Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym ni?

Mae’r graffiau ar y dudalen hon yn dangos hanes yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ym myd addysg cyfrwng Cymraeg dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae’r graffiau isod yn dangos nifer a chanran y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11. 

Nifer y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg (derbyn i flwyddyn 11)

Mae nifer y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu o 3,689 yn 2016 i 4,015 yn 2023.   

Canran y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg (derbyn i flwyddyn 11

Mae canran y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu o 14.9% yn 2016 i 16.3% yn 2023.
Mae’r graffiau isod yn dangos nifer a chanran y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg mewn addysg feithrin

Nifer y plant mewn addysg feithrin cyfrwng Cymraeg

Mae nifer y plant mewn addysg feithrin wedi gostwng o 465 yn 2016 i 371 yn 2023. 

Canran y plant mewn addysg feithrin cyfrwng Cymraeg

Mae canran y plant mewn addysg feithrin wedi gostwng o 17.9% yn 2016 i 17.0% yn 2023.
Mae’r graffiau isod yn dangos nifer a chanran y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlwyddyn 1.

Nifer y plant ym mlwyddyn 1 cyfrwng Cymraeg

Mae nifer y plant ym mlwyddyn 1 wedi gostwng o 381 yn 2016 i 333 yn 2023. 

Canran y plant ym mlwyddyn 1 cyfrwng Cymraeg

Mae canran y plant ym mlwyddyn 1 wedi gostwng o 17.9% yn 2016 i 17.2% yn 2023.
Mae’r graffiau isod yn dangos y gyfradd pontio rhwng blwyddyn 6 a blwyddyn 7 mewn addysg cyfrwng Cymraeg. 

Cyfradd pontio rhwng blwyddyn 6 a blwyddyn 7

Mae nifer y dysgwyr sy’n symud o flwyddyn 6 mewn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg i flwyddyn 7 mewn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu o 305 yn 2016 i 341 yn 2023. 

Cyfradd pontio rhwng blwyddyn 6 a blwyddyn 7

Mae canran y dysgwyr sy’n symud o flwyddyn 6 mewn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg i flwyddyn 7 mewn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi amrywio, er bod gostyngiad bach yn 2023 i 95.3%.

Mae nifer y dysgwyr sy’n astudio TGAU mewn Cymraeg ail iaith wedi cynyddu o 975 yn 2018 i 1377 yn 2022.

Mae nifer y dysgwyr sy’n astudio TGAU mewn Cymraeg wedi cynyddu o 235 yn 2018 i 287 yn 2022.

Mae canran y dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg (7.7%) yn parhau i fod yn is na’r ganran mewn ysgolion cyfrwng Saesneg (12.8%).

Mae gweithlu’r ysgol sy'n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r graffiau isod yn dangos y cynnydd yn nifer yr athrawon cymwysedig sy’n addysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.   

Athrawon cymwysedig sy'n addysgu Cymraeg fel ail iaith yn unig yn yr ysgolion cynradd
Athrawon cymwysedig sy'n addysgu Cymraeg fel ail iaith yn unig yn yr ysgolion uwchradd

Mae’r graffiau isod yn dangos y cynnydd yn nifer yr athrawon cymwysedig sy’n addysgu Cymraeg fel iaith gyntaf mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Athrawon cymwysedig sy'n addysgu Cymraeg fel iaith gyntaf yn yr ysgolion cynradd

Cynyddodd nifer yr athrawon cymwysedig sy’n addysgu Cymraeg mewn ysgolion cynradd o 85 yn 2019 i 120 yn 2023. 

Athrawon cymwysedig sy'n addysgu Cymraeg fel iaith gyntaf yn yr ysgolion uwchradd
Athrawon cymwysedig sy'n addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgolion uwchradd

Mae angen defnyddio graff y ddwy ysgol uwchradd i ddangos y cynnydd yn nifer yr athrawon cymwysedig sy’n siarad Cymraeg o 102 yn 2019 i 144 yn 2023.

Mae yna bryder nad yw rhai o'r gweithlu sy'n gallu siarad Cymraeg yn dysgu Cymraeg. 

Athrawon cymwys sy’n gallu addysgu Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond nad ydyn nhw'n gwneud hynny yn yr ysgolion cynradd
Athrawon cymwys sy’n gallu addysgu Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond nad ydyn nhw'n gwneud hynny yn yr ysgolion uwchradd

Mae’r data’n dangos bod 69 o athrawon cymwysedig sy’n gallu addysgu Cymraeg ond nad ydyn nhw'n gwneud hynny. Mae hwn yn adnodd y mae angen i ni ei archwilio wrth i ni gynyddu nifer y lleoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.