Gwneud cais am gyngor cyn gwneud cais cynllunio - Statudol
Po fwyaf o wybodaeth sy'n cael ei darparu, y mwyaf cywir a defnyddiol fydd ein hymateb ni.
Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddarparu ymateb ysgrifenedig i bob ymholiad dilys a byddwn ni’n ceisio darparu'r canlynol o leiaf:
- hanes cynllunio perthnasol y safle
- polisïau cynllun datblygu perthnasol a fydd yn cael eu defnyddio i asesu'r cynnig datblygu
- canllawiau cynllunio atodol perthnasol
- unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill
- asesiad cychwynnol o'r datblygiad arfaethedig, yn seiliedig ar yr wybodaeth uchod
- gwirio a oes unrhyw garthffosydd Dŵr Cymru yn y cyffiniau
Yn ogystal ag a fydd unrhyw gyfraniadau Adran 106 neu Ardoll Seilwaith Cymunedol yn debygol o gael eu ceisio, ynghyd â dangos cwmpas a swm y cyfraniadau hynny, manylion unrhyw ddogfennau a manylion y byddai eu hangen i gais dilynol fod yn gais dilys.
Ar faterion cymhleth, byddwch yn barod i geisio cymorth proffesiynol preifat - nid oes bwriad i’n gwasanaeth ni fod yn opsiwn amgen i gyflogi ymgynghorwyr proffesiynol.
I lenwi'r ffurflen am gyngor cyn gwneud cais cynllunio, sicrhewch eich bod chi'n cynnwys cynllun lleoliad safle, unrhyw wybodaeth ategol ychwanegol a'r ffi berthnasol.
GWNEUD CAIS NAWR
Gwasanaeth
|
Ffi
|
|
£25
|
Mân Ddatblygiad
- Creu llai na 10 annedd
- Arwynebedd y safle o lai na 0.5 hectar
- Dibreswyl - newid defnydd neu ddefnydd cymysg lle mae'r arwynebedd llawr gros yn fwy na 1000m2
|
£250
|
Datblygiad Mawr
- Creu 10 - 24 o anheddau
- 1000m2 - llai na 2000m2 o arwynebedd llawr
- Arwynebedd y safle rhwng 0.5 hectar a llai na 1 hectar
- Dibreswyl - newid defnydd neu ddefnydd cymysg lle mae'r arwynebedd llawr gros yn fwy na 1000m2 ond yn llai na 2000m2
- Cloddio a gweithio mwynau neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion gweithfeydd mwynauDatblygiadau gwastraff
|
£600
|
Datblygiad Mawr Sylweddol
- Creu 25 neu fwy o anheddau
- Mwy na 2000m2 o arwynebedd llawr
- Arwynebedd y safle o fwy na 0.99 hectarDibreswyl - newid defnydd neu ddefnydd cymysg lle mae'r arwynebedd llawr gros yn fwy na 2000m2
|
£1000
|
Cyngor Arall
Gwasanaeth
|
Ffi
|
Darparu hanes cynllunio'r safle:
|
Deiliaid tai (yn cynnwys dim mwy nag un annedd)
|
£63.95 (gan gynnwys TAW)
|
Datblygiad Arall
|
£159.86 (gan gynnwys TAW)
|
Cyngor ynghylch a yw hawliau datblygu a ganiateir y datblygiad penodol wedi cael eu dileu gan amod
|
£63.95 (gan gynnwys TAW)
|
Cyngor ynghylch a yw'r amodau wedi eu cyflawni
|
Deiliaid tai (yn cynnwys dim mwy nag un annedd)
|
£63.95 (gan gynnwys TAW)
|
Datblygiad Arall
|
£159.86 (gan gynnwys TAW)
|
Os ydych yn ansicr a fyddai angen caniatâd ar eich prosiect neu a yw'n gyfreithlon, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais am dystysgrif cyfreithlondeb.
Caniatâd ar gyfer adeilad rhestredig - Cyngor Cyn Ymgeisio
Gwasanaeth
|
Ffi
|
Deiliaid tai
|
£132.30 (gan gynnwys TAW)
|
Arwynebedd llawr < 999m2
|
£275.63 (gan gynnwys TAW)
|
Arwynebedd llawr 1000m2 – 1999m2
|
£661.50 (gan gynnwys TAW)
|
Arwynebedd llawr > 1999m2
|
£1102.50 (gan gynnwys TAW)
|
Bydd cyfarfod â swyddog ar y safle neu yn y swyddfa yn codi tâl ychwanegol sy'n cyfateb i 35% o'r tâl safonol.
|
Ni ellir ad-dalu unrhyw ffi, a bydd yn rhaid talu ffi ar gyfer unrhyw gais cynllunio dilynol yn unol â'r rheoliadau priodol. Codir tâl unigol am geisiadau lluosog. Unwaith y bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ysgrifennu ateb am ymholiad, codir tâl y gyfradd wreiddiol ar gyfer unrhyw ymholiadau pellach am yr un mater.