Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Bryn Group – Nodyn briffio – 19 Hydref 2023

Mae’r nodyn briffio hwn yn rhoi trosolwg cyffredinol o waith rheoleiddio Bryn Group gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Pa weithgareddau y mae Bryn Group yn eu cynnal ar fferm Gelliargwellt y mae CNC yn eu rheoleiddio?

  • Peiriannau Treuio Anaerobig (AD) (EPR/AB3092ZE): Yn prosesu gwastraff bwyd.
  • Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff (EPR/WB3993HE): Yn prosesu gwastraff cyffredinol a chymysg sy'n dod i mewn.
  • Cyfleuster Compostio (EPR/WB3993HE): Yn prosesu gwastraff gwyrdd
  • Trwydded Tynnu Dŵr (WA/057/0022/0005): Tynnu dŵr ar gyfer y chwarel a gweithgareddau eraill

Cwynion amgylcheddol:

Ers cyfarfod cyswllt diwethaf Bryn ar 05/06/23 ac ar 05/10/23, mae CNC wedi cael cyfanswm o 11 o gwynion.

  • 11 x Cwyn arogl

Dros y cyfnod hwn, nid ydyn ni wedi gallu cadarnhau bod yr arogl rydyn ni wedi cael gwybod amdano i'w briodoli i'r cyfleuster a ganiateir. Yn aml, lle mae arogl amlwg yn bresennol yn yr ardal, gwelwn ei fod yn gysylltiedig â gweithgaredd amaethyddol ar y safle ac ar ffermydd cyfagos, e.e. glanhau siediau gwartheg, neu wasgaru slyri.

Beth mae CNC yn ei wneud mewn ymateb i’r cwynion am arogleuon?

Ar ôl hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru am ddigwyddiad, rydyn ni’n sicrhau bod y Ganolfan Cyfathrebu Digwyddiad yn cynnal asesiad cychwynnol a’i bod wedyn yn trosglwyddo’r digwyddiad i’r swyddog rheoleiddio.

Yna, ymgymerir ag ymateb, sy’n gallu bod mewn ffurfiau amrywiol, megis;

  • Adolygiad pen desg o’r digwyddiad, lle defnyddir gwybodaeth leol am weithgarwch presennol y safle.
  • Anfon y disgrifiad o'r digwyddiad ymlaen i gyfleuster Bryn ar gyfer ymchwiliad mewnol.
  • Dosbarthu adnoddau i gyffiniau lle cafwyd adroddiad i gadarnhau presenoldeb arogleuon.

 Cynhyrchwyd adroddiad ar 05/10/23 Camau Gorfodi

  • Nid oes unrhyw gamau gorfodi parhaus gan CNC mewn perthynas â gweithgareddau a ganiateir gan Bryn Group. Cwblhawyd Archwiliadau o’r Safle ers 05/06/23 (cyfarfod cyswllt diwethaf Bryn Group)
  • Peiriannau Treulio Anaerobig (AD) (EPR/AB3092ZE): Cynhaliwyd 0 arolygiad
  • Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff (EPR/WB3993HE) a Chyfleuster Compostio (EPR/WB3993HE):
  • 11/07/23 – Nodwyd 1 cam gweithredu/toriad
  • Toriad Categori 3
  • Nid oedd uchder pentwr o wastraff coed heb ei brosesu yn cydymffurfio â Chynllun Atal a Lliniaru Tân y safle
  • Cam gweithredu wedi'i gwblhau gan y gweithredwr a gwastraff coed heb ei brosesu yn cydymffurfio â Chynllun Atal a Lliniaru Tân y safle unwaith eto.