Cofnodion Cyfarfod 5 Mehefin 2023

Grŵp Ymgysylltu Bryn - Cofnodion Y Cyfarfod A Gynhaliwyd Ar 5 Mehefin 2023

Yn bresennol:

  • Cynghorwyr: N. George (Chair), A. Gair, P. Leonard, J.A. Pritchard, H. Pritchard.
  • Cynrychiolwyr Preswylwyr: H. David (MS), L. Price, M. Roberts, R. Bevan, G. Davies, A. Gray, J Szura and D. Voyle.
  • Bryn Group: J. Price, R. Thomas and S. Powell
  • CNC: J. Goldsworthy and G. Gardiner
  • Swyddogion: M.S. Williams, R. Hartshorn, C. Edwards and H. Lancaster

Croeso a Chyflwyniadau

Introductions were made and apologies were noted from Councillor B. Miles, V. Muxworthy, S. Spencer and K. Roberts.

Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2023

Mewn perthynas â Chofnod Rhif 7 – Trosolwg o Ymgysylltu â’r Gymuned – gofynnwyd am ddiwygiad i bwysleisio na fu tân erioed yn y cyfleuster treulio anaerobig yn Bryn, nodwyd hyn, a chadarnhawyd y byddai'r cofnodion yn cael eu diweddaru i adlewyrchu hyn.

Mewn perthynas â Chofnod Rhif 2 – Cylch Gorchwyl, gofynnodd cynrychiolwyr preswylwyr i ailedrych ar aelodaeth y pwyllgor i ystyried rhoi sedd a benodwyd ac a enwyd yn swyddogol i gynrychiolydd Cyngor Cymuned Nelson. Teimlent y byddai cynrychiolaeth o Gyngor Cymuned yn helpu i ledaenu gwybodaeth ac ymgysylltu â'r gymuned.

Nododd y Cadeirydd fod o leiaf dau o gynrychiolwyr preswylwyr a oedd yn bresennol hefyd yn Gynghorwyr Cymuned ac roedd Aelodau’r Fwrdeistref Sirol ar y Grŵp hefyd yn aelodau o Gynghorau Cymuned, ac felly, gallent roi adborth o’r cyfarfodydd i Gynghorau Cymuned a allai wedyn ledaenu gwybodaeth i'r gymuned ehangach ac nad oedd yn gweld yr angen i gynyddu maint y pwyllgor yn y ffordd hwn.

Mynegodd cynrychiolwyr preswylwyr eu siom gyda’r sylw hwn ac ychwanegwyd bod hyn yn dibynnu ar gynrychiolwyr preswylwyr i symud materion yn eu blaenau ac er bod y cynrychiolwyr presennol yn dda iawn am roi adborth, efallai nad oedd hyn wastad yn wir.

Serch hynny, teimlai Aelod pe bai Cyngor Cymuned Nelson yn cael ei gynrychioli, yna dylai Cyngor Cymuned Gelligaer gael lle hefyd, ac at hynny, mynegwyd diddordeb gan Aelodau Ward y Fwrdeistref Sirol a fyddai hefyd â diddordeb mewn cael lle ar y Grŵp.

Eglurodd y Cadeirydd fod aelodaeth y Grŵp wedi’i ystyried o ddifri, serch hynny roedd y pwyslais wastad wedi bod mai grŵp i breswylwyr oedd hwn, gyda phreswylwyr yn aelodau. Roedd mwy o aelodau, fel y rhai a grybwyllwyd, hefyd mewn perygl o wneud y Grŵp yn rhy feichus, a allai effeithio ar ei allu i weithredu’n dda, ac er y byddai’n mynd â’r sylwadau yn ôl i’r Cabinet, ni fyddai’n gwneud argymhelliad.

Unwaith eto, mynegodd preswylwyr eu siom a phwysleisiwyd eu barn y byddai'r gynrychiolaeth ychwanegol hon yn ychwanegu gwerth at y Grŵp.

Diweddariad Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu nodyn briffio a roddodd drosolwg cyffredinol o reoleiddio Bryn Group a chadarnhaodd eu bod wedi derbyn ers y cyfarfod diweddaf 1 gŵyn am arogleuon gwael ac 1 gŵyn am sŵn. Dros y cyfnod hwn, nid oeddent wedi gallu cadarnhau bod yr arogl gwael yn dod o’r cyfleuster a ganiateir, a chadarnhaodd y Swyddog Rheoleiddio y broses ymateb ar gyfer cwynion am arogleuon gwael.

Mewn perthynas â’r bwnd, cadarnhaodd Greg Gardner, Swyddog Rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi Rhybudd Ffurfiol i Bryn Aggregates ar 25ain Ionawr 2023 a dderbyniwyd ar 6ed Chwefror 2023.

Ers y cyfarfod diwethaf ni fu unrhyw arolygiadau pellach o'r cyfleuster Treulio Anaerobig. Archwiliwyd y Safle Trosglwyddo Gwastraff a’r Cyfleuster Compostio ar 1af Mawrth 2023 ac ni nodwyd unrhyw gamau gweithredu neu dorri amodau.

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gwestiwn a godwyd ar e-bost gan y Cynghorydd B. Miles nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, ynglŷn â’r  allbynnau/cynnyrch sy’n deillio o’r Cyfleuster Treulio Anaerobig, “Rwy’n nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio’r cyfleuster Treulio Anaerobig. Pa fonitro y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud ar y cynnyrch gwastraff sydd ar y ffordd i gael ei ledaenu ar dir amaethyddol? Beth yw’r risgiau i bobl, anifeiliaid a’r amgylchedd sy’n gysylltiedig â phathogenau sy’n bresennol yn y gweddillion treuliad anaerobig a slyri fferm, a sut mae’r risgiau hyn yn cael eu rheoli?”

Cadarnhawyd bod rhaid i weddillion treuliad anaerobig fodloni protocol ansawdd, ac unwaith y caiff y gwastraff ei droi'n gynnyrch, ni fyddai bellach yn cael ei reoleiddio gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a byddai unrhyw gwynion am arogleuon gwael yn cael eu hysgwyddo gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor.

Gofynnwyd am eglurhad mewn perthynas â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (CoAPR) a ddaeth i rym ym mis Ionawr.  Mae’r rheoliadau’n cyfuno Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010 (Rheoliadau S&S) a’r Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 (NVZ) i un darn o ddeddfwriaeth, gan gysoni diffiniadau a methodoleg cyfrifo. Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod CoAPR yn cwmpasu Cymru gyfan, felly byddai angen rheoleiddio 35,000 o ffermwyr.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn cyllid ychwanegol (yn ystod y 2 flynedd nesaf) oddi wrth Lywodraeth Cymru am raglen arfaethedig o arolygiadau cydymffurfio ar gyfer gweithgareddau amaethyddol risg uchel. Bydd hyn yn canolbwyntio ar ffermydd sy'n cynhyrchu lefelau uchel o wrtaith organig, neu’n mewnforio tail organig sy'n cynnwys gweddillion treuliad anaerobig, bio-solidau a gwastraff arall a adferwyd i'r tir, felly roedd yn debygol y byddai Bryn yn dod o dan y gyfundrefn arolygu hon a reolir gan risg. Cynghorodd Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai’r broses arolygu yn rhoi tipyn o faich gweinyddol ar ffermwyr yn ogystal â rôl reoleiddio sylweddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru, a dyna pam y byddent yn arolygu ar sail risg.

Pwysleisiwyd nad yw'r rheoliadau yn cwmpasu arogleuon gwael ond yn hytrach mae'n gosod rheolaethau a therfynau ar gyfer defnyddio gwrtaith sy'n cynnwys nitrogen.

Croesawodd yr Aelod o’r Senedd y rheoliadau newydd ac y byddai hyn yn rhan o gylch gorchwyl y Grwpiau Ymgysylltu. O ystyried bod y broses o ledaenu slyri a reoleiddir gan yr Awdurdod Lleol a lefelau nitradau a reoleiddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru mae'n ymddangos bod gorgyffwrdd, a gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â sut y byddai hyn yn cael ei reoli.

Manylodd Cyfoeth Naturiol Cymru a Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ynghylch pa feysydd cyfrifoldeb oedd yn perthyn i ba sefydliadau a nododd y Grŵp y byddai arogleuon gwael o weithgareddau a ganiateir yn cael eu rheoleiddio gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ond y byddai arogleuon gwael a gynhyrchwyd gan y Chwarel neu’r Fferm yn cael eu rheoleiddio gan y Cyngor. Serch hynny,  roedd y ddau sefydliad yn gweithio'n agos gyda'i gilydd a byddent yn rhannu gwybodaeth.

Mynegodd preswylwyr farn bod hyn yn aml yn ddryslyd i bobl wrth roi gwybod am ddigwyddiadau neu wneud cwynion i wybod pwy yw'r gorau i gysylltu â nhw ar bryder penodol.

Rhoddwyd eglurhad pellach, a phwysleisiwyd gyda'r newid o broses compostio caeedig i dreulio anaerobig (sy’n gaeedig) ychydig iawn o gwynion a dderbyniwyd am arogleuon gwael y cyfleuster treulio anaerobig (gan fod hwn yn weithgaredd a ganiateir) ac y dylid ei riportio i Gyfoeth Naturiol Cymru.  Pan fydd gweddillion treuliad anaerobig neu slyri yn cael ei ledaenu, dylai unrhyw gwynion am arogleuon gwael gael eu riportio i’r Awdurdod Lleol.  Mae nifer y cwynion mewn perthynas ag arogleuon gwael wedi lleihau’n sylweddol gyda’r rhan fwyaf o gwynion am arogleuon gwael bellach yn deillio o weithgaredd amaethyddol. Fodd bynnag, os oes unrhyw orgyffwrdd neu os yw cwyn a wneir i un sefydliad, yn dilyn ymchwiliad yn gymwys ar gyfer sefydliad arall, yna byddai’r Awdurdod Lleol yn cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru ac i’r gwrthwyneb, fel nad oes unrhyw ddyblygu ymdrech a bod y camau priodol yn cael eu cymryd.

Mynegodd cynrychiolwyr preswylwyr bryder mewn perthynas â chynnydd mewn lorïau slyri trwm yn ystod yr wythnosau diwethaf a gofynnwyd a oedd cofrestr pwysau ar gyfer y rhain ac os allai rhestr o sefydliadau a oedd yn defnyddio safle Bryn fod ar gael.

Cadarnhaodd Bryn Group, oherwydd sensitifrwydd masnachol, na fyddent yn rhyddhau gwybodaeth am ei gwsmeriaid. Cadarnhawyd y byddai lorïau yn cario tua 27 ½ tunnell o slyri, sy’n golygu bod cyfanswm pwysau’r lori yn 44 tunnell.

Cyfeiriwyd at nant Llancaiach sy’n rhedeg wrth ymyl y trac seiclo a monitro’r nant yno ac arwyddion a oedd wedi'u gosod mewn perthynas â llygredd a gofynnwyd am eglurhad a oedd hyn yn dal i gael ei fonitro. Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw fonitro ar hyn o bryd ond byddent yn gwneud ymholiadau ac yn adrodd yn ôl.

Yna cyfeiriwyd at halogiad y bwnd a mynegodd y preswylwyr rwystredigaeth mai dim ond rhybudd ffurfiol a ddeilliodd o’r digwyddiad.

Eglurodd Cyfoeth Naturiol Cymru yr opsiynau gorfodi amrywiol a phwysleisiodd fod rhybudd ffurfiol yn fater difrifol iawn oherwydd unwaith y byddai hyn wedi'i roi, byddai unrhyw ddigwyddiadau pellach yn debygol o gael eu huwchgyfeirio i erlyniad.

Credai preswylwyr nad oedd yr halogiad yn gyfyngedig i'r bwnd a’i fod ar draws y fferm ac y dylai’r digwyddiad hwn fod wedi arwain at erlyniad.  Eglurodd Cyfoeth Naturiol Cymru y broses ymchwilio a chynghorwyd mai dyma'r ymateb priodol o ystyried pob agwedd, gan gynnwys difrifoldeb y drosedd, effaith amgylcheddol a ffactorau budd y cyhoedd.

Gofynnodd preswylwyr os oedd adroddiadau ysgrifenedig am ddigwyddiadau Bryn ar gael a chadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw, ac ar gael yn gyhoeddus ac wedi’u rhannu â’r Awdurdod Lleol.  Nodwyd bod halogiad y bwnd, er nad yn rhan o’r gweithgaredd a ganiateir, wedi bod yn destun ymchwiliad safle ymwthiol a gwblhawyd gan ymgynghorydd, ac roedd adroddiad ar hyn wedi'i gwblhau ac ar gael i'r cyhoedd.

Trafodwyd symudiadau ac amlder cerbydau a gofynnodd cynrychiolwyr preswylwyr a oedd nifer y cerbydau sy'n dod i mewn wedi'u cofrestru i sefydlu amlder. Cynghorodd Bryn Group nad oedd cerbydau a oedd yn cael eu dal ar gamera yn cael eu cofrestru a dywedodd y gallai fod yn bosib gweithio hyn allan a rhoi syniad o amlder ond ni fyddai'n rhoi cyrchfan na tharddiad.

Fe wnaeth yr Aelod o’r Senedd annog preswylwyr i barhau i riportio i Gyfoeth Naturiol Cymru ac i ddilyn prosesau.

Yna cyfeiriwyd at y bwriad i ychwanegu cyfleuster treulio anaerobig ychwanegol ar safle Bryn a chwestiynodd preswylwyr a oedd hynny’n angenrheidiol. Cadarnhaodd Bryn Group y byddai’r cyfleuster treulio anaerobig ychwanegol yn caniatáu i fwy o drydan gael ei gynhyrchu o'r gwastraff. Holodd preswylwyr os oedd y trydan yma’n cael ei gyflenwi i Gyngor Caerffili a chadarnhaodd Bryn Group nad oedd hynny wedi’i benderfynu.

Diweddariad o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Fel y gofynnwyd gan gynrychiolwyr preswylwyr yn y cyfarfod diwethaf, mynychodd Swyddog Priffyrdd a rhoddodd fanylion arolwg traffig 2019. Nodwyd bod yr arolwg wedi bod yn ddwys iawn o ran adnoddau gan fod 20 llwybr posib a 5 cyrchfan posib wedi'u nodi.

Ar 17eg Ionawr 2019, cynhaliodd swyddogion ymchwiliadau manwl i’r amodau traffig presennol ar Shingrig Road yn ogystal â ffordd y B4254 sy’n arwain at Gelligaer. Cynhaliwyd arolwg traffig 9-awr (rhwng 08:00am - 5:00pm) gan swyddogion mewn 3 lleoliad ar wahân yn ardal Nelson, lle cofnodwyd tarddiad a chyrchfan holl gerbydau nwyddau trwm (HGV) a cherbydau 7.5 tunnell llai a oedd yn teithio ar hyd B4255 Shingrig Road a B4354 Ffordd Gelligaer.

Fe wnaeth crynodeb o ganfyddiadau ein hymchwiliadau roi’r wybodaeth ganlynol.

Cofnodwyd cyfanswm nifer y Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) a cherbydau 7.5 tunnell llai drwy ddefnyddio 3 man arsylwi fel yr amlinellir isod a’u labelu 1 i 3 ar y llun amgaeedig. Roedd staff yn y mannau arsylwi drwy’r amser yn ystod cyfnod yr arolwg er mwyn gallu pennu tarddiad/cyrchfan pob cerbyd mawr. Nodwyd 20 ffordd bosib ynghyd â 5 cyrchfan posib fel yr amlinellir isod a’u labelu A i E ar y llun amgaeedig. Mae data'r arolwg wedi'i rannu'n fformatau AM a PM a chrynodeb o’r cyfanswm.

  • Lleoliad 1 yr arolwg – Cyffordd Shingrig Road
  • Lleoliad 2 yr arolwg – Mynedfa Reed Beds
  • Lleoliad 3 yr arolwg – Mynedfa Chwarel Bryn

Cofnododd yr arolwg yr holl gerbydau a oedd yn teithio o/i y tarddiad/cyrchfannau canlynol:

  • A - Gelligaer
  • B – Chwarel Bryn
  • C – Reed Beds
  • D – Shingrig Road /Nelson
  • E – Trelewis

Cofnodwyd cyfanswm o 440 o gerbydau nwyddau trwm (HGV) a cherbydau 7.5 tunnell llai o fewn parth yr arolwg yn ystod y cyfnod o 9 awr.

Mae’r data’n dangos mai 3 phrif lwybr oedd y rhai mwyaf cyffredin.

  • Y llif uchaf o'r holl lwybrau oedd A-B/B-A (o Gelligaer i Chwarel Bryn / Chwarel Bryn i Gelligaer). Cofnodwyd cyfanswm o 162 o gerbydau (37% o  gyfanswm nifer y cerbydau a gofnodwyd o fewn parth yr arolwg).
  • Llwybr B-D/D-B (Chwarel Bryn i Nelson / Nelson i Chwarel Bryn) oedd â'r ail lif uchaf. Cofnodwyd cyfanswm o 136 o gerbydau (31% o gyfanswm nifer y cerbydau a gofnodwyd o fewn parth yr arolwg).
  • Llwybr A-D/D-A (Gelligaer i Nelson / Nelson i Gelligaer) oedd â'r trydydd llif uchaf. Cofnodwyd cyfanswm o 102 o gerbydau (23% o gyfanswm nifer y cerbydau a gofnodwyd o fewn parth yr arolwg).

O’r 440 o gerbydau a gofnodwyd o fewn parth yr arolwg, defnyddiodd 259 (59%) Shingrig Road fel rhan o’u siwrnai. Mae hyn gyfystyr â llif traffig o 29 HGV/lori yr awr (tua un HGV/lori bob 2 funud) ar Shingrig Road. Dylid nodi hefyd fod y data’n dangos y cafwyd cynnydd bach yn y llif ar Shingrig Road yn ystod y bore (rhwng 08:00 a 12:00) wrth i 33 o gerbydau ychwanegol gael eu cofnodi o’i gymharu â’r prynhawn.

Cadarnhaodd y Swyddog hefyd fod arolwg traffig 7 diwrnod ar Shingrig Road wedi’i gynnal hefyd ym mis Mehefin 2022 drwy diwbiau rwber ar y ffordd. Cofnododd gyflymder cymedrig o 25 milltir yr awr, llif traffig 7 diwrnod o 7165 o gerbydau’r dydd, sef 27 bws, 177 lori o wahanol feintiau a 6958 o geir, beiciau modur a cherbydau defnydd ysgafn.

O ran ymyriadau yn Nelson, yn dilyn pryderon diogelwch mewn perthynas â'r groesfan sebra yn y siop sglodion, roedd y goleuadau ‘belisha’ wedi’u symud, cyflwynwyd arwydd rhybudd am groesfan sebra ar gyfer traffig tua'r de, symud arwydd cyfeiriad, torri llystyfiant i wella gwelededd a chyflwyno bolardiau i atal traffig rhag gor-redeg. Roedd llwybr teithio llesol hefyd wedi'i gyflwyno ar Ffordd Bwl a oedd yn cynnig lle ar wahân i gerddwyr a beicwyr. Nodwyd hefyd gyda chyflwyniad y terfyn cyflymder rhagosodedig o 20 milltir yr awr ym mis Medi 2023 y byddai’r rhan fwyaf o Nelson yn dod yn 20 m.y.a. Cadarnhaodd y Swyddog hefyd eu bod newydd roi hysbysiad cyhoeddus i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol o 60 m.y.a. i 40 m.y.a. ar Ffordd Gelligaer.

Cytunwyd y byddai'r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu i'r Grŵp.

Nododd cynrychiolwyr preswylwyr fod cerbydau o’r tu allan i Gymru yn teithio i Bryn Group y tu allan i oriau gweithredu, a mynegwyd pryder fod y cyfleuster yn mynd yn rhy fawr i’w ddiben a bod diffyg tryloywder o ran y wybodaeth a gyflwynwyd a’u bod yn rhwystredig pan nad oedd ceisiadau am wybodaeth yn dod i law.

Gofynnodd Aelodau’r Cabinet i breswylwyr, os yn bosib, roi cymaint o rybudd â phosib wrth ofyn am wybodaeth gan y bydd hyn yn rhoi amser i Swyddogion, Cyfoeth Naturiol Cymru a Bryn Group i roi data ac ymatebion at ei gilydd (o fewn terfynau sensitifrwydd masnachol) mewn pryd ar gyfer y cyfarfod yn y gobaith o rwystro rhwystredigaethau o'r fath.

Cyfeiriwyd at y strategaeth wastraff newydd ar gyfer yr Awdurdod Lleol a gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â’r goblygiadau posib y gallai hyn ei gael o ran mwy o ailgylchu bwyd, ac o ganlyniad, i gynyddu lefelau traffig i mewn i Bryn Group. Gofynnodd y  Grŵp os oedd goblygiadau traffig wedi’u hystyried wrth baratoi’r strategaeth wastraff newydd.

Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd y byddai’n hapus i drefnu arolwg traffig arall, er nad oedd ganddo unrhyw reolaeth dros faint o draffig a oedd yn defnyddio’r ffordd, ac os oedd Bryn Group yn gweithredu o fewn eu trwydded a’u gofynion cynllunio yna nid oedd unrhyw beth y gallai ei wneud fel Swyddog Priffyrdd.

Eglurodd Cyfoeth Naturiol Cymru weithdrefnau a phrosesau ymgeisio ar gyfer trwyddedau ac amrywiadau trwyddedau, a nodwyd hyd yn oed pe bai amrywiad yn cael ei gyflwyno efallai na fyddai’n cael ei dderbyn.

Mewn ymateb i sawl beirniadaeth gan gynrychiolwyr preswylwyr ynglŷn â diffyg rheoleiddio, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wrthbrofi hyn a chynghorodd fod cryn ymdrech wedi'i wneud ar reoleiddio ac archwilio'r safle gan wybod cymaint o effaith y gallai ei chael ar breswylwyr. Mor ddiweddar â 2019, rhoddwyd hysbysiad atal i Bryn ac ni allent dderbyn gwastraff am gyfnod o 3 wythnos a bod hynny wedi cael effaith sylweddol ar yr Awdurdodau Lleol a ddefnyddiai’r safle.

Cadarnhawyd mai’r 4 Awdurdod Lleol a ddefnyddiai’r safle oedd Caerffili a Merthyr Tudful ac fel safle wrth gefn i Gasnewydd a Blaenau Gwent ar gyfer gwastraff gwyrdd, a phwysleisiwyd mai mesur wrth gefn yn unig oedd hwn ar gyfer y ddau olaf ac mai anaml iawn y byddai'n cael ei ddefnyddio.

Pwysleisiodd yr Aelod o’r Senedd fod angen i'r Grŵp barhau i weithio mewn ffordd adeiladol ac agored ac wrth wneud hynny byddai'n gweld canlyniadau positif. O ran y  strategaeth wastraff newydd, gwnaeth y ddadl fod cyfle nawr i chwilio am sefydliad gwastraff/ailgylchu arall yn hytrach na dibynnu ar Bryn Group yn unig, yn seiliedig ar y potensial am fwy o draffig i'r safle. Teimlai y dylai sgwrs am y ddarpariaeth amgen lywio’r strategaeth hon ac y gellid defnyddio’r pryderon a godwyd gan y Grŵp hwn fel sail i’r sgwrs honno.

Er eglurdeb, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros yr Economi a’r Amgylchedd i ble mae'r ffrydiau gwastraff yn mynd a chynghorwyd bod gwastraff gweddilliol yn mynd i'r llosgydd yng Nghaerdydd o’r orsaf drosglwyddo yn Cross Keys, dydyn nhw ddim yn mynd i Bryn – mae ailgylchu cymysg ymyl y ffordd hefyd yn mynd i'r orsaf drosglwyddo yn Cross Keys ac yna i Loegr, unwaith eto, dydyn nhw ddim yn mynd i Bryn. Yr unig wastraff sy’n cyrraedd Bryn Group oedd bwyd a gwastraff gwyrdd.

Teimlai Bryn Group fod y cyfleuster Treulio Anaerobig yn cael ei feirniadu’n annheg a dywedodd mai dim ond 7 o gerbydau casglu Caerffili a oedd yn cyrraedd y safle bob dydd.

Canlyniadau Monitro Llwch

Cyfeiriwyd at y data a ddosbarthwyd yn y pecyn dogfennau a chadarnhaodd Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd na fu unrhyw achosion o groesi’r trothwy yn ystod y cyfnod monitro. Cynghorodd y Swyddog fod yr offer monitro wedi stopio gweithio a'u bod wedi cael eu hanfon i America i’w trwsio ac y byddai'n cael eu hadfer yn syth ar ôl dychwelyd.

Nodwyd nad oedd unrhyw newid yn y data ers yr arolygiad diwethaf, a oedd yn newyddion da iawn.

Cadarnhaodd cynrychiolwyr preswylwyr bod eu monitor hefyd yn cael ei ail-osod gyda'r gwneuthurwr.

Trosolwg o Weithgarwch Ymgysylltu â’r Gymuned

Cadarnhawyd bod cyfarfod wedi'i gynnal i drafod Cylchlythyr a theimlai'r Grŵp fod hyn yn rhywbeth y byddai'n well ganddynt ei wneud eu hunain.

Cytunwyd y byddai'r cofnodion yn cael eu dosbarthu o fewn 4 wythnos er mwyn gallu rhoi adborth mewn ffordd amserol.

Roedd gwefan Bryn yn fyw a rhoddwyd trosolwg o ymholiadau a chwestiynau, ac yn dilyn y cyfarfod hwn ychwanegir y cofnodion diwygiedig, ynghyd ag unrhyw ddogfennau cysylltiedig.

Cadarnhaodd y Swyddog y byddai'r ddolen i'r we-dudalen yn cael ei rhannu a gofynnodd i unrhyw gyfleoedd ymgysylltu ac awgrymiadau gael eu cyflwyno ac y byddai'n gwneud ei gorau i helpu gyda chymorth partneriaid. Cyfeiriwyd at ymweliadau â safle Bryn Group a oedd wedi bod yn hynod ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth.

O ran y cylchlythyr, gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â sut byddai ei gynnwys yn cael ei wirio. Cadarnhaodd y Swyddog y byddai'n hapus i weithredu fel cyswllt yn hyn o beth.

Soniwyd am dudalen cyfryngau cymdeithasol/Facebook y preswylwyr, a nodwyd mai dim ond drwy gymeradwyaeth weinyddol y darparwyd mynediad i hwn.

Trafodwyd cynhwysiant cymunedol a chyfathrebu agored yn helaeth ac ystyriwyd dulliau eraill o ymgysylltu a chytunwyd y byddai creu cylchlythyr o gymorth i'r rhai nad oeddent yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Nodwyd y byddai'r we-dudalen yn cael ei diweddaru fesul cyfarfod ac felly'n tyfu ac yn datblygu fel adnodd.

Trafodwyd cyllid i argraffu a chynhyrchu’r cylchlythyr a nodwyd bod ymdeimlad cryf wrth y Grŵp eu bod yn dymuno gwneud hyn ar eu pen eu hunain er mwyn bod yn ddiduedd. Serch hynny, pe bai hyn yn cael ei ailystyried unrhyw bryd, byddai'r Swyddog yn hapus i gefnogi.

Cytunwyd y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal am y cylchlythyr y tu allan i'r cyfarfod.

O ran cyrraedd ei darged, lleisiwyd pryder nad cynhyrchu copi caled o gylchlythyr fyddai’r strategaeth orau o bosib, a chytunwyd y byddai amser yn cael ei ganiatáu i fesur llwyddiant y we-dudalen a chytunwyd hefyd y byddai hysbysfyrddau Cynghorau Cymuned yn cael eu defnyddio i ledaenu gwybodaeth.

Gan ddychwelyd at symudiadau traffig priffyrdd, roedd Cynrychiolwyr Preswylwyr yn amau maint a niferoedd y cerbydau a gofnodwyd a theimlent fod niferoedd uwch yn cyrraedd y safle. Cadarnhaodd Bryn Group y gall cerbydau fod yn cyrraedd y safle ar gyfer gweithgareddau eraill sy'n cael eu cynnal yno (fferm, chwarel etc.) ac nad pawb oedd yn mynd i’r cyfleuster Treulio Anaerobig.

Diweddariad oddi wrth Bryn Group

Nododd yr aelodau y diweddariadau a roddwyd gan Bryn Group drwy gydol y cyfarfod.

Mynegodd Cynrychiolwyr Preswylwyr fod Sefydliad Bryn wedi tyfu ymhell y tu hwnt i fferm a’i fod bellach yn llawer mwy diwydiannol ei natur, ac y byddai’r gweithgareddau hyn yn gweddu’n well ar ystâd ddiwydiannol, yn hytrach nag wrth ymyl cartrefi preswyl.

Cadarnhaodd Bryn Group fod angen i’r cyfleuster Treulio Anaerobig barhau ar y fferm am resymau gweithredol, ond cafwyd cydnabyddiaeth y gallai'r elfen ailgylchu symud, ond i ba safle arall.

Fe wnaeth yr Aelod o’r Senedd gydnabod na fyddai'n bosibl symud y cyfleuster ar hyn o bryd, ond nad yw preswylwyr yn dymuno gweld unrhyw dwf pellach ac i archwilio a rheoleiddio'r hyn oedd yn bodoli’n barod er lles y cymunedau cyfagos a'u preswylwyr.

Cwestiynau preswylwyr

Cytunwyd y byddai'r ymatebion yn cael eu casglu a'u postio i'r we-dudalen.

Unrhyw Fater Arall

Dim wedi’i nodi.

Daeth y cyfarfod i ben am 15:20pm