Olyniaeth Cartrefi Caerffili

O dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, mae olyniaeth yn cyfeirio at y broses gyfreithiol lle mae person yn mabwysiadu Contract Meddiannaeth Diogel ar ôl i'r tenant gwreiddiol farw.  Mae'n bosibl bydd gan berson (neu bersonau) sy'n byw gyda thenant pan fydden nhw'n marw yr hawl i ddod yn denant.

Mae hyn yn caniatáu rhai pobl sydd wedi bod yn byw yn yr eiddo fel eu prif gartref i barhau i fyw yno a mabwysiadu holl hawliau a rhwymedigaethau'r Contract Meddiannaeth Diogel gwreiddiol.

Pwy all fod yn gymwys i olynu?

  • Priod, partner sifil neu rywun sy'n byw gyda'r ymadawedig, cyn belled â'u bod nhw'n byw gyda'i gilydd ar adeg y farwolaeth. 
  • Aelod o'r teulu, mae hyn yn cynnwys rhieni, mam-gu neu dad-cu, plant, ŵyr/wyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai a nith. Mae hefyd yn cynnwys perthnasoedd lle mae un rhiant yn cael ei rannu a llysberthnasoedd. Rhaid bod aelod o’r teulu wedi byw gyda’r ymadawedig a/neu wedi byw yn yr annedd am 12 mis cyn y farwolaeth. 
  • Gall gofalwr fod yn gymwys i olynu os oedd yn ofalwr (ar gyfer naill ai'r tenant neu aelod o'i deulu a oedd yn byw gyda nhw) ar unrhyw adeg yn y 12 mis cyn y farwolaeth.  Hefyd, os oedden nhw'n byw yn yr eiddo fel eu hunig gartref am 12 mis cyn y farwolaeth, ac nad oedd ganddyn nhw unrhyw gartref arall roedd ganddyn nhw'r hawl i'w feddiannu.  Nid yw gofal yn cyfrif os yw'n cael ei roi oherwydd contract neu gyflogaeth.