Beth i'w wneud cyn ymweld â chanolfannau ailgylchu i gartrefi

Didoli gwastraff ymlaen llaw

Rhaid i drigolion sy'n ymweld ag unrhyw Ganolfan Ailgylchu i Gartrefi wahanu eu gwastraff.

Rhaid i drigolion wahanu gwastraff nad oes modd ei ailgylchu o'u deunydd ailgylchu cyn ymweld ag unrhyw Ganolfan Ailgylchu i Gartrefi.

Bydd hyn yn galluogi ymwelwyr i osod eitemau yn hawdd yn y cynwysyddion ailgylchu cywir.

Dim ond eitemau nad oes modd eu hailgylchu sy'n gallu mynd i'r sgipiau gwastraff cyffredinol.

Bydd gweithwyr y Ganolfan Ailgylchu i Gartrefi hefyd yn gwirio unrhyw wastraff sydd wedi'u cludo yno mewn bagiau. Rhaid i drigolion agor unrhyw fagiau i ddangos nad oes unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy y tu mewn.

Rydyn ni wedi cyflwyno’r newidiadau hyn i’n helpu ni i gyrraedd y targed ailgylchu 70% gan Lywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i ddarllen ein tudalen Cwestiynau Cyffredin

Prawf o gyfeiriad

Rhaid i drigolion ddarparu prawf o gyfeiriad i gael mynediad i'n canolfannau ailgylchu ni.

Mae hyn oherwydd ein bod ni'n gweld pobl nad ydyn nhw'n byw yn y Fwrdeistref Sirol yn camddefnyddio ein safleoedd ni. Mae cael gwared ar y gwastraff ychwanegol hwn yn costio llawer o arian i'r Cyngor.

Os nad ydych chi'n byw yn y Fwrdeistref Sirol, ni fyddwch chi'n cael mynediad i'r safle.

Am ragor o wybodaeth, ewch i ddarllen ein tudalen Cwestiynau Cyffredin

Trwydded Fan a Threlar

Bydd angen trwydded ar drigolion os ydyn nhw'n berchen ar:

  • Fan (3,499 cilogram ac yn is)
  • Cerbyd amlbwrpas
  • Cerbyd gwersylla
  • Cerbyd gyda mwy na saith o seddi

Bydd angen i drigolion gael trwydded o leiaf 24 awr cyn ei defnyddio ond dim mwy na phythefnos ymlaen llaw. Bydd ceisiadau’n cael eu prosesu yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall trigolion wneud cais am drwydded ar-lein neu'n bersonol.

Rhaid gwneud ceisiadau personol am drwyddedau yn Nhŷ Penallta drwy drefnu apwyntiad. Mae modd gwneud apwyntiadau drwy ffonio 01443 866571

Ni fydd ymwelwyr yn gallu mynd i Dŷ Penallta heb apwyntiad a bydd yn rhaid talu unrhyw daliadau gyda cherdyn os bydd tâl yn cael ei godi.

Bydd tâl yn cael ei godi am drwydded ar gyfer gwastraff adeiladu a dymchwel (gan gynnwys gwastraff peryglus). Y taliadau hyn yw:

  • £37.49 am fan fach (hyd at 2,200 cilogram ac ôl-gerbydau sy'n llai nag 1.8 metr o hyd)
  • £74.97 ar gyfer faniau canolig (2,201 cilogram i 3,499 cilogram)

Am ragor o wybodaeth, gwiriwch ein tudalen Cwestiynau Cyffredin