Cyrsiau cyflogadwyedd
Nod y cyrsiau hyn yw eich helpu i wella eich rhagolygon gwaith, neu symud ymlaen yn eich gweithle presennol.
DECHRAU
Mae’r cyrsiau yn cynnwys:
Meithrin hyder – Deall natur hyder, ymddygiad pendant a ffyrdd o gynyddu hunan-barch
Gwirfoddoli – i ddysgu sgiliau a fydd yn eich helpu i gyfrannu at anghenion cymunedol.
Mentora – Deall beth yw mentora a sut i fod yn fentor effeithiol naill ai yn y gweithle neu yn y gymuned.
Sgiliau rheoli amser – Dysgu sut i reoli tasgau o fewn terfynau amser.
Gwasanaeth Cwsmer – Deall egwyddorion gwasanaeth cwsmer da.
Mae cyrsiau eraill ar gael.
Rydym hefyd yn darparu cyrsiau cyflogadwyedd ar-lein. Ewch i’r dudalen we ‘Ar-lein/Cyflenwi Cyfunol’ am restr o gyrsiau.