau bwyd gyda nhw i'w hannog i fwyta rhagor. Mae powlenni o ffrwythau ffres yn y lolfa a’r cynteddau ar gael i bobl helpu eu hunain pan fyddan nhw’n dymuno a troli melysion a stondin hufen iâ i bobl eu mwynhau.

Nid oedd annibendod yn yr ystafelloedd ymolchi a hysbyswyd y swyddog monitro contractau y byddai rhai ystafelloedd ymolchi yn y cartref yn cael eu hadnewyddu'n llwyr maes o law.

Mae gan y Cartref bedair lolfa sy'n gartrefol iawn, ac mae gan ddau ohonyn nhw gyfleusterau bar brecwast fel y gall gofalwyr wneud diodydd a byrbrydau i'r preswylwyr a'r ymwelwyr yn ôl eu dymuniad. Mae'r lolfa fawr ar y llawr gwaelod yn ofod amlbwrpas sy'n cynnwys y brif gegin, cadeiriau, soffas, byrddau, piano, ac mae'r ardd allanol yn hygyrch drwy'r lolfa hon. Ar hyn o bryd, mae'r Cartref yn defnyddio hwn ar gyfer digwyddiadau mawr ac yn ystyried defnyddiau eraill, er enghraifft, caffi dementia.    

Profiad amser bwyd

Gwelwyd y profiad amser bwyd yn y lolfa i fyny'r grisiau yn ystod un o'r ymweliadau. Cynorthwywyd pobl i fwyta lle bo angen, a gwnaed hynny mewn ffordd ddi-frys. Roedd byrddau wedi'u gosod gyda chynfennau, sawsiau a dillad bwrdd. Rhoddwyd gwybod i’r swyddog monitro contractau bod y dillad bwrdd yn cael eu newid bob dydd i sicrhau eu bod nhw’n lân ac wedi’u gwasgu.

Ar y diwrnod, roedd gan bobl ddewis o bysgod, lasagne neu ham (pob un gyda sglodion a llysiau a oedd yn arogleuo ac yn edrych yn flasus).   

Roedd digon o staff ar gael i gynorthwyo pobl gyda'u prydau bwyd, gyda diodydd ffres yn cael eu cynnig. Roedd y troli melysion yn cynnwys dewisiadau o bwdinau, er enghraifft, cacennau cartref, pwdin bara menyn, Angel Delight gyda hufen a Smarties bach, jeli ac iogwrt.

Gweithgareddau

Trefnir gweithgareddau gan ofalwyr drwy gydol y dydd ac maen nhw naill ai'n cael eu trefnu fel grŵp a/neu ar sail unigol, yn unol â'r hyn mae pobl yn dewis ei wneud.

Yn ystod un o'r ymweliadau, daeth aelod o staff â'i gi i'r cartref a gwelwyd ei fod yn rhoi llawer o fwynhad i'r preswylwyr a rhoddwyd gwybod i'r swyddog monitro contractau fod y ci yn ymwelydd cyson.

Arsylwadau

Nodwyd llawer o ryngweithio hyfryd rhwng staff a phreswylwyr, gydag amynedd yn cael ei ddangos ac amser yn cael ei dreulio yn canu hoff gân un o’r preswylwyr.  Roedd gŵr, a oedd yn caru ceuled lemwn ar ei dost o’r blaen, ac nad oedd yn gallu cael hyn mwyach oherwydd problemau llyncu, bellach yn cael hyn wedi ei ychwanegu at ei fwyd stwnsh.

Yn ystod yr ymweliadau, roedd preswylwyr yn edrych fel pe baen nhw wedi’u gofalu amdanynt yn dda.

Camau Unioni

Dylid gwirio geirdaon staff bob amser fel rhan o’ broses recriwtio a dylid llofnodi contractau cyflogaeth gan y ddau barti.  Amserlen: Ar unwaith ac yn barhaus.  Rheoliad 35, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Dylid ychwanegu dyddiadau adolygu arfaethedig at yr holl bolisïau/gweithdrefnau gorfodol.  Amserlen: O fewn 3 mis. Rheoliad 12, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.                   

Casgliad

Roedd y rhyngweithio rhwng staff a phreswylwyr yn hyfryd, gyda staff yn dangos caredigrwydd ac amynedd i breswylwyr ac yn eu cynnal mewn modd di-frys.  Gwelodd y swyddog monitro contractau lawer o adegau hapus pan oedd aelod o staff yn dod â chi i mewn i ymweld â phobl yn eu lolfeydd a oedd yn gwneud iddyn nhw wenu a chafodd y swyddog wybod bod hyn yn digwydd yn eithaf aml.

Mae'r tîm o staff yn mynychu ystod o gyrsiau hyfforddi, rhai ohonyn nhw yn yr ystafell ddosbarth ac eraill drwy e-ddysgu, ac mae'r rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn gyfredol.

Mae dogfennaeth sy'n ymwneud â staff yn cael ei storio'n drefnus ac mae'r prosesau recriwtio yn gadarn. O ran dogfennau preswylwyr, mae hyn hefyd yn parhau i gael ei ffeilio mewn modd trefnus gyda Chynlluniau Personol (Cynlluniau Gofal) yn cael eu manylu a'u hysgrifennu mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Cynhaliwyd adolygiadau o’r Cynlluniau Personol yn rheolaidd ac roedd yr wybodaeth a ysgrifennwyd yn ystyrlon.

Hoffai'r swyddog monitro contractau ddiolch i'r rheolwyr a'r staff am eu hamser a'u lletygarwch yn ystod y broses fonitro.

  • Awdur: Andrea Crahart
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • ​Dyddiad: Gorffennaf 2023