Cofnodion Cyfarfod 30 Ionawr 2023

Grŵp ymgysylltu Bryn Group - Cofnodion Y Cyfarfod A Gynhaliwyd Ar 30 Ionawr 2023

Yn bresennol

  • Y Cynghorwyr: N. George (Chair), A. Gair, J.A. Pritchard, H. Pritchard.
  • Cynrychiolwyr Trigolion: H. David (MS), L. Price, V. Muxworth, M. Roberts, S. Spencer, R. Bevan, K. Roberts, G. Davies.
  • Bryn Group: J. Price and R. Thomas
  • CYC: D. Griffiths and J. Rock
  • Swyddogion: M.S. Williams, R. Hartshorn, C. Edwards, C. Davis, R Thomas, H. Lancaster

Croeso a chyflwyniadau

Gwnaed cyflwyniadau a nodwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd P. Leonard a J. Goldsworthy (Cyfoeth Naturiol Cymru).

Cylch gorchwyl

Ystyriwyd y Cylch Gorchwyl gan aelodau ac fe gyfeirion nhw at adran y cylch gorchwyl a'r gofyniad bod cynrychiolwyr trigolion yn newid ym mhob cyfarfod er mwyn sicrhau cysylltu â chymaint o aelodau'r gymuned â phosibl. Teimlwyd y byddai'r trefniant hwn yn llai cynhyrchiol ac y byddai diffyg cysondeb, nid yn unig o ran trafodion cyfarfodydd ond hefyd o ran y gallu i roi adborth i'r gymuned ehangach.

Mynegodd y Cadeirydd ei farn bod y gofyniad hwn yn sefyll ar gyfer yr ychydig gyfarfodydd cyntaf ac yna'n cael ei adolygu gan ei fod eisiau ymgysylltu ag ystod eang o drigolion ac felly’n gallu casglu barn, gwybodaeth a safbwyntiau gwahanol.

Esboniodd trigolion yr anawsterau a gawson nhw wrth ddod o hyd i wirfoddolwyr a oedd yn fodlon cymryd rhan yn y Grŵp Ymgysylltu ac fe gytunon nhw gyda'r farn y byddai parhau aelodaeth yn hanfodol i lwyddiant y Grŵp o ran ymgysylltu â’r gymuned. Nodwyd y byddai angen i unrhyw newid i'r cylch gorchwyl gael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Cabinet.

Cytunodd y Cadeirydd i fynd â'r sylwadau yn ôl i'r Cabinet.

Yna, cyfeiriwyd at symudiadau traffig ar y priffyrdd a'r cynnydd mewn cerbydau, yn enwedig wagenni a lorïau trwm eraill. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Trafnidiaeth Priffyrdd yn rhan o gylch gorchwyl y Grŵp. Cyfeiriwyd at arolygon traffig blaenorol, a dywedodd y Swyddogion, gan fod cymaint o wahanol gerbydau'n defnyddio'r rhan strategol hon o'r ffordd, nad oedd yn bosibl priodoli unrhyw gynnydd mewn symudiadau traffig i weithrediadau Bryn. Nodwyd hefyd fod materion priffyrdd a thraffig allan o reolaeth Bryn Group.

Roedd Cynrychiolwyr Trigolion o’r farn bod y cynnydd mewn cerbydau trwm megis lorïau ar y ffordd yn ganlyniad uniongyrchol i ragor o weithrediadau ar y safle, a bod arolygon traffig yn fwy perthnasol nawr nag erioed.

Cytunwyd y byddai Swyddog Priffyrdd yn mynychu'r cyfarfod nesaf i drafod arolygon traffig.

Rolau a chyfrifoldebau ar gyfer aelodau'r grŵp ymgysylltu

Yn dilyn sgwrs a thrafodaeth, cytunwyd bod angen ychwanegu Rheoleiddio Nitradau at y rhestr a nodwyd mai Cyfoeth Naturiol Cymru oedd y rheolydd penodedig. Nodwyd bod Bryn Group eisoes yn gweithio i'r gofynion rheoleiddio newydd, felly ni fyddai unrhyw newid i'w harferion gweithio o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth newydd, ac felly ni fyddai effaith ar drigolion. Teimlai’r Aelod Cynulliad, gan fod Cymru wedi’i datgan yn Barth Perygl Nitradau ac er mwyn mesur effaith y ddeddfwriaeth reoleiddiol newydd, y dylai fod yn rhan o feysydd cyfrifoldeb y Grŵp Ymgysylltu.

O ran cyfathrebu ac ymgysylltu, holodd Aelod a oedd unrhyw gymorth ar gael i helpu trigolion neu aelodau wardiau lleol wrth gynhyrchu cylchlythyr i ategu'r wefan. Roedd Cynrychiolwyr Trigolion yn arbennig o ymwybodol o'r rhai a oedd wedi'u hallgáu’n ddigidol.

Cadarnhaodd H. Lancaster, y Rheolwr Ymgysylltu, y byddai hi'n hapus i weithio gydag Aelodau'r Grŵp Ymgysylltu a Thrigolion i sicrhau ymgysylltu â'r gymuned ehangach ac y byddai hi'n darparu diweddariad llawn ar weithgarwch ymgysylltu mewn eitem ddiweddarach ar yr agenda.

Diweddariad gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Crynhodd  D. Griffiths y gweithgareddau a gynhaliwyd gan Bryn Group a'u rheoleiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Nodwyd bod 71 o gwynion am arogleuon wedi dod i law Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2022, gan ddangos gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn.

Ynghylch Camau Gorfodi, nodwyd ymhellach fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses o roi rhybudd ffurfiol i Bryn Aggregates Ltd ynghylch y bwnd halogedig a llythyr rhybuddio wedi'i anfon at Bryn Recycling yn ymwneud â digwyddiad llygredd dŵr a ddigwyddodd ar 15 Ionawr 2022 o silt yn Nant Caeach.

Nodwyd archwiliadau safle wedi'u cwblhau a manylwyd ar adroddiadau asesu cydymffurfio. Cytunwyd y byddai Arolygydd y Safle yn mynychu'r cyfarfod nesaf i roi rhagor o fanylion am brosesau archwilio.

Cytunwyd hefyd y byddai adroddiadau asesu cydymffurfio yn cael eu diwygio i ddangos y camau unioni sy'n cael eu cymryd gan Bryn Group a chynnwys nodyn yn egluro a rhagor o fanylion i egluro'r gwahanol feysydd yn yr adroddiad, megis y matrics sgoriau asesu, er mwyn osgoi drysu a chamddehongli'r data sy'n cael eu cyflwyno.

Cyfeiriwyd at dân ar safle Bryn Group ac amlinellodd J. Price  y digwyddiad a sut yr oedd y sefydliad wedi ymateb.

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pam yr oedd rhai terfynau amser cydymffurfio wedi'u hymestyn a chadarnhawyd  y gellir ymestyn terfyn amser cydymffurfio am amrywiaeth o resymau, ac nid oedd hyn yn anarferol. Amlygwyd ymhellach bod rhai camau gweithredu wedi’u gohirio oherwydd y cyfnodau cyfyngiadau symud a ffyrlo COVID-19 a oedd wedi effeithio ar y peirianwyr, rhannau/offer ac ati oedd ar gael.

Diweddariad gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cafodd y Grŵp ei gyfeirio at dudalennau wedi'u dosbarthu gan y Gwasanaethau Amgylcheddol ac amlinellwyd manylion cwynion am arogleuon. Nodwyd mai dim ond un cwyn am arogleuon ddaeth i law yn 2023, yn 2022 roedd 16 o gwynion am arogleuon ac yn 2021 roedd 53 o gwynion. Oherwydd nifer y cwynion a ddaeth i law yn 2021, yn ystod y prif dymhorau gwasgaru ar gyfer y fferm, cynhaliodd Iechyd yr Amgylchedd ymweliadau monitro rhagweithiol hefyd o gwmpas ardal Penybryn/Gelligaer/Nelson. Roedd cyfanswm o 15 o ymweliadau rhagweithiol, gan gynnwys dau ymweliad y dydd yn ystod tri chyfnod gwasgaru'r fferm a ddigwyddodd ym mis Mawrth, Mehefin, Gorffennaf ac Awst. Daeth Iechyd yr Amgylchedd i’r casgliad o’u hymweliadau nad oedd arogl gwasgaru gweddillion treuliad anaerobig ar dir sy'n gysylltiedig â Bryn Group yn Niwsans Statudol.

O ran cwynion eraill yn ystod 2022, bu 17 o gwynion am sŵn, 1 cwyn am fwg, 3 cwyn am ffrwydrad a dim cwyn am lwch. Yn 2023 dim ond 1 cwyn sŵn oedd wedi dod i law hyd yma.

Gofynnwyd a oedd y gwyn ynghylch sŵn yn deillio o weithgarwch ffrwydro yn y chwarel. Cadarnhaodd swyddogion mai sŵn gwyntyllau o fewn y cyfleuster prosesu llaeth oedd yn gyfrifol am hyn a'i fod wedi'i ddatrys yn gyflym iawn.

Cadarnhaodd swyddogion eu bod nhw'n gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar gwynion. Rhoddodd cynrychiolwyr trigolion fanylion ar y materion niferus yr oedd trigolion yn eu profi wrth geisio adrodd am gwynion i'r awdurdodau rheoleiddio amrywiol a gofyn pam nad oes modd cyflwyno methodoleg gyson ar gyfer casglu gwybodaeth. Byddai hyn yn ei gwneud yn haws i drigolion roi gwybod am faterion a byddai'n helpu i leddfu'r rhwystredigaeth sy'n cael ei brofi ar hyn o bryd yn sylweddol. Dywedon nhw hefyd bod adegau pan nad oedd trigolion yn gallu cysylltu â nhw o gwbl. Amlinellodd swyddogion ysystem Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid sy'n cael ei defnyddio gan y Cyngor i gofnodi galwadau, cwynion ac ati a chadarnhawyd nad oedden nhw'n ymwybodol o unrhyw achosion lle nad oedd y system yn gweithio, fodd bynnag, pe bai trigolion yn rhoi dyddiadau pan nad oedden nhw'n gallu cysylltu, byddai'r Swyddog yn ymchwilio i ymarferoldeb y systemau ar yr adegau hynny. Cytunwyd ei bod yn hanfodol cael cymaint o fanylion â phosibl, yn enwedig ynghylch cwynion am arogleuon megis lleoliad neu god post ac, os yn bosibl, byddai amser y digwyddiad yn flaenoriaeth. Roedd cynrychiolwyr trigolion o’r farn bod y nifer isel o gwynion a dderbyniwyd yn ymwneud yn fwy â rhwystredigaeth trigolion wrth adrodd yn hytrach nag unrhyw welliant gwirioneddol.

Trafododd y Grŵpy defnydd o daflenni dyddiadur arogleuon a fe gadarnhaodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd nad oedd y rhain yn cael eu dychwelyd yn gyson gan bwysleisio na fydden nhw'n gallu ymchwilio i faterion heb gael eu hadrodd. 

Cytunodd cynrychiolwyr y trigolion y gallen nhw wneud gwaith dilynol o ran dychwelyd taflenni dyddiadur ac y bydden nhw'n adrodd yn ôl i'r gymuned ar yr angen i'w dychwelyd nhw.

Cadarnhaodd Swyddog Achos Iechyd yr Amgylchedd y safle ei bod hi'n bersonol wedi cysylltu â thrigolion sy'n cwyno a bod ganddyn nhw rif ffôn uniongyrchol iddi, ac y byddai hi'n diweddaru'r gronfa ddata ar unwaith. Cytunwyd y dylid cyflwyno ‘profforma’ ar gyfer gwybodaeth am gwynion i’w defnyddio gan reoleiddwyr a Bryn Group. Cytunodd  Bryn Group y bydden nhw'n hapus i roi profforma o'r fath ar waith.

Trafodwyd yr amserlen ar gyfer ymateb i gwyn am arogleuon ac oherwydd natur dros dro yr arogleuon, pwysleisiwyd pwysigrwydd adrodd yn brydlon a manwl.

Cytunwyd y byddai Rheoleiddiwr Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y safle yn mynychu’r cyfarfod nesaf i egluro dulliau’r rheoleiddiwr.

Canlyniadau monitro llwch

Rhoddwyd ystyriaeth i ddata Ansawdd Aer a gasglwyd o ardal Pen-y-Bryn, gofynnwyd i'r Grŵp nodi nad oedd y monitor yn weithredol rhwng 14 Awst 2020 a 17 Awst 2021 gan ei fod wedi'i anfon i America ar gyfer gwiriadau graddnodi ac wedi profi oedi pellach oherwydd cyfyngiadau cwarantîn ac anawsterau ailosod.

Nodwyd bod monitro ansawdd aer parhaus wedi bod ar waith ym Mhen-y-Bryn ers mis Tachwedd 2018. Mae'r canlyniadau'n cael eu dal yn awtomatig a'u hanfon yn electronig at gwmni arbenigol annibynnol i'w dadansoddi. Cyflwynwyd 3 set ddata i'r Grŵp a chadarnhawydnad oedd unrhyw gysylltiad rhwng y chwarel yn ffrwydro a'r achlysuron wedi'u nodi yn set ddata 2 pan oedd y cymedr dyddiol yn uwch na PM 50ug/m3. Fodd bynnag, cyd-ddigwyddodd  5 ohonyn nhw â chyfnodau llygredd uchel cenedlaethol fel yr adroddwyd gan Bureau Veritas UK. Yn ystod y cyfnod hwn, cafwyd 4 ffrwydrad yn y chwarel, nid oedd yr un o'r dyddiadau hynny’n cyd-ddigwydd â'r cynnydd yn y cymedr dyddiol ac roedd y canlyniadau hyd yma yn galonogol ac yn dynodi ansawdd aer da.

Cwestiynodd y Grŵp y gwaith monitro gronynnau llwch mân ar PM 2.5ug/m3 , sy’n cael eu hystyried fel y rhai mwyaf niweidiol o ran iechyd. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Amgylcheddol bod eu monitro yn cael ei arwain gan argymhelliad Iechyd Cyhoeddus Cymru o PM 10ug/m3. Cadarnhaodd Bryn Group bod eu gwaith monitro yn dadansoddi PM 2.5 a dywedodd y bydden nhw'n hapus i rannu eu canlyniadau a chadarnhaodd hefyd fod ffrwd fyw i'r orsaf fonitro ar gael ar eu gwefan nhw. Cadarnhaodd y cynrychiolwyr trigolion eu bod nhw hefyd wedi buddsoddi mewn offer monitro llwch ac y bydden nhw'n hapus i rannu unrhyw ddata wedi'i gasglu.

Dywedodd Bryn Group eu bod nhw'n monitro PM 2.5, PM10 a PM40 a bod eu hoffer nhw'n cynnwys gorsaf dywydd, gyda monitorau wedi'u lleoli mewn 3 lleoliad, sef ffin y bwnd, Gelligaer a Phen-y-Bryn. Nodwyd bod samplau tymhorol yn digwydd a bod adroddiadau blynyddol yn cael eu cynhyrchu ar ddiwedd y tymor. Cadarnhaodd swyddogion hefyd fod samplau llwch wedi cael eu cymryd o gar Mr Reynolds yn ystod cyfnodau amser gwahanol ac nad oedd unrhyw gydberthynas rhwng y chwarel a'r gronynnau llwch hynny.

Cadarnhawyd y byddai'r ddolen i'r ffrwd fyw yn cael ei hychwanegu at dudalen we Bryn Group. Cynghorodd J. Price i fod yn ofalus wrth edrych ar y ffrwd fyw gan y gallai fod yn hawdd ei chamddeall, yn enwedig os nad oeddech chi'n ymwybodol o fethodoleg neu gymhlethdodau'r broses fonitro, ac fe roddodd y wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae data'n cael ei ddadansoddi dros gyfnod hir, gan ystyried ffactorau lliniarol megis cyfeiriad y gwynt ac ati.

Trafododd y Grŵp brosesau rheoli llwch a thampio yn y chwarel a nodi nad oedd unrhyw gwynion am lwch ers peth amser, ac nid oedd dadansoddi llwch ar geir a siliau ffenestri wedi gallu profi unrhyw gysylltiad â gweithrediadau'r chwarel.

Darparodd J. Price wybodaeth fanwl am y gweithdrefnau ffrwydro a thampio yn y chwarel a dywedodd fod cwmni newydd wedi'i benodi gan Bryn Group a oedd yn defnyddio math gwahanol o ffrwydron. Gofynnwyd a fyddai trwytho safleoedd tanio â dŵr, fel sy'n cael ei defnyddio yn y diwydiant mwyngloddio, yn helpu i leihau'r llwch sy'n cael ei gynhyrchu. Cytunodd Ms Price i adrodd yn ôl ar y cwestiwn hwn ond teimlai y gallai'r broses hon gael effaith negyddol ar yr amgylchedd. 

Trosolwg o weithgarwch ymgysylltu cymunedol

Rhoddodd y Rheolwr Trawsnewid ar gyfer Ymgysylltu y wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp Ymgysylltu am yr ymweliad safle diweddar â Fferm Gelligaerwellt a fe gadarnhaodd fod nifer dda wedi'i fynychu a wedi rhoi cipolwg gwerthfawr ar weithrediadau’r safle.

Dywedwyd wrth y Grŵp Ymgysylltu mai’r cam nesaf oedd lansio tudalen we Bryn Engagement a oedd yn darparu un ffynhonnell wybodaeth i’r gymuned a chadarnhau y byddai’n ei diweddaru ar ôl y cyfarfod gydag ymatebion i sylwadau, cwynion a phryderon trigolion a gyflwynwyd yn y cyfarfod hwn.

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y tân diweddar ar y safle a lefel cymhwyster y technegwyr sy'n gweithredu'r cyfleuster Treulio Anaerobig. Cadarnhaodd J. Price, fel Rheolwr Offer AD, bod ganddi Radd Meistr a'i bod hi'n Weithredydd Peiriannau Lefel 4 fel sy'n ofynnol gan reoleiddwyr ac hi yw un o'r Rheolwyr Gweithfeydd Treulio Anaerobig â’r cymwysterau uchaf yn y wlad. Mae hyfforddiant ar y system reoli yn cael ei ysgrifennu ymlaen llaw gan y darparwr technoleg, yn unol â gofynion y rheoliadau ac yn cael ei gynorthwyo ganddyn nhw. Mae gan y ddwy injan gontract cynnal a chadw llawn a system larwm arbenigol ac maen nhw'n bodloni'r holl safonau gweithredu.

wysleisiwyd nad oedd tân wedi digwydd yng Ngorsaf Treulio Anaerobig Bryn. Yr unig risg tân a oedd yn gysylltiedig yn flaenorol â gorsafoedd treulio anaerobig eraill oedd o fewn y cabinet rheoli a byddai'n drydanol ei natur. Mae gan Bryn Group system llethu tân integredig, sy'n cael ei monitro'n flynyddol ac o fewn tai sy'n gwrthsefyll tân. Yr unig ddigwyddiad tân arall  mewn safle treulio anaerobig yr adroddwyd amdano oedd oherwydd trawiad mellt i danc, roedd tanc treulio anaerobig Bryn Group o ddyluniad gwahanol ac mae ganddo system wedi ei daearu ac ni fyddai’n mynd ar dân.

Diweddariad gan Bryn Group

Nododd yr Aelodau'r diweddariadau a roddwyd drwy gydol y cyfarfod gan Bryn Group a nodwyd, oherwydd Cais Cynllunio sydd ar ddod, nad oedd modd trafod estyniad y drwydded ar hyn o bryd.

Unrhyw fater arall

Cadarhaodd y Rheolwr Trawsnewid ar gyfer Ymgysylltu y byddai hi'n bwrw ymlaen â'r materion wedi'u codi yn y cyfarfod ac y byddai hi'n cysylltu â thrigolion ynghylch cylchlythyr posibl ac yn bwrw ymlaen â'r materion a godwyd gan drigolion ac yn eu hychwanegu ac ymatebion i'r dudalen we.

Terfynwyd y cyfarfod am 15:20