Am Addysg Cyfrwng Cymraeg

Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb. Dylai pob plentyn gael y cyfle i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Mae ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ar gael i bob disgybl y mae eu rhieni yn dewis anfon eu plant iddyn nhw.

Nid yw’r rhan fwyaf o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn siarad Cymraeg gartref. Cyn diwedd eu blwyddyn gyntaf, byddan nhw'n siarad â'u ffrindiau newydd yn Gymraeg!

Bydd plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gallu siarad Saesneg yn ogystal â siarad Cymraeg.

Mae dau gampws ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc symud ymlaen iddyn nhw.  Wedi hynny, gallan nhw hefyd ddefnyddio eu Cymraeg wrth hyfforddi, astudio a gweithio.

Dewis Addysg Cyfrwng Gymraeg

Yng Nghaerffili, mae tua 20% o blant yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Maen nhw wrth eu bodd yn chwarae a dysgu mewn dwy iaith neu ragor.

Mae Ysgolion cyfrwng Cymraeg yn defnyddio'r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar. Yna maen nhw'n dod â Saesneg i mewn wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy'r ysgol. Mae'r plant yn hapus yn siarad yn y ddwy iaith.

Mae rhai plant yn dechrau mewn Ti a Fi (grŵp plant bach cyfrwng Cymraeg) a gofal plant cyfrwng Cymraeg.

Beth bynnag rydych chi'n siarad gartref, mae pawb yn gallu ymuno ag ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Yna maen nhw'n mynd ymlaen i un o ddau gampws uwchradd cyfrwng Cymraeg.

Nid yw hi byth yn rhy hwyr. Mae ein Huned Drochi i Hwyrddyfodiaid yn helpu plant i bontio i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

Beth bynnag rydych chi'n siarad gartref, mae plant yn ffynnu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg

Yng Nghaerffili, mae tua 88% o’n dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi di-Gymraeg.

Mae staff ein hysgolion yn siarad Cymraeg a Saesneg gyda rhieni. Maen nhw eisiau i rieni deimlo'n rhan o gymuned yr ysgol.

Efallai y byddwch chi'n codi ychydig o'r iaith gan y plant. Byddwch chi'n clywed geiriau rydych chi, efallai, yn eu gwybod yn barod; dyfalwch beth mae'r canlynol yn ei olygu:

amser chwarae / brechdan gaws / pêl-droed / ci bach / ble mae’r esgidiau?

(play time / cheese sandwich / football / puppy / where are the shoes?)

Mae ysgolion yn creu amgylchedd dysgu sy'n addas ar gyfer pob plentyn unigol. Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae plant yn cael eu trochi mewn amgylchedd Cymraeg. Maen nhw'n amsugno'r iaith wrth wneud cynnydd ym mhob maes dysgu ar eu cyflymder eu hunain.