FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Help i roi eich biniau chi allan

Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth lle rydyn ni'n casglu eich biniau o'r tu mewn i'ch eiddo chi.

Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael cymorth i roi eich biniau allan:

  • Os ydych chi'n dioddef o salwch sy'n effeithio ar eich symudedd a/neu
  • Os oes gennych chi anabledd sy'n effeithio ar eich symudedd
  • Os nad oes rhywun yn byw yn yr eiddo nad ydyn nhw’n anabl.

Dydyn ni ddim yn codi tâl am y gwasanaeth hwn. 

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio

Bydd angen i aelod o'r tîm gwastraff ymweld â'ch eiddo chi. Bwriad yr ymweliad hwn yw asesu eich bod chi'n bodloni'r meini prawf.

Efallai y bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth i ategu'ch cais.

Byddwn ni'n adolygu eich cais chi ymhen 12 mis i asesu a oes angen y gwasanaeth o hyd.

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, ni fydd modd ei ddiwygio.

Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, bydd ein criw ni’n casglu eich biniau o'ch eiddo yn ystod eich casgliadau nesaf.

Gwnewch gais nawr  
 
Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio yn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome, neu Safari