Cynllun Gweithredu Blynyddol Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2023-24

Hyrwyddo a chyhoeddusrwydd

  1. Gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu deunyddiau hyrwyddo priodol mewn ystod o gyfryngau er mwyn annog mwy o bobl ifanc i ystyried astudio’r Gymraeg fel pwnc gan gynnwys sefyll Cymraeg Safon Uwch. Bydd hyn yn cysylltu â thargedau strategaeth 5 mlynedd y Gymraeg.

  2. Gweithio gyda’n tîm Cyfathrebu a Swyddog Datblygu’r Gymraeg Rhanbarthol a gynhelir gan Fenter Iaith i ddiweddaru’r calendr o ymgyrchoedd a rennir rhwng Fforwm y Gymraeg a Fforwm Addysg Gymraeg ar gyfer negeseuon cyson ac ymgyrchoedd hyrwyddo.

  3. Parhau i weithio gydag aelodau’r Fforwm Strategaeth Iaith Gymraeg drwy’r grŵp gorchwyl cyfathrebu ar y cyd i sicrhau bod gwaith hyrwyddo a thargedau yn cael eu cydlynu’n effeithlon ac effeithiol.

  4. Sefydlu ymgyrchoedd hyrwyddo i gynyddu'r niferoedd sy'n dechrau meithrin mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn ogystal â'r rhai sy'n trosglwyddo i'r ysgol Gynradd ac ymlaen i'r ysgol Uwchradd.

  5. Datblygu gwefan a gwybodaeth sydd ar gael i rieni i lywio dewisiadau a galluogi gwell monitro ac atebolrwydd gan y Fforwm Cymraeg mewn Addysg gan ddefnyddio'r duedd data.

Datbygiad, dadansoddiad a monitro data

  1. Defnyddio’r data cyfraddau trosglwyddo daearyddol ar gyfer pob lleoliad i dargedu gwaith gyda swyddogion Mudiad Meithrin a Chylchoedd i wella cyfraddau trosglwyddo o’r Cylch i feithrinfa’r ysgol.

  2. Defnyddio’r dadansoddiad data Gofal Plant wrth weithio gyda phartneriaid i ddatblygu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg categori 3 a’i adolygu’n flynyddol.

  3. Monitro'r nifer sy'n manteisio ar y lleoedd hyn yn flynyddol, bob mis Medi er mwyn deall y canran sy'n manteisio ar leoedd cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd Meithrin a Derbyn.

Rhaglen gyfalaf a datblygiad darpariaeth

  1. Ysgol Cwm Gwyddon yn agor Tachwedd 2023.

  2. Estyniad Ysgol Bro Allta wedi ei gwblhau erbyn Tachwedd 2023.

  3. Estyniad Ysgol Cwm Derwen wedi ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2023.

  4. Adeilad darpariaeth gofal plant pwrpasol yn Ysgol Ifor Bach wedi ei gwblhau erbyn Haf 2023 (yn amodol ar gymeradwyaeth LlC i gyllid ychwanegol).

  5. Estyniad Gofal Plant Cymraeg (gofal dydd llawn) i Lyfrgell Pengam wedi’i gwblhau yn ystod Haf 2023 (yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i gyllid ychwanegol).

  6. Cyflwyno prosiectau cyfalaf gofal plant penodol a gweithredu i ehangu darpariaeth gofal plant Cymraeg.

  7. Defnyddio Cynllun Grant Cyfalaf Bach i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg i gyflwyno darpariaeth gofal plant cynhwysol o safon ar gyfer ehangu Dechrau’n Deg.

  8. Parhau i weithio gyda Mudiad Meithrin i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg pellach mewn ardaloedd ehangu gofal plant Dechrau’n Deg yn y dyfodol.

  9. Gweithio gyda Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, Rhwydwaith Rhieni a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent i gefnogi grwpiau cefnogi cyfoedion yn y gymuned i gael eu datblygu a’u rhedeg gan wirfoddolwyr.

  10. Bydd y Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio gyda Menter Iaith, yr Urdd a phartneriaid ehangach i fapio canran y ddarpariaeth ieuenctid a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg a chydweithio i gynyddu’r targed i 26% erbyn 2032.

Datblygiad y gweithlu

  1. Cefnogi’r Ffordd i Ddwyieithrwydd ar gyfer lleoliadau gofal plant cyfrwng Saesneg i symud ymlaen drwy’r continwwm tuag at ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg categori 3, gan gynyddu’r nifer sy’n symud i gategori 2 ac yna’n symud i gategori 3.

  2. Gweithio gyda staff lleoliadau gofal plant CBSC a gynhelir i gefnogi datblygiad y Gymraeg er mwyn eu symud tuag at gyflwyno sesiynau trochi dwyieithog a/neu Gymraeg.

  3. Gweithio gydag ysgolion unigol a chynllun busnes y Gwasanaeth Cyflawni Addysg i osod targedau i gynyddu sgiliau iaith y gweithlu.

  4. Parhau i weithio gyda’n hysgolion i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio a ffedereiddio wrth i gyfleoedd godi.

  5. Gweithio gyda’n pobl ifanc yn yr ysgol uwchradd a Gyrfa Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal plant, addysg, a chyfleoedd gweithlu ehangach i siaradwyr Cymraeg.

  6. Gweithio fel Tîm Blynyddoedd Cynnar gyda Mudiad Meithrin a Menter Iaith ynghyd ag ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth, Coleg y Cymoedd a Choleg Gwent yn ogystal â darparwyr hyfforddiant preifat i ddatblygu ein gweithlu gofal plant.

  7. Cynyddu'r gweithlu sy'n siarad Cymraeg ar draws y timau Addysg, gofal plant ac ysgolion.

Darpriaeth ADY

  1. Gweithio gyda rhieni a gofalwyr plant ag anghenion ychwanegol i ddeall pa wybodaeth sydd ei hangen arnynt i lywio eu dewisiadau o ran darpariaeth iaith ar gyfer addysg, gan gynnwys adnoddau, presenoldeb ar y we, gweithgareddau, ac ati, gan gynnwys hwn yn ein cynllun cyfathrebu.

  2. Gweithio gyda Tîm PETRA i ddatblygu neu ddefnyddio llyfrau plant a deunyddiau dysgu i gefnogi rhieni i wneud dewisiadau ar gyfer iaith addysg eu plentyn.

  3. Datblygu astudiaethau achos a phrofiadau byw teuluoedd â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol sydd wedi ffynnu yn darpariaeth Gymraeg.

  4. Monitro nifer y plant sy'n derbyn darpariaeth gyffredinol ac wedi'i thargedu a'r rhai sydd â CDU ysgol neu ALl yn flynyddol.

  5. Cynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer plant ag ADY i gwrdd â'r galw cynyddol.

Cymhwysterau Iaith Gymraeg

  1. Bydd yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn parhau i weithio gyda’r timau arwain Ysgolion Uwchradd i gynyddu nifer y dysgwyr sy’n symud ar hyd continwwm y Gymraeg a chynyddu’r nifer sy’n astudio cymhwyster yn y Gymraeg.

  2. Bydd cyrsiau oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn cael eu cefnogi i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y cyrsiau ar draws cymunedau.

  3. Bydd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn parhau â’u partneriaeth â Choleg y Cymoedd ac yn cryfhau’r berthynas â Choleg Gwent i sicrhau bod gan bob dysgwr ystod eang o gymwysterau Cymraeg ar gael iddynt.

  4. Parhau i weithio mewn partneriaeth â’r Urdd, Menter Iaith, Gwasanaeth Ieuenctid a Chwaraeon Caerffili i gyflwyno cyfleoedd allgyrsiol cymdeithasol Cymraeg o fewn a thu allan i’r ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol.

  5. Bydd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn gweithio gyda phob Ysgol Gynradd i gael 100% o Ysgolion Cynradd Saesneg eu hiaith i gymryd rhan a symud ymlaen drwy’r camau dyfarnu erbyn 2032.