ARGAELEDD GWEFAN / WEBSITE AVAILABILITY

ARGAELEDD GWEFAN : Sylwch, oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, ni fydd y Wefan hon ar gael o bryd i'w gilydd rhwng 6:00pm a 6:15pm ar 8 Mai 2024.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.

WEBSITE AVAILABILITY : Please note that due to essential maintenance this Website will be intermittently unavailable between 6:00pm and 6:15pm on 8 May 2024.  We apologise for any inconvenience this may cause.

Diogelwch e-feiciau ac e-sgwteri

Mae sawl achos o danau wedi bod mewn tai yn y DU yn ddiweddar, ac mae'n debyg eu bod nhw wedi’u hachosi gan feiciau neu sgwteri trydan.  Cadwch eich teulu a’ch cartref chi'n ddiogel drwy ddilyn y cyngor ynglŷn â'r pethau i’w gwneud a’r pethau na ddylech chi eu gwneud.

 
  • Prynwch e-feiciau, e-sgwteri, gwefrwyr a batris gan fanwerthwyr dibynadwy.

  • Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr wrth wefru a thynnu plwg eich gwefrydd bob amser pan fydd wedi gorffen gwefru.

  • Gwefrwch y batris tra byddwch chi'n effro ac yn wyliadwrus.

  • Defnyddiwch y gwefrydd sydd wedi'i gymeradwyo gan y gwneuthurwr ar gyfer y cynnyrch bob amser ac, os gwelwch chi unrhyw arwyddion o draul, dylech chi brynu gwefrydd newydd sy'n swyddogol.

  • Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer storio a chynnal a chadw batris lithiwm-ion os na fyddan nhw'n cael eu defnyddio am gyfnodau estynedig o amser.

  • Cadwch e-feiciau/e-sgwteri a'u batris nhw mewn lle oer. Dylech chi osgoi eu cadw nhw mewn ardaloedd sy'n rhy boeth neu oer.

 

  • Peidiwch â gadael batris i wefru tra byddwch chi'n cysgu neu allan o'ch cartref chi.
  • Peidiwch â gorchuddio gwefrwyr neu baciau batri wrth wefru gan y gallai hyn arwain at ordwymo neu, hyd yn oed, dân.

  • Peidiwch â gwefru batris na chadw eich e-feic/e-sgwter yn agos at ddeunyddiau llosgadwy neu fflamadwy.

  • Peidiwch â gorwefru eich batri chi – darllenwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ynghylch amseroedd gwefru.

  • Peidiwch â gorlwytho pwyntiau trydan na defnyddio ceblau estyn amhriodol.

  • Peidiwch byth â chadw na gwefru e-feiciau/e-sgwteri mewn diangfeydd neu yn ardaloedd cymunedol adeilad amlfeddiannaeth.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Beiciau a sgwteri electronig - Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (decymru-tan.gov.uk)