FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cyfarpar ac Addasiadau

Sut i gael cyngor a chymorth

Fel arfer y prif bwynt cyswllt gyda Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yw trwy’r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.

I ddechrau, gellir darparu cymorth ar ffurf sgwrs dros y ffôn lle byddai aelod o staff yn trafod yr hyn sy'n bwysig i chi a beth yr ydych yn teimlo y gall fod yn ateb posibl, gan ystyried eich cryfderau a’ch adnoddau eich hunain. I rai pobl, mae'n bosibl y darperir gwybodaeth i'w helpu i ddod o hyd i ateb eu hunain, er enghraifft darparwyr cyfarpar lleol er mwyn cynorthwyo byw bob dydd gallwch brynu’n breifat fel stôl uchel, codwyr cadeiriau neu fyrddau cawod.

Mae yna nifer o siopau o fewn y gymuned sy'n gwerthu cymhorthion byw bob dydd a mantais prynu'n lleol yw y gallwch roi cynnig ar bethau eich hunan yn gyntaf. Os yw mynd i'r siopau yn anodd, mae yna hefyd nifer o wefannau ar-lein sy'n gwerthu cymhorthion a chyfarpar.

Gall gwneud mân addasiadau i'ch cartref, megis gosod rheiliau cydio, rheiliau llaw neu rampiau bach helpu gwella’ch sefyllfa. Mae nifer o opsiynau ar gael - er enghraifft, gallwch brynu’r rhain eich hunain a gofyn i aelod o'r teulu neu ffrind i'ch helpu chi i’w gosod, neu ddefnyddio adeiladwr lleol. Mae dewisiadau eraill yn cynnwys  Gofal a Thrwsio, sydd â Gwasanaeth Crefftwyr gyda thâl bach.

Tîm Therapi Galwedigaethol Cymunedol

Nid yw rhai pobl yn gwybod beth fydd yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau. Efallai y bydd angen cyngor pellach ac o bosibl ymweliad gan y Tîm Therapi Galwedigaethol Cymunedol o fewn eu cartref eu hunain.

Nod sylfaenol Therapi Galwedigaethol (ThG) yw galluogi pobl i gymryd rhan yn y gweithgareddau bywyd bob dydd sy'n bwysig iddynt, ac i'w cynorthwyo i gyflawni eu nodau personol. 

Bydd canlyniadau yn wahanol i wahanol bobl - i rai gall fod yn wirioneddol bwysig iddynt eu bod yn gallu symud i mewn ac allan o'r gwely'n annibynnol fel nad oes angen iddynt darfu ar eu teulu yn ystod y nos, i eraill gall fod angen iddynt allu dringo'r grisiau i gyrraedd y toiled ar y llawr cyntaf.

Nod y Tîm yw cefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl ac i fanteisio i'r eithaf ar eu hiechyd a'u lles. Byddant yn trafod â chi pa ganlyniadau yr hoffech eu cyflawni, eich anghenion cymorth, sut y gellir bodloni'r rhain ac os ydych yn gymwys i gael cymorth oddi wrth Wasanaethau Cymdeithasol. Gelwir y drafodaeth hon yn asesiad.
Gall hyn gynnwys darparu cyngor ac awgrymiadau ynghylch –

  • yr ystod o wasanaethau ac adnoddau lleol sydd yno i'ch helpu chi
  • ffyrdd gwahanol o ddelio â'ch sefyllfa a dewisiadau ar gyfer newid a gwella
  • sgiliau newydd i helpu chi ac unrhyw un sy'n eich cynorthwyo neu sy'n byw gyda chi, i wneud pethau o gwmpas y cartref yn hawdd ac yn fwy diogel
  • cyfarpar i helpu gyda thasgau bob dydd fel ymolchi, gwisgo a mynd mewn/allan o'r gwely

Addasiadau i'ch cartref

Os yw canlyniad yr asesiad yn argymell addasiadau mawr i'ch cartref, fel lifft grisiau, cawodydd hygyrch neu fynediad ar gyfer cadair olwyn, mae nifer o wahanol ffyrdd y gellir cyflawni hyn, gan ddibynnu ar bwy sy'n berchen ar yr eiddo. Bydd y ThG yn trafod y broses gyda chi a pha grantiau gall fod ar gael.

Gall rhai pobl ddymuno i dalu'n breifat ar gyfer yr addasiadau ac mewn achosion o'r fath gall y ThG rhoi cyngor ar beth sydd ei angen.

Cysylltwch â ni