Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032 - Cynllun Gweithredu Pum Mlynedd 2022-2027

Dilyn rhagoriaeth gyda’n gilydd

Rhagarweiniad

Prif nod trosfwaol y cynllun yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein cymunedau. Felly, mae gennym isafswm targed o 26% ar gyfer dysgwyr ym mlwyddyn 1 erbyn 2032 sydd wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyrraedd y targed cenedlaethol o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bydd angen ehangu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod, gofal plant, cynradd ac uwchradd i gyrraedd y targed hwn, ac mae angen inni gael ein man cychwyn yn gywir yn y blynyddoedd cynnar i ysgogi datblygiad y Gymraeg. Bydd hefyd angen ehangu ein gweithlu sy’n siarad Cymraeg i gyflwyno’r ddarpariaeth sydd ei hangen mewn Ysgolion, Gofal Plant yn ogystal â’n gweithlu ehangach. Bydd cynlluniau tasg blynyddol manwl yn sail i’r cynllun pum mlynedd hwn i fwrw ymlaen â’r gwaith sydd ei angen, wrth weithio mewn partneriaeth â holl aelodau’r Fforwm Addysg Gymraeg mewn a Fforwm y Gymraeg.

Ble ydym ni eisiau bod yn 2027 a sut byddwn ni'n gwybod ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni ein hymrwymiadau yn y CSCA?

Blwyddyn academaidd 2022-23

Hyrwyddo a chyhoeddusrwydd

  • Cwblheir ymgynghoriad â rhieni ar wybodaeth amserol a hygyrch erbyn Haf 2023.
  • Archwilio’r wybodaeth ar-lein i deuluoedd a sicrhau bod gwybodaeth hygyrch ar gael drwy gydol taith y dysgwr.
  • Datblygu'r cynllun cyfathrebu sy'n gysylltiedig â datblygiadau cyfalaf, a hyrwyddo darpariaeth.
  • Hyrwyddo'r ddarpariaeth drochi hwyrddyfodiaid sy'n cael ei datblygu.
  • Gweithio gyda’n tîm Cyfathrebu a Swyddog Datblygu’r Gymraeg Rhanbarthol a gynhelir gan Fenter Iaith i ddatblygu calendr o ymgyrchoedd a rennir rhwng Fforwm y Gymraeg a Fforwm Addysg Gymraeg ar gyfer negeseuon cyson ac ymgyrchoedd hyrwyddo.
  • Parhau i weithio gydag aelodau’r Fforwm Strategaeth Iaith Gymraeg drwy’r grŵp gorchwyl cyfathrebu ar y cyd i sicrhau bod gwaith hyrwyddo a thargedau yn cael eu cydlynu’n effeithlon ac effeithiol.

Datbygiad, dadansoddiad a monitro data

  • Archwilio’r holl set o ddata sydd ar gael ac ystyried pa rai fydd yn cefnogi dewisiadau dysgwyr a chefnogi cynllunio lleoedd / datblygu darpariaeth erbyn mis Mawrth 2023.
  • Coladu set o ddata hawdd eu deall a’u symleiddio mewn un lleoliad sy’n hygyrch i aelodau’r Fforwm Addysg Gymraeg, rhieni ac aelodau ar gyfer monitro a chraffu erbyn Awst 2023.
  • Defnyddio dadansoddiad data’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant wrth weithio gyda phartneriaid i ddatblygu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg categori 3 a’i adolygu’n flynyddol.
  • Monitro'r nifer sy'n manteisio ar y lleoedd hyn yn flynyddol, bob mis Medi er mwyn deall y canran sy'n manteisio ar leoedd cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd Meithrin a Derbyn.
  • Nodwch y data sylfaenol yn yr isod i alluogi targedu ar gyfer gwelliant yn y dyfodol: Nifer y cyrsiau galwedigaethol a gynigir yn yr awdurdod lleol; Nifer y disgyblion sy'n astudio Cymraeg Safon Uwch; Darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Rhaglen gyfalaf a datblygiad darpariaeth

  • Adeilad Ysgol Cwm Gwyddon wedi’i gwblhau, gydag adleoli erbyn Medi 2023.
  • Estyniad Ysgol Penalltau wedi ei gwblhau erbyn Awst 2023.
  • Darpariaeth gofal plant Ysgol y Castell wedi ei gwblhau erbyn Hydref 2022.
  • Gweithio gyda swyddogion Mudiad Meithrin i ddatblygu a chofrestru darpariaeth newydd o dan y cynllun Sefydlu A Symud yn ardal Trethomas.
  • Gweithio gyda swyddogion Mudiad Meithrin i ddatblygu Ti A Fi yn ardal ehangu cam 1 Dechrau’n Deg Tredegar Newydd erbyn Gwanwyn 2023.
  • Cyflwyno datganiad diddordeb cyfalaf ar gyfer ehangu cam 2 i gynnwys darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg erbyn Rhagfyr 2022.
  • Recriwtio staff addysgu priodol i gyflwyno’r peilot hwyrddyfodiaid yn 2023.
  • Defnyddio cynllun grant Cyfalaf Bach i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg i gyflwyno darpariaeth gofal plant cynhwysol o safon ar gyfer ehangu Dechrau’n Deg.
  • Datblygu cynllun gweithredu mewn ymateb i’r prosiect ymgysylltu â phobl ifanc i sicrhau cyfleoedd Cymraeg ehangach i blant a phobl ifanc. Mae'n debygol y bydd angen cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg i bobl ifanc 11 oed i fyny. Bydd hyn yn cael ei symud ymlaen yn y bartneriaeth rhwng yr Urdd, Menter Iaith a'r Gwasanaeth Ieuenctid.

Datblygiad y gweithlu

  • Cwblhau dadansoddiad o’r gweithlu sy’n siarad Cymraeg sydd ei angen i gyflawni’r ddarpariaeth arfaethedig mewn datblygiadau cyfalaf ar gyfer y deng mlynedd nesaf erbyn Mehefin 2023.
  • Cwblhau dadansoddiad o sgiliau iaith y gweithlu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg erbyn Mehefin 2023
  • Dadansoddiad blynyddol o'r gweithlu cyfrwng Cymraeg yn gysylltiedig â chyfraddau pontio dysgwyr.
  • Datblygu cynllun partneriaeth manwl i gynyddu’r iaith Gymraeg yn y gweithlu gofal plant erbyn Mehefin 2023.
  • Cefnogi’r Ffordd i Ddwyieithrwydd ar gyfer lleoliadau gofal plant cyfrwng Saesneg i symud ymlaen drwy’r continwwm tuag at ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg categori 3, gan gynyddu’r nifer sy’n symud i gategori 2 ac yna’n symud i gategori 3.
  • Parhau i weithio gyda’n hysgolion i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio a ffedereiddio wrth i gyfleoedd godi.
  • Gweithio gyda’n pobl ifanc yn yr ysgol uwchradd a Gyrfa Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal plant, addysg, a chyfleoedd gweithlu ehangach i siaradwyr Cymraeg.
  • Gweithio fel Tîm Blynyddoedd Cynnar gyda Mudiad Meithrin a Menter Iaith ynghyd ag ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth, Coleg y Cymoedd a Choleg Gwent yn ogystal â darparwyr hyfforddiant preifat i ddatblygu ein gweithlu gofal plant.

Darpriaeth ADY

  • Archwilio holl ysgolion cyfrwng Cymraeg y Fwrdeistref Sirol i ddeall niferoedd gwaelodlin y plant sy’n derbyn darpariaeth gyffredinol ac wedi’i thargedu a’r rhai sydd â CDU ysgol neu ALl erbyn Mehefin 2023.
  • Archwilio Gwasanaethau Ymyrraeth y Blynyddoedd Cynnar i nodi bylchau yn y cymorth i deuluoedd Cymraeg eu hiaith erbyn mis Ebrill 2023.
  • Datblygu gwybodaeth hygyrch briodol i deuluoedd plant ag anghenion ychwanegol erbyn Rhagfyr 2022.
  • Archwilio gallu’r gweithlu ADY sy’n siarad Cymraeg i nodi a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn y cymorth erbyn Mehefin 2023.
  • Gweithio gyda Tîm PETRA i ddatblygu neu ddefnyddio llyfrau plant a deunyddiau dysgu i gefnogi rhieni i wneud dewisiadau ar gyfer iaith addysg eu plentyn.
  • Datblygu astudiaethau achos a phrofiadau byw teuluoedd â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol sydd wedi ffynnu yn y ddarpariaeth Gymraeg.

Cymhwysterau Iaith Gymraeg

  • Bydd timau Addysg Heblaw yn yr Ysgol yn ystyried sut y bydd y cyfleoedd addysg amgen yn parhau i gynnig cefnogaeth i’r Gymraeg er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu parhau i ddefnyddio’r Gymraeg a chael mynediad at gymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg os dymunant erbyn Mehefin 2023.
  • Bydd yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn parhau i weithio gyda’r timau arwain Ysgolion Uwchradd i gynyddu nifer y dysgwyr sy’n symud ar hyd continwwm y Gymraeg a chynyddu’r nifer sy’n astudio cymhwyster yn y Gymraeg erbyn Awst 2023.
  • Bydd cyrsiau oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn cael eu cefnogi i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cyrsiau ar draws cymunedau erbyn Awst 2023
  • Bydd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn parhau â’u partneriaeth â Choleg y Cymoedd ac yn cryfhau’r berthynas â Choleg Gwent i sicrhau bod gan bob dysgwr ystod eang o gymwysterau Cymraeg ar gael iddynt.
  • Nodi a yw datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi'i gynnwys mewn Cynlluniau Datblygu Ysgol unigol a thargedau lefel ysgol wedi'u nodi ar gyfer ymyriadau yn y dyfodol.
  • Mapio gwaith yr Urdd a Menter Iaith o fewn cyd-destun yr ysgol yn ogystal ag amser mapio ar gyfer gweithgareddau (tu fewn a thu allan i'r dosbarth) i atgyfnerthu sgiliau iaith Gymraeg i fod yn llinell sylfaen ar gyfer gwaith datblygu yn y dyfodol.
  • Parhau i weithio mewn partneriaeth â’r Urdd, Menter Iaith, Gwasanaeth Ieuenctid a Chwaraeon Caerffili i gyflwyno cyfleoedd allgyrsiol cymdeithasol Cymraeg o fewn a thu allan i’r ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol.
  • Bydd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn gweithio gyda phob Ysgol Gynradd i gael 100% o Ysgolion Cynradd Saesneg eu hiaith i gymryd rhan a symud ymlaen drwy’r camau dyfarnu erbyn 2032.

Blwyddyn academaidd 2023-24

Hyrwyddo a chyhoeddusrwydd

  • Gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu deunyddiau hyrwyddo priodol mewn ystod o gyfryngau er mwyn annog mwy o bobl ifanc i ystyried astudio’r Gymraeg fel pwnc gan gynnwys sefyll Cymraeg Safon Uwch. Bydd hyn yn cysylltu â thargedau strategaeth 5 mlynedd y Gymraeg.
  • Gweithio gyda’n tîm Cyfathrebu a Swyddog Datblygu’r Gymraeg Rhanbarthol a gynhelir gan Fenter Iaith i ddiweddaru’r calendr o ymgyrchoedd a rennir rhwng Fforwm y Gymraeg a Fforwm Addysg Gymraeg ar gyfer negeseuon cyson ac ymgyrchoedd hyrwyddo.
  • Parhau i weithio gydag aelodau’r Fforwm Strategaeth Iaith Gymraeg drwy’r grŵp gorchwyl cyfathrebu ar y cyd i sicrhau bod gwaith hyrwyddo a thargedau yn cael eu cydlynu’n effeithlon ac effeithiol

Datbygiad, dadansoddiad a monitro data

  • Defnyddio’r data cyfraddau trosglwyddo daearyddol ar gyfer pob lleoliad i dargedu gwaith gyda swyddogion Mudiad Meithrin a Chylchoedd i wella cyfraddau trosglwyddo o’r Cylch i feithrinfa’r ysgol.
  • Defnyddio’r dadansoddiad data Gofal Plant wrth weithio gyda phartneriaid i ddatblygu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg categori 3 a’i adolygu’n flynyddol.
  • Monitro'r nifer sy'n manteisio ar y lleoedd hyn yn flynyddol, bob mis Medi er mwyn deall y canran sy'n manteisio ar leoedd cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd Meithrin a Derbyn..

Rhaglen gyfalaf a datblygiad darpariaeth

  • Estyniad Ysgol Bro Allta wedi ei gwblhau erbyn Tachwedd 2023.
  • Estyniad Ysgol Cwm Derwen wedi ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2023.
  • Adeilad darpariaeth gofal plant pwrpasol yn Ysgol Ifor Bach wedi ei gwblhau erbyn Haf 2023 (yn amodol ar gymeradwyaeth LlC i gyllid ychwanegol).
  • Estyniad Gofal Plant Cymraeg (gofal dydd llawn) i Lyfrgell Pengam wedi’i gwblhau yn ystod Haf 2023 (yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i gyllid ychwanegol).
  • Cyflwyno prosiectau cyfalaf gofal plant penodol a gweithredu i ehangu darpariaeth gofal plant Cymraeg.
  • Defnyddio Cynllun Grant Cyfalaf Bach i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg i gyflwyno darpariaeth gofal plant cynhwysol o safon ar gyfer ehangu Dechrau’n Deg
  • Parhau i weithio gyda Mudiad Meithrin i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg pellach mewn ardaloedd ehangu gofal plant Dechrau’n Deg yn y dyfodol.
  • Gweithio gyda Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, Rhwydwaith Rhieni a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent i gefnogi grwpiau cefnogi cyfoedion yn y gymuned i gael eu datblygu a’u rhedeg gan wirfoddolwyr.
  • Bydd y Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio gyda Menter Iaith, yr Urdd a phartneriaid ehangach i fapio canran y ddarpariaeth ieuenctid a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg a chydweithio i gynyddu’r targed i 26% erbyn 2032.

Datblygiad y gweithlu

  • Cefnogi’r Ffordd i Ddwyieithrwydd ar gyfer lleoliadau gofal plant cyfrwng Saesneg i symud ymlaen drwy’r continwwm tuag at ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg categori 3, gan gynyddu’r nifer sy’n symud i gategori 2 ac yna’n symud i gategori 3.
  • Gweithio gyda staff lleoliadau gofal plant CBSC a gynhelir i gefnogi datblygiad y Gymraeg er mwyn eu symud tuag at gyflwyno sesiynau trochi dwyieithog a/neu Gymraeg.
  • Gweithio gydag ysgolion unigol a chynllun busnes y Gwasanaeth Cyflawni Addysg i osod targedau i gynyddu sgiliau iaith y gweithlu.
  • Parhau i weithio gyda’n hysgolion i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio a ffedereiddio wrth i gyfleoedd godi.
  • Gweithio gyda’n pobl ifanc yn yr ysgol uwchradd a Gyrfa Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal plant, addysg, a chyfleoedd gweithlu ehangach i siaradwyr Cymraeg.
  • Gweithio fel Tîm Blynyddoedd Cynnar gyda Mudiad Meithrin a Menter Iaith ynghyd ag ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth, Coleg y Cymoedd a Choleg Gwent yn ogystal â darparwyr hyfforddiant preifat i ddatblygu ein gweithlu gofal plant.

Darpriaeth ADY

  • Gweithio gyda rhieni a gofalwyr plant ag anghenion ychwanegol i ddeall pa wybodaeth sydd ei hangen arnynt i lywio eu dewisiadau o ran darpariaeth iaith ar gyfer addysg, gan gynnwys adnoddau, presenoldeb ar y we, gweithgareddau, ac ati, gan gynnwys hwn yn ein cynllun cyfathrebu.
  • Gweithio gyda Tîm PETRA i ddatblygu neu ddefnyddio llyfrau plant a deunyddiau dysgu i gefnogi rhieni i wneud dewisiadau ar gyfer iaith addysg eu plentyn.
  • Datblygu astudiaethau achos a phrofiadau byw teuluoedd â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol sydd wedi ffynnu yn darpariaeth Gymraeg.
  • Monitro nifer y plant sy'n derbyn darpariaeth gyffredinol ac wedi'i thargedu a'r rhai sydd â CDU ysgol neu ALl yn flynyddol.

Cymhwysterau Iaith Gymraeg

  • Bydd yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn parhau i weithio gyda’r timau arwain Ysgolion Uwchradd i gynyddu nifer y dysgwyr sy’n symud ar hyd continwwm y Gymraeg a chynyddu’r nifer sy’n astudio cymhwyster yn y Gymraeg.
  • Bydd cyrsiau oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn cael eu cefnogi i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y cyrsiau ar draws cymunedau.
  • Bydd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn parhau â’u partneriaeth â Choleg y Cymoedd ac yn cryfhau’r berthynas â Choleg Gwent i sicrhau bod gan bob dysgwr ystod eang o gymwysterau Cymraeg ar gael iddynt.
  • Parhau i weithio mewn partneriaeth â’r Urdd, Menter Iaith, Gwasanaeth Ieuenctid a Chwaraeon Caerffili i gyflwyno cyfleoedd allgyrsiol cymdeithasol Cymraeg o fewn a thu allan i’r ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol.
  • Bydd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn gweithio gyda phob Ysgol Gynradd i gael 100% o Ysgolion Cynradd Saesneg eu hiaith i gymryd rhan a symud ymlaen drwy’r camau dyfarnu erbyn 2032

Blwyddyn academaidd 2024-25

Hyrwyddo a chyhoeddusrwydd

  • Gweithio gyda’n tîm Cyfathrebu a Swyddog Datblygu’r Gymraeg Rhanbarthol a gynhelir gan Fenter Iaith i ddiweddaru’r calendr o ymgyrchoedd a rennir rhwng Fforwm y Gymraeg a Fforwm Addysg Gymraeg ar gyfer negeseuon cyson ac ymgyrchoedd hyrwyddo.
  • Parhau i weithio gydag aelodau’r Fforwm Strategaeth Iaith Gymraeg drwy’r grŵp gorchwyl cyfathrebu ar y cyd i sicrhau bod gwaith hyrwyddo a thargedau yn cael eu cydlynu’n effeithlon ac effeithiol.

Datbygiad, dadansoddiad a monitro data

  • Defnyddio’r data cyfraddau trosglwyddo daearyddol ar gyfer pob lleoliad i dargedu gwaith gyda swyddogion Mudiad Meithrin a Chylchoedd i wella cyfraddau trosglwyddo o’r Cylch i feithrinfa’r ysgol.
  • Defnyddio’r dadansoddiad data Gofal Plant wrth weithio gyda phartneriaid i ddatblygu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg categori 3 a’i adolygu’n flynyddol.
  • Monitro'r nifer sy'n manteisio ar y lleoedd hyn yn flynyddol, bob mis Medi er mwyn deall y canran sy'n manteisio ar leoedd cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd Meithrin a Derbyn.

Rhaglen gyfalaf a datblygiad darpariaeth

  • Cyflwyno prosiectau cyfalaf gofal plant penodol a gweithredu i ehangu darpariaeth gofal plant Cymraeg.
  • Bydd y Tîm Cynllunio Ysgolion yn monitro'r nifer sy'n manteisio ar leoedd uwchradd ac yn cynllunio ar gyfer ehangu'r ddarpariaeth uwchradd cyn cyrraedd yr uchafswm capasiti er mwyn cynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio cymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gweithio gyda Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, Rhwydwaith Rhieni a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent i gefnogi grwpiau cefnogi cyfoedion yn y gymuned i gael eu datblygu a’u rhedeg gan wirfoddolwyr.

Datblygiad y gweithlu

  • Gweithio gydag ysgolion unigol a chynllun busnes y Gwasanaeth Cyflawni Addysg i osod targedau i gynyddu sgiliau iaith y gweithlu.
  • Parhau i weithio gyda’n hysgolion i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio a ffedereiddio wrth i gyfleoedd godi.
  • Gweithio gyda’n pobl ifanc yn yr ysgol uwchradd a Gyrfa Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal plant, addysg, a chyfleoedd gweithlu ehangach i siaradwyr Cymraeg.
  • Gweithio fel tîm blynyddoedd cynnar gyda Mudiad Meithrin a Menter Iaith ynghyd ag ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth, Coleg y Cymoedd a Choleg Gwent yn ogystal â darparwyr hyfforddiant preifat i ddatblygu ein gweithlu gofal plant..

Darpriaeth ADY

  • Gwerthuso’r nifer sy’n manteisio ar leoedd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg er mwyn deall effaith ymgyrchoedd marchnata.
  • Parhau i weithio gyda theuluoedd, ysgolion a staff arbenigol i gefnogi dewisiadau gwybodus i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Monitro nifer y plant sy'n derbyn darpariaeth gyffredinol ac wedi'i thargedu a'r rhai sydd â CDU ysgol neu ALl yn flynyddol

Cymhwysterau Iaith Gymraeg

  • Bydd yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn parhau i weithio gyda’r timau arwain Ysgolion Uwchradd i gynyddu nifer y dysgwyr sy’n symud ar hyd continwwm y Gymraeg a chynyddu’r nifer sy’n astudio cymhwyster yn y Gymraeg.
  • Bydd cyrsiau oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn cael eu cefnogi i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y cyrsiau ar draws cymunedau.
  • Bydd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn parhau â’u partneriaeth â Choleg y Cymoedd ac yn cryfhau’r berthynas â Choleg Gwent i sicrhau bod gan bob dysgwr ystod eang o gymwysterau Cymraeg ar gael iddynt.
  • Parhau i weithio mewn partneriaeth â’r Urdd, Menter Iaith, Gwasanaeth Ieuenctid a Chwaraeon Caerffili i gyflwyno cyfleoedd allgyrsiol cymdeithasol Cymraeg o fewn a thu allan i’r ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol.
  • Bydd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn gweithio gyda phob Ysgol Gynradd i gael 100% o Ysgolion Cynradd Saesneg eu hiaith i gymryd rhan a symud ymlaen drwy’r camau dyfarnu erbyn 2032..

Blwyddyn academaidd 2025-26

Hyrwyddo a chyhoeddusrwydd

  • Gweithio gyda’n Tîm Cyfathrebu a Swyddog Datblygu’r Gymraeg Rhanbarthol a gynhelir gan Fenter Iaith i ddiweddaru’r calendr o ymgyrchoedd a rennir rhwng Fforwm y Gymraeg a’r Fforwm Addysg Gymraeg ar gyfer negeseuon cyson ac ymgyrchoedd hyrwyddo.
  • Parhau i weithio gydag aelodau’r Fforwm Strategaeth Iaith Gymraeg drwy’r grŵp gorwchwyl cyfathrebu ar y cyd i sicrhau bod gwaith hyrwyddo a thargedau yn cael eu cydlynu’n effeithlon ac effeithiol.

Datbygiad, dadansoddiad a monitro data

  • Defnyddio’r data cyfraddau trosglwyddo daearyddol ar gyfer pob lleoliad i dargedu gwaith gyda swyddogion Mudiad Meithrin a Chylchoedd i wella cyfraddau trosglwyddo o’r Cylch i feithrinfa’r ysgol.
  • Defnyddio’r dadansoddiad data Gofal Plant wrth weithio gyda phartneriaid i ddatblygu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg categori 3 a’i adolygu’n flynyddol.
  • Monitro'r nifer sy'n manteisio ar y lleoedd hyn yn flynyddol, bob mis Medi er mwyn deall y canran sy'n manteisio ar leoedd cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd Meithrin a Derbyn.

Rhaglen gyfalaf a datblygiad darpariaeth

  • Bydd y Tîm Cynllunio Ysgolion yn monitro'r nifer sy'n manteisio ar leoedd uwchradd ac yn cynllunio ar gyfer ehangu'r ddarpariaeth uwchradd cyn cyrraedd yr uchafswm capasiti er mwyn cynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio cymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gweithio gyda Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, Rhwydwaith Rhieni a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent i gefnogi grwpiau cefnogi cyfoedion yn y gymuned i gael eu datblygu a’u rhedeg gan wirfoddolwyr..

Datblygiad y gweithlu

  • Gweithio gydag ysgolion unigol a chynllun busnes y Gwasanaeth Cyflawni Addysg i osod targedau i gynyddu sgiliau iaith y gweithlu.
  • Parhau i weithio gyda’n hysgolion i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio a ffedereiddio wrth i gyfleoedd godi.
  • Gweithio gyda’n pobl ifanc yn yr ysgol uwchradd a Gyrfa Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal plant, addysg, a chyfleoedd gweithlu ehangach i siaradwyr Cymraeg.
  • Gweithio fel tîm blynyddoedd cynnar gyda Mudiad Meithrin a Menter Iaith ynghyd ag ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth, Coleg y Cymoedd a Choleg Gwent yn ogystal â darparwyr hyfforddiant preifat i ddatblygu ein gweithlu gofal plant.

Darpriaeth ADY

  • Gwerthuso’r nifer sy’n manteisio ar leoedd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg er mwyn deall effaith ymgyrchoedd marchnata.
  • Parhau i weithio gyda theuluoedd, ysgolion a staff arbenigol i gefnogi dewisiadau gwybodus i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Monitro nifer y plant sy'n derbyn darpariaeth gyffredinol ac wedi'i thargedu a'r rhai sydd â CDU ysgol neu ALl yn flynyddol.

Cymhwysterau Iaith Gymraeg

  • Bydd yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn parhau i weithio gyda’r timau arwain Ysgolion Uwchradd i gynyddu nifer y dysgwyr sy’n symud ar hyd continwwm y Gymraeg a chynyddu’r nifer sy’n astudio cymhwyster yn y Gymraeg.
  • Bydd cyrsiau oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn cael eu cefnogi i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y cyrsiau ar draws cymunedau.
  • Bydd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn parhau â’u partneriaeth â Choleg y Cymoedd ac yn cryfhau’r berthynas â Choleg Gwent i sicrhau bod gan bob dysgwr ystod eang o gymwysterau Cymraeg ar gael iddynt.
  • Parhau i weithio mewn partneriaeth â’r Urdd, Menter Iaith, Gwasanaeth Ieuenctid a Chwaraeon Caerffili i gyflwyno cyfleoedd allgyrsiol cymdeithasol Cymraeg o fewn a thu allan i’r ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol.
  • Bydd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn gweithio gyda phob Ysgol Gynradd i gael 100% o Ysgolion Cynradd Saesneg eu hiaith i gymryd rhan a symud ymlaen drwy’r camau dyfarnu erbyn 2032.

Blwyddyn academaidd 2026-27

Hyrwyddo a chyhoeddusrwydd

  • Gweithio gyda’n Tîm Cyfathrebu a Swyddog Datblygu’r Gymraeg Rhanbarthol a gynhelir gan Fenter Iaith i ddiweddaru’r calendr o ymgyrchoedd a rennir rhwng Fforwm y Gymraeg a’r Fforwm Addysg Gymraeg ar gyfer negeseuon cyson ac ymgyrchoedd hyrwyddo.
  • Parhau i weithio gydag aelodau’r Fforwm Strategaeth Iaith Gymraeg drwy’r grŵp gorchwyl cyfathrebu ar y cyd i sicrhau bod gwaith hyrwyddo a thargedau yn cael eu cydlynu’n effeithlon ac effeithiol

Datbygiad, dadansoddiad a monitro data

  • Defnyddio’r data cyfraddau trosglwyddo daearyddol ar gyfer pob lleoliad i dargedu gwaith gyda swyddogion Mudiad Meithrin a Chylchoedd i wella cyfraddau trosglwyddo o’r Cylch i feithrinfa’r ysgol.
  • Defnyddio’r dadansoddiad data Gofal Plant wrth weithio gyda phartneriaid i ddatblygu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg categori 3 a’i adolygu’n flynyddol.
  • Monitro'r nifer sy'n manteisio ar y lleoedd hyn yn flynyddol, bob mis Medi er mwyn deall y canran sy'n manteisio ar leoedd cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd Meithrin a Derbyn..

Rhaglen gyfalaf a datblygiad darpariaeth

  • Datblygu’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer yr ysgol newydd yn ardal Bedwas, Trethomas Machen a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn Mawrth 2027.
  • Adleoli Ysgol y Lawnt fel rhan o raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Band B erbyn Haf 2027.
  • Bydd y Tîm Cynllunio Ysgolion yn monitro'r nifer sy'n manteisio ar leoedd uwchradd ac yn cynllunio ar gyfer ehangu'r ddarpariaeth uwchradd cyn cyrraedd yr uchafswm capasiti er mwyn cynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio cymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gweithio gyda Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, Rhwydwaith Rhieni a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent i gefnogi grwpiau cefnogi cyfoedion yn y gymuned i gael eu datblygu a’u rhedeg gan wirfoddolwyr.

Datblygiad y gweithlu

  • Symud holl leoliadau gofal plant Dechrau'n Deg a gynhelir gan y Cyngor i fod yn ddarpariaethau dwyieithog categori 2 o leiaf.
  • Gweithio gydag ysgolion unigol a chynllun busnes y Gwasanaeth Cyflawni Addysg i osod targedau i gynyddu sgiliau iaith y gweithlu.
  • Parhau i weithio gyda’n hysgolion i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio a ffedereiddio wrth i gyfleoedd godi.
  • Gweithio gyda’n pobl ifanc yn yr ysgol uwchradd a Gyrfa Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal plant, addysg, a chyfleoedd gweithlu ehangach i siaradwyr Cymraeg.
  • Gweithio fel Tîm Blynyddoedd Cynnar gyda Mudiad Meithrin a Menter Iaith ynghyd ag ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth, Coleg y Cymoedd a Choleg Gwent yn ogystal â darparwyr hyfforddiant preifat i ddatblygu ein gweithlu gofal plant