Sylwadau, cwynion a phryderon - 19 Hydref 2023

Sylw

Pam nad yw'r Cyngor yn gwrando ar y trigolion pan rydyn ni'n cwyno am Bryn Group? Rydyn ni'n cael sŵn o'r lle hwnnw 24/7 ond mae'r Cyngor yn dweud mai sŵn fferm yw e, ac ymhellach, gadewch i ni weld a fydd y lorïau sy'n teithio heibio'r cyfadeilad yn cadw at y rheol 20mya.

Ymateb wedi ei ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - Iechyd yr Amgylchedd

Mae Iechyd yr Amgylchedd yn ymateb i bob cais am wasanaeth ac yn cynnal ymchwiliadau yn dibynnu ar natur y cais.  Nid yw'r prosesau masnachol yn gweithredu 24/7.  Mae'n bosibl ymchwilio i sŵn o’r fferm yn dibynnu ar natur y sŵn.  Nid yw'r Cyngor yn gorfodi'r rheol 20mya.

Sylw

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd ymlaen am aer glân ond nid yw'n eu poeni pan fydd llwch Bryn Group yn mynd i bobman.

Ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i bryderon ansawdd aer (fel llwch) os yw wedi tarddu a/neu wedi digwydd o fewn y ffin a ganiateir. Os yw hyn wedi tarddu y tu allan i'r ffin a ganiateir, yna byddai hyn yn dod o fewn cylch gorchwyl y corff rheoleiddio priodol megis yr Awdurdod Lleol. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael unrhyw gwynion ynglŷn â llwch cysylltiedig â Bryn Group ar gyfer 2023. 

Ymateb wedi'i ddarparu gan Iechyd yr Amgylchedd

Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio llwch o fewn y chwarel.  Ar hyn o bryd, mae unrhyw lwch o'r peiriannau mathru yn y chwarel yn cael ei reoleiddio gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, ond fel arfer, byddai Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Caerffili yn cynnal yr ymchwiliad cychwynnol ac yn trosglwyddo eu canfyddiadau.  Ar hyn o bryd, mae llwch o ffrwydro yn cael ei reoli gan amodau cynllunio. Cyn bo hir, bydd y chwarel yn destun trwydded gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a bydd gweithgareddau mathru, rhidyllu a phrosesu yn ogystal ag unrhyw lwch o lwybrau cludo a phentyrrau stoc yn y chwarel yn dod o dan y drwydded hon a bydd yn cael ei reoleiddio gan Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. 

Bydd ffrwydro yn parhau i gael ei reoleiddio drwy amod cynllunio.

Bydd trwydded ddrafft yn cael ei rhoi i'r gweithredwr yn fuan.

Mae gennym ni fonitor parhaus ym Mhen-y-bryn hefyd sy'n monitro PM10 (deunydd gronynnol â diamedr aerodynamig nad yw'n fwy na 10 micrometr).  Mae’r canlyniadau wedi bod ymhell islaw’r amcan ansawdd aer ar gyfer PM10 ers iddo gael ei osod ym mis Tachwedd 2018.

Sylw

Gofynnwch i Bryn Group neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili osod camerâu teledu cylch cyfyng (a) profi eu bod nhw'n anghywir (b) gweld yr amseroedd maen nhw'n gweithredu (c) mae'r gymuned bob amser yn cwyno ond bob amser mae'n syrthio ar glustiau byddar. 

Ymateb gan Bryn Group:

Mae gennym ni gamerâu teledu cylch cyfyng eisoes i fyny.  Rydyn ni'n cydymffurfio â chaniatâd cynllunio y tu allan i oriau, ac o ganlyniad, nid ydyn ni erioed wedi cael hysbysiad gorfodi ar gyfer gweithio y tu allan i oriau.

Mae Bryn Group yn anelu at ymateb o fewn 48 awr i gwynion uniongyrchol sy'n cael eu hanfon atom ni drwy e-bost. Mae hyn hefyd yn wir pan fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili neu Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu Bryn Group am gwynion.  Mae atebion yn cael eu hanfod yn ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyfoeth Naturiol Cymru.  Mae pob hysbysiad o gwynion gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ddienw, felly, nid yw Bryn Group yn gallu ymateb yn uniongyrchol i drigolion.

Isod, mae enghraifft o hysbysiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru: 

example of a notification from Natural Resources Wales

Ymateb Bryn Group i'r adroddiad cwyn. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu copïo i mewn pan fydd Bryn Group yn ymateb i Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Cwmni

Gweithgaredd

Fel arfer neu beidio

Bryn Aggregates

Ar gau

Ydy

Bryn Compost

Ar gau

Ydy

Bryn Recycling

Ar gau

Ydy

Bryn Power

Ar gau

Ydy

Price & Co Farming

Dim byd

Nac ydy

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Priffyrdd/teledu cylch cyfyn

CNid yw camerâu teledu cylch cyfyng yn briodol ar gyfer monitro gweithgareddau busnes sydd hefyd â llety preswyl a mynediad ar y cyd. 

Cwyn

Rwyf wedi ffonio i mewn ac mae'r ffôn yn cael ei rhoi i lawr.  Pam mae hyn yn digwydd?  Wedi rhoi gwybod bod y ffôn yn cael ei roi lawr i godfrm@caerphilly.gov.uk gyda dyddiad ac amser. Mae'r gŵyn yn parhau.

Ymateb gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Iechyd yr Amgylchedd

Dim ond un gŵyn o'r fath sydd wedi dod i law. Mae'r mater hwn wedi'i ymchwilio a'i derfynu.  Mae teleffoni Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cofnodi rhifau ffôn, dyddiadau, amserau a hyd galwadau sy'n dod i'r Awdurdod. Nid oedd modd adnabod yr alwad hon o'r rhif ffôn a gafodd ei ddarparu gan yr achwynydd.  Mae'r achwynydd wedi cael gwybod am y canlyniad.

Cwyn

Rwyf wedi adrodd am arogleuon yr wythnos diwethaf, ond mae'r ffôn wedi cael ei roi i lawr arnaf i.  Rwyf wedi cael dau lythyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dweud bod angen llenwi'r ffurflenni am Honiad o Arogleuon Niwsans ETO.  Rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd a chael yr un ateb o hyd – nid yw Bryn Group yn gwneud dim o'i le.  Cawson ni ymateb yn ôl yn dweud nad oes gennym ni gofnod o'r alwad; mae'r Cyngor yn dal i wrthod cydnabod pob cwyn gan drigolion.  Mae'n ymddangos nad oes gan y bobl o'r pentrefi cyfagos unrhyw hawliau o gwbl.  Mae’n ymddangos bod popeth o blaid Bryn Group gyda’r awdurdodau lleol, sydd â’u gwaith o amddiffyn y cyhoedd.  Er gwaethaf y pryderon, rydyn ni wedi treulio'r 25 mlynedd diwethaf mewn anghydfod gyda Bryn Group.

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Iechyd yr Amgylchedd

Fel uchod, yr un gŵyn yw hon.

Mae trigolion yn cael eu hannog i ffonio swyddogion pan fo problemau gydag arogleuon yn yr ardal – mae rhai achwynwyr wedi cael rhifau uniongyrchol swyddogion ond eto’n methu â’u defnyddio pan fyddan nhw'n cael problemau gydag arogleuon.

Mae dyddiaduron am arogleuon yn bwysig i fonitro tueddiadau ac i allu gwirio yn erbyn dyddiadau ac amseroedd gweithgareddau sy'n digwydd yn y safle.

Sylw

Mae'r arogl wedi bod yn ddrwg.  Wedi rhoi gwybod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ond cafodd y ffôn ei roi i lawr.  Rwyf wedi ffonio ers 20 mlynedd, wedi bod ar y pwyllgor, wedi llenwi ffurflenni heb unrhyw synnwyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili na Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Iechyd yr Amgylchedd

Fel yr uchod.

Sylw

Mae mor rhwystredig nad ydyn nhw'n dal i gymryd unrhyw sylw, llythyr yn dweud Niwsans Arogl Honedig.  Mae fel ein bod ni'n ei orddweud.

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Iechyd yr Amgylchedd

Mae dyddiaduron am arogleuon yn bwysig i fonitro tueddiadau ac i allu gwirio yn erbyn dyddiadau ac amseroedd gweithgareddau sy'n digwydd yn y safle.

Cwestiwn

Pam mae cyfarfodydd y Grŵp Cyswllt yn ystod y dydd? Anaddas iawn i'r rhai sy'n gweithio.

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae'r Grŵp Cyswllt yn gweithredu yn ystod oriau swyddfa arferol. Mae aelodau ward lleol a chynrychiolwyr trigolion yn mynychu'r cyfarfodydd.

Ymateb gan Bryn Group:

Nid oes ots gennyf i os ydyn nhw'n cael eu newid. Os gallwn ni gael rhagor o ymgysylltiad gyda thrigolion drwy newid yr amser, a fyddai’n werth ceisio?
Cwestiwn

Pam nad ydyn nhw'n rhoi darlleniadau'r ffrwydradau o'r chwarel ei hun (yn hytrach na'r ffermdy agosaf), a phwy sy'n monitro'r cofnodion hyn? Neu ai dim ond Bryn Group sy'n dweud hynny? Os mai'r olaf ydyw, ydy'n bosibl i gorff annibynnol wneud y darlleniadau o'r eiddo preswyl agosaf?

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Nid oes gofyniad yn yr amodau cynllunio i'r Awdurdod Cynllunio Lleol fonitro ffrwydradau, fodd bynnag, mae'r rhain wedi cael eu monitro'n annibynnol gan Swyddogion Cynllunio ers blynyddoedd lawer mewn lleoliadau amrywiol yng Ngelligaer, ac maen nhw bob amser wedi bod ymhell o fewn y terfynau a ganiateir. Mae Bryn Group hefyd yn rhoi eu canlyniadau monitro i'r Awdurdod ac mae'r rhain bob amser wedi bod yn gymaradwy. Mae darlleniadau hefyd wedi cael eu hadrodd yn rheolaidd i'r Grŵp Cyswllt.

Ymateb gan Bryn Group:

Mae monitro arferol pob ffrwydrad gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dod i ben ond bydd unrhyw gwynion gorfodi cynllunio ffurfiol yn cael eu hymchwilio.

Y cwmni ffrwydro sy'n gwneud y cofnodi. Y ffermdy yw'r eiddo agosaf a dyna pam mae'n cael ei wneud yno.  Rydyn ni'n croesawu cwmni annibynnol i fonitro'r ffrwydradau.

Os yw trigolion yn dymuno cyfarwyddo cwmni, yna mae croeso iddyn nhw drosglwyddo manylion cyswllt fel y mae Bryn Group yn gallu cysylltu â'r cwmni cyn y ffrwydrad. Ni fyddai angen i Bryn Group ond hysbysu'r cwmni pryd a ble yn y chwarel rydyn ni'n cynnal gwaith ffrwydro. Ar ôl y ffrwydrad, mae trigolion yn gallu cael copi o'n gohebiaeth ni ar gyfer eu cofnodion.

Byddwn i'n gofyn i'r cwmni anfon copi o'r canlyniadau atom ni yn uniongyrchol ar gyfer ein cofnodion ni.

Rydyn ni wedi ein cyfyngu o ran pryd y gallwn ni roi gwybod i drigolion am ffrwydrad gan heddlu Gwent, ond rydw i'n gallu rhoi gwybod i gorff proffesiynol yn gynt. Yn anffodus, byddai'n ofynnol yn gyfreithiol iddyn nhw beidio â datgelu'r dyddiad i'r trigolion tan fore'r ffrwydrad ar ôl i'n hysbysiad ni gael ei ryddhau.

Os yw'r trigolion am gael gwybod yn gynt, mae croeso iddyn nhw drafod hyn gyda Heddlu Gwent a byddwn ni'n gwneud cais gydag unrhyw benderfyniad sy'n cael ei wneud.

Mae EPC-Groupe, R J Blasting a Hunter Acoustics i gyd yn gwmnïau rydyn ni wedi'u defnyddio i fonitro ffrwydradau, felly, byddai angen i'r trigolion chwilio am gwmnïau monitro amgen.

Hefyd, mae angen iddyn nhw roi gwybod i'r cwmni ein bod ni'n gweithredu gyda lefelau dirgryniad is na safon y Deyrnas Unedig.

Safon y Deyrnas Unedig yw: ni ddylai ffrwydradau unigol fod yn fwy na 12mm/sec ppv. Ni ddylai lefelau cyfartalog fod yn fwy na 10mm/sec ppv, ac fel arfer, ni fyddan nhw'n is na 6mm/sec ppv mewn 95% o'r holl ffrwydradau.

https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/7754/325943.pdf

Mae ein caniatâd cynllunio yn ein cyfyngu ni i:

Rhaid i ffrwydro gael eu dylunio fel na fydd y dirgryniad daear sy'n cael ei fesur fel cyflymder gronynnau brig (PPV) mewn unrhyw un o dri phlaen orthogonol yn fwy na 4mm yr eiliad mewn 95% o'r holl ffrwydradau sy'n cael eu cyflawni dros unrhyw gyfnod o chwe mis ac ni fydd unrhyw ffrwydrad unigol yn fwy na PPV o 8mm yr eiliad fel sy'n cael ei fesur gan unrhyw dderbynnydd sensitif. RHESWM: Er mwyn diogelu buddiannau amwynder yn unol â Pholisi CW2 o Gynllun Datblygu Lleol mabwysiedig Bwrdeistref Sirol Caerffili hyd at 2021.

Mae ein holl hysbysiadau ffrwydro a chanlyniadau ar gael ar ein cyfryngau cymdeithasol.

https://www.facebook.com/search/top?q=bryngroup 

Cwestiwn

Sŵn o ffan. Ydy Bryn Group wedi gwneud unrhyw beth i atal y sŵn?        

Ymateb gan Bryn Group:

Mae gwaith wedi'i wneud i unioni problem dros dro gyda ffan.

Rydyn ni wedi gwneud y canlynol i'r ffan:
Wedi gosod tawelydd i'r ffliw:

Jobs

Amserlen lanhau estynedig ar gyfer yr hidlydd ceramig.
Newid cyfeiriad pwynt gadael y ffliw:

Jobs

Cyn

Jobs

Ar ôl

Wedi rhoi bylchau acwstig rhwng y ffliw a phibellau cysylltu:

Jobs

Wedi rhoi stand cynnal ar gyfer y ffliw uchaf:

Jobs

Amsugyddion acwstig wedi'u huwchraddio ar sylfaen y ffan: 

Ers yr uwchraddio, yr unig gŵyn rydyn ni wedi ei gael ynglŷn â sŵn o'r ffan yw 17/09/23 i 18/09/23. Adeg hynny, nid oedd y ffan yn gweithredu gan fod y boeler wedi'i ddiffodd ar gyfer gwaith cynnal a chadw.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gallu rhoi offer monitro yng ngerddi trigolion, os dyna beth maen nhw ei ddymuno. Byddai hyn yn helpu nodi amser, hyd a ffynhonnell unrhyw sŵn sydd uwchlaw terfynau cynllunio. Gyda'r wybodaeth honno, gallwn ni wedyn barhau i leihau effaith y sŵn rydyn ni'n ei gynhyrchu.

Sylw

Cafodd e-bost a thystiolaeth fideo eu hanfon i Iechyd yr Amgylchedd ar 17/02/23 ynglŷn â sŵn cyson o'r chwarel TU MEWN i gartrefi Gelligaer ac o Ysgol Gynradd Greenhill.

Dyma’r ateb gan Ceri Davies:-

Diolch am eich e-bost ac rydw i'n ymddiheuro am yr oedi wrth ymateb.  Mae'ch cwyn wedi'i chofnodi a bydd taflenni dyddiadur yn cael eu hanfon atoch chi'n fuan; y gallwch chi eu llenwi os na fydd y sefyllfa'n gwella.  Mae'r sŵn rydych chi'n ei ddisgrifio yn gysylltiedig â morthwyl/malwr sy'n cael ei ddefnyddio i dorri cerrig ar lawr y chwarel.

Mae’r Nodyn Cyngor Technegol Mwynau sy'n cael ei ddefnyddio gan Gynllunio yn argymell, mewn perthynas â sŵn, “Yn ystod gweithrediadau dros dro a thymor byr, mae lefelau uwch yn gallu bod yn rhesymol ond ni ddylen nhw fod yn uwch na 67dB(A) am gyfnodau o hyd at 8 wythnos mewn blwyddyn mewn eiddo penodol sy'n sensitif i sŵn”.  Mae hyn yn cynnwys y defnydd o'r morthwyl/malwr rhwng 7am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 
Mae Iechyd yr Amgylchedd wedi siarad â rheolwr y safle o'r blaen ynglŷn â'r defnydd o'r offer hyn ac wedi argymell y dylai'r offer gael eu defnyddio rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig, oherwydd cwynion sŵn blaenorol.

Rydw i'n deall, o gyfathrebu â’r safle, y gallai’r morthwyl gael ei ddefnyddio o bosibl am wythnos neu ddwy arall.

Mae hyn yn amlygu'r diystyrwch i drigolion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

  1. Bydd taflenni dyddiadur yn cael eu hanfon allan os nad yw'r sefyllfa'n gwella.  Beth yw'r pwynt o hynny pan, ymhellach ymlaen, mae'r e-bost yn nodi bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael gwybod y gallai hyn barhau am wythnos neu ddwy arall.

  2. Mae Iechyd yr Amgylchedd yn ymwybodol o gwynion sŵn parhaus ac wedi “argymell” mai dim ond rhwng 10am a 4pm y dylai'r offer gael ei ddefnyddio, sef yn ystod oriau ysgol.

Pa mor hyderus y gall trigolion fod y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cymryd sylw ohonyn nhw pan mae'r ymateb, oherwydd union natur yr ateb, yn nodi ei fod yn hapus i Bryn Group barhau i wneud hyn. Hyd yn oed pan fydd taflenni dyddiadur wedi'u llenwi, erbyn iddyn nhw gael eu hanfon i mewn, bydd y gwaith roedd Bryn Group yn ei wneud wedi'i orffen ac nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwneud unrhyw beth i leddfu trallod y trigolion?

Ymateb gan CBSC - Iechyd yr Amgylchedd

Mae'r atebion yn yr e-bost gan Ceri Davies a ddyfynnwyd.

Mae taflenni dyddiadur hefyd yn helpu penderfynu a oes ffynonellau sŵn eraill, gwahanol fathau o sŵn ac amseroedd gweithredu.

Ymateb gan Bryn Group:

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gallu cymryd unrhyw gamau yn ein herbyn os ydyn ni'n gweithio o fewn rheoliadau'r Deyrnas Unedig.

Rydyn ni wedi cyfyngu ar yr oriau rydyn ni'n defnyddio'r malwr; y gallwn ni ei ddefnyddio o dan y rheoliad rhwng 7am a 6pm.