Sut i gompostio

Dilynwch y canllaw hwn i gael gwybodaeth am yr hyn i'w roi yn eich bin compost a'r hyn i'w hosgoi.

Cynnwys gwyrdd

Yn gyflym i bydru ac yn darparu nitrogen a lleithder pwysig.

  • Tail anifeiliaid gyda gwellt
  • Chwyn blynyddol
  • Taglys
  • Rhedyn
  • Coesynnau ysgewyll
  • Pennau moron
  • Croen sitrws
  • Gwaddodion coffi
  • Dail cwmffri
  • Blodau wedi'u torri
  • Codwarth
  • Croen a mwydion ffrwythau
  • Hadau ffrwythau
  • Toriadau gwair
  • Gwair
  • Toriadau gwrychoedd
  • Planhigion tai
  • Dail eiddew
  • Danadl
  • Hen blanhigion i'w plannu allan
  • Chwyn parhaol
  • Planhigion gwenwynig
  • Dail riwbob
  • Gwymon
  • Toriadau meddal a gweddillion planhigion
  • Dail a bagiau te
  • Troeth
  • Croen a mwydion llysiau

Cynnwys brown

Yn arafach i bydru, yn darparu carbon a ffibr a’n caniatáu i bocedi aer ffurfio.

  • Dail yr hydref
  • Cardbord
  • Coeden Nadolig
  • Leininau startsh corn
  • Tywelion cotwm
  • Gwlan cotwm
  • Bocsys wyau
  • Plisg wyau
  • Toriadau bytholwyrdd
  • Gwallt
  • Corc naturiol
  • Cnau
  • Bagiau papur
  • Coeden brifet
  • Gwellt
  • Cobiau india-corn
  • Toriadau pigog
  • Planhigion tomato
  • Papur cegin wedi'i ddefnyddio
  • Cynnwys sugnwr llwch
  • Lludw coed
  • Gwlân

Cadwch Allan!

Ni ddylech chi byth roi rhai pethau yn eich bin compost.

  • Esgyrn – gall ddenu plâu
  • Bara – gall ddenu plâu
  • Caniau – ni fyddan nhw'n diraddio
  • Torllwythi cath – gall gynnwys afiechyd
  • Pennau sigaréts – gall cemegau gael eu rhyddhau i'r compost
  • Cling ffilm – ni fydd yn diraddio
  • Lludw glo – gall halogion achosi difrod i blanhigion
  • Pecyn creision – ni fyddan nhw'n diraddio
  • Cynhyrchion llaeth – gall ddenu plâu
  • Cewynnau tafladwy – risg iechyd
  • Baw cŵn – gall ddenu plâu
  • Bwyd cŵn – gall ddenu plâu
  • Cartonau diodydd – ni fyddan nhw'n dirywio
  • Gweddillion cig a physgod – gall ddenu plâu
  • Olew olewydd – gall ddenu plâu
  • Bagiau plastig – ni fyddan nhw'n dirywio
  • Poteli plastig – ni fyddan nhw'n dirywio
  • Papurau budr – gallan nhw fod yn risg i iechyd.