Anghenion Dysgu Ychwanegol Canllaw i Rieni 

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

  • Dywedir bod gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol os oes angen rhagor o gymorth, neu gymorth gwahanol, arno i'r hyn a ddarperir fel arfer mewn ysgolion neu leoliadau cyn ysgol i blant o'r un oedran.
  • Plant neu bobl ifanc sydd angen help ychwanegol i allu cymryd rhan yn yr ysgol neu gael y gorau o'u haddysg. 

Cod ALN

  • Bydd y Cod ADY newydd ar waith o 2021.
  • Bydd dyletswydd ar awdurdodau lleol, lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion a darparwyr addysg bellach i benderfynu a oes gan blant a phobl ifanc 0–25 oed anghenion dysgu ychwanegol (ADY), sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
  • Os yw ysgol neu leoliad yn penderfynu bod gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY), rhaid paratoi Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc hwnnw. 
  • Pan nodir anghenion sy'n dod i'r amlwg, yn enwedig yn achos plant ifanc iawn, nid yw hyn o reidrwydd yn gofyn am adnabod angen dysgu ychwanegol ond efallai y bydd angen ymyrraeth gynnar.

Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Mae ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rhoi'r plant, y bobl ifanc a'u rhieni wrth wraidd y penderfyniadau. Bydd yr Awdurdod Lleol, ysgolion a lleoliadau yn defnyddio ystod o adnoddau i gasglu gwybodaeth berthnasol ac i lywio gweithredoedd i helpu dysgwyr ag angen dysgu ychwanegol.

Egwyddorion a Nodau

Mae'r egwyddorion y mae'r system anghenion dysgu ychwanegol yn seiliedig arnynt yn ymwneud â chreu system addysg gwbl gynhwysol lle rhoddir cyfle i bob dysgwr lwyddo a chael addysg sy'n diwallu ei anghenion ac yn ei alluogi i fynd ati i ddysgu, manteisio ar ei addysg a'i mwynhau.

Matrics Asesu Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae awdurdod lleol Caerffili yn datblygu dull teg a chyson ar ffurf matrics asesu anghenion dysgu ychwanegol a fyddai'n helpu

  • Nodi anghenion dysgu ychwanegol yn effeithiol
  • Nodi ymyriadau/darpariaeth yn effeithiol sy'n briodol i ddiwallu'r angen a nodwyd
  • Nodi pwy sydd â'r ddyletswydd i gynnal y CDU

Bydd y system yn hyblyg ac yn diwallu anghenion dysgwyr ar bob pwynt trosglwyddo sylweddol.   

Nid categoreiddio na gwneud diagnosis yw pwrpas y matrics, ond nodi'r rhwystrau i ddysgu y gallai plentyn fod yn eu hwynebu.

Apelio

  • Os nad yw plentyn, person ifanc neu riant yn hapus â phenderfyniad a wnaed ynghylch ei ADY neu CDU gan ysgol, gallant ofyn i awdurdod lleol ei adolygu neu ei ailystyried.
  • Bydd gan bob plentyn, ei rieni/ofalyddion a phobl ifanc hyd at 25 oed yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Addysg yn erbyn penderfyniadau a wneir gan awdurdod lleol neu sefydliad addysg bellach mewn perthynas â'u ADY neu eu CDU.

Partneriaeth

  • Mae'r awdurdod lleol wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â rhieni/gofalyddion ac mae'n gwerthfawrogi'r cyfraniad y gallant ei wneud i alluogi plant a phobl ifanc ag.