Pwyntiau'n Gwneud Gwobrau

Cafodd y cynllun “Pwyntiau'n Gwneud Gwobrau” ei ddatblygu gan adran Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i hybu bwyta’n iach. Cafodd dewis bwydlen iach newydd ei lansio ychydig flynyddoedd yn ôl gyda chymhellion tariff ar gyfer eitemau bwyd iachach ac amrywiaeth o fentrau hybu iechyd.

Rydyn ni wedi cyflwyno cynllun gwobrwyo pwyntiau ar y we, sy'n cael ei weinyddu drwy'r system heb arian parod, sy'n hybu'r nifer sy'n manteisio ar opsiynau iach. Mae myfyrwyr yn gallu gofyn am gyfriflen o bwyntiau cronedig ar ddiwedd pob tymor ar gyfer bwyta'n iach. Maen nhw wedyn yn gallu defnyddio'r pwyntiau i gyfnewid ar-lein am ystod o wobrau deniadol megis talebau'r Stryd Fawr a thalebau gwobrau ffreutur.

Rydyn ni wedi cael ein helpu gan weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, Her Iechyd Caerffili, Llywodraeth Cymru, cyflenwyr a phartneriaid eraill i sicrhau bod pobl ifanc y Fwrdeistref Sirol yn cael y cyfleusterau arlwyo gorau mewn ysgolion.

Yn fwy diweddar, mae’r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan Arlwyo Caerffili wedi’i adolygu yn unol â’r canllawiau yng nghanllaw “Blas am Oes” Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi ysgogi nifer o newidiadau o ran arddull y gwasanaeth, y fwydlen a'r wefan, yn fwyaf nodedig, dadansoddiad maethol llawn o'r holl eitemau ar y fwydlen i sicrhau bod bwydlen gytbwys ar gael i bob disgybl.

Sut ydw i'n cyfnewid fy mhwyntiau i am wobrau?

  • Anfonwch e-bost at arlwyo@caerffili.gov.uk, gan nodi POINTS REDEMPTION yn y pennawd.  Nodwch eich enw, ysgol, blwyddyn ysgol, faint o bwyntiau sydd gennych chi ar eich cyfrif chi a pha wobr yr hoffech chi ei hawlio.
  • Os nad oes gennych chi fynediad at e-bost, gallwch chi ysgrifennu atom ni i hawlio’ch pwyntiau chi – anfonwch y llythyr at Arlwyo Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Busnes Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG.

Yn anffodus, ni allwn ni dderbyn hawliadau dros y ffôn na thrwy staff y gegin yn eich ysgol chi.

Bydd eich gwobr chi'n cael ei anfon i ffreutur eich ysgol chi a'i chyflwyno i chi'n bersonol. Sylwch, os byddwch chi'n cyfnewid eich pwyntiau yn ystod gwyliau'r haf, bydd yn rhaid i chi aros tan ddechrau'r tymor ysgol newydd i gael eich gwobr.

Pa fath o wobrau alla i eu cael gyda fy mhwyntiau?

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddetholiad o gynhyrchion cyffrous i chi gyfnewid eich pwyntiau haeddiannol chi amdanyn nhw. Gweler y rhestr isod.

Gwobr 

Pwyntiau

Sut i gronni pwyntiau

1 Wythnos o docynnau blaenoriaeth

375

15  pwynt y dydd x 25 diwrnod

1 Bargen pryd bwyd

375

15  pwynt y dydd x 25 diwrnod

2 Wythnos o docynnau blaenoriaeth

500

20 pwynt y dydd x 25 diwrnod

2 Fargen pryd bwyd 

500

20  pwynt y dydd x 25 diwrnod

5 Bargen pryd bwyd

900

20 pwynt y dydd x 45 diwrnod

Taleb y stryd fawr gwerth £5

1300

20 pwynt y dydd x 65 diwrnod

Taleb y stryd fawr gwerth £10

2550

25 pwynt y dydd x 102 diwrnod

Taleb y stryd fawr gwerth £15

3600

30 pwynt y dydd x 122 diwrnod>

Taleb y stryd fawr gwerth £50

5700

30 pwynt y dydd x 190 diwrnod

Telerau ac Amodau

Isod mae telerau ac amodau cynllun Pwyntiau'n Gwneud Gwobrau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y telerau hyn neu unrhyw fater cysylltiedig arall, ysgrifennwch atom ni yn y cyfeiriad canlynol: Arlwyo Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Busnes Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG.

  • Mae'r cynllun Pwyntiau'n Gwneud Gwobrau yn cael ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn parhau i fod yn eiddo iddo. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i wrthod cynnig y cynllun neu ei dynnu yn ôl ar unrhyw adeg heb rybudd.
  • Rhaid i bawb sy'n cymryd rhan yn y cynllun fod yn ddisgyblion ysgol uwchradd mewn ysgol sy'n cael ei rhedeg gan Dîm Arlwyo'r Cyngor.
  • Nid yw'r cyfrif Arlwyo Heb Arian Parod yn drosglwyddadwy, a dim ond y person sydd â'i enw ar y cyfrif fydd yn gallu ei ddefnyddio.
  • Yn ôl disgresiwn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae aelodau'n gallu cael eu tynnu o'r cynllun ar unrhyw adeg.

Pwyntiau

  • Er mwyn ennill pwyntiau am drafodion yn y cynllun Pwyntiau'n Gwneud Gwobrau, rhaid i chi fod yn aelod o'r system arlwyo heb arian parod sy'n cael ei rhedeg gan naill ai trafodiad cerdyn neu drafodiad y system fiometrig.
  • Mae disgyblion yn gallu defnyddio eu cerdyn/system fiometrig dim ond i brynu bwyd i'w fwyta eu hunain. Bydd gwiriadau rheolaidd yn cael eu cynnal ac ni fydd disgyblion sy'n cael eu dal yn prynu bwyd i eraill er mwyn cronni pwyntiau yn cael unrhyw wobr.

Gwobrau

  • Rydych chi'n gallu cyfnewid pwyntiau am wobrau dim ond os oes gennych chi'r nifer priodol o bwyntiau ar eich cerdyn/system fiometrig chi.
  • Mae nifer cyfyngedig o wobrau ar gael bob blwyddyn.
  • Mae gwobrau bargen pryd bwyd am werth y pris cyfredol.
  • Mae'n bosibl y bydd gwobr yn cael ei dileu/hamnewid heb rybudd, ac mae gwobrau'n amodol ar argaeledd.
  • Os na fydd gwobr ar gael, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw'r hawl i anfon un arall yn ei lle.
  • Mae gwobrau ar gael yn ystod y flwyddyn academaidd, h.y. o fis Medi i fis Gorffennaf bob blwyddyn.
  • Bydd y pwyntiau sy'n weddill yn cael eu hailosod yn ôl i sero ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
  • Rhaid gwneud pob cais am gyfnewid pwyntiau ar gyfer pob blwyddyn academaidd erbyn 31 Gorffennaf y flwyddyn honno.

Sylwch fod y cyfnod o brosesu cyfnewid pwyntiau yn gallu bod hyd at 28 diwrnod ar gyfer yr holl wobrau sydd y tu allan i safle’r ysgol (talebau’r stryd fawr). Bydd gwobrau sy'n gallu cael eu defnyddio yn ffreutur yr ysgol (fel tocynnau blaenoriaeth a bargeinion pryd bwyd) ar gael o fewn mis i’r hawliad.

Cysylltwch â ni