FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Bin neu focs ailgylchu

Rydyn ni'n casglu deunyddiau ailgylchu bob wythnos.

Mae eich bin brown (neu mewn rhai achosion bocs ailgylchu) i'w ddefnyddio ar gyfer yr holl ddeunyddiau ailgylchadwy.

Mae unrhyw wastraff nad yw'n gallu cael ei ailgylchu yn cael ei ddosbarthu fel halogion, ac ni fydd eich bin/bocs yn cael ei gasglu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen halogion

Os nad ydych chi'n siŵr o'ch diwrnod casglu, gwiriwch eich diwrnod bin.

Os nad oes gennych chi fin olwynion, gallwch chi wneud cais ar-lein, neu ffonio 01443 866533.

Os nad oes gennych chi fin/bocs, byddwn ni'n derbyn deunyddiau ailgylchu mewn bagiau clir yn unig.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni'n ei gasglu, darllenwch ein Canllaw Alffa i Omega o ran Gwastraff.

Rydyn ni'n argymell bod trigolion yn rhoi eu gwastraff nhw allan mor hwyr â phosibl y noson gynt, neu yn y bore cyn casglu. Rhaid dod â biniau yn ôl i'ch eiddo chi cyn gynted â phosibl ar ôl i'r gwastraff gael ei gasglu.

Os oes gennych chi fin ailgylchu brown neu focs ailgylchu, NI ddylech chi roi eitemau mewn bagiau ond dylid eu glanhau a'u gosod yn rhydd yn eich bin neu focs. Os nad oes gennych chi fin neu focs ailgylchu, neu os oes gennych chi eitemau ailgylchu ychwanegol, dylen nhw gael eu gadael mewn bagiau plastig clir i'w casglu.

Eitemau na fyddwn ni'n eu casglu

  • Cardiau gyda gliter
  • Papur lapio ffoil
  • Papur wal
  • Poteli DIY a chemegau
  • Cynwysyddion paent
  • Taflen blastig
  • Polystyren
  • Teganau a phlastig caled arall
  • Bagiau siopa
  • Cryno-ddisgiau a DVDs
  • Cambrenni cotiau
  • Ffoil alwminiwm wedi'i halogi gan fwyd
  • Metel sgrap
  • Cytleri
  • Sosbenni a phadelli
  • Cardbord sydd â bwyd/olew drosto
  • Cardbord gwlyb
  • Gwydr wedi torri
  • Crochenwaith
  • Pyrex
  • Sbectolau
  • Gwydr ffenestri

Ailgylchu plastig meddal

Nid ydyn ni'n derbyn plastig meddal yn ein biniau ailgylchu. Ond gallwch chi fynd â phlastig meddal i'r rhan fwyaf o archfarchnadoedd lleol.

I ddod o hyd i'ch pwynt gwaredu agosaf, ewch i wefan Ailgylchu Nawr.

Dillad a thecstilau

Ni ddylech chi roi dillad yn eich bin ailgylchu. Mae banciau dillad yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref

Gallech chi hefyd fynd â’ch dillad i'r canlynol:

Cysylltwch â ni