Erlyniadau safonau masnach

Noder, nid yw rhai o’r tramgwyddau yn dod i’r amlwg yn syth a gallent fod wedi’u cyflawni nifer o flynyddoedd yn ôl. Mewn achos lle y cafodd trwydded ei hadolygu, efallai ei bod yn destun apêl a chaiff y wybodaeth ddiweddaraf ei chynnwys.

Bydd y wybodaeth hon ar gael am gyfnod cyfyngedig er mwyn hyrwyddo bod y system cyfiawnder troseddol yn agored, yn dryloyw, ac yn atebol i’r bobl y mae’n eu gwasanaethu.

Mae’r wybodaeth ar gael ar y ddealltwriaeth ei bod at ddiben yr unigolyn sydd wedi cael mynediad at y dudalen yn unig. Ni cheir ei storio, ei chofnodi, ei hailgyhoeddi neu ei phrosesu mewn unrhyw ffordd arall heb dderbyn caniatâd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Enw’r Diffynnydd

Manylion am y Tramgwydd a’r Gwrandawiad Llys

Penderfyniad y Llys

Deddfwriaeth

Colin WILLIAMS o Drelyn

18 Ebrill 2024 yn Llys Ynadon Casnewydd.
Cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn heb drwydded.
Methu â diwallu anghenion yr anifeiliaid dan ei ofal.
Achosi dioddefaint diangen i anifail gwarchodedig.
Arfer masnachol gwaharddedig o hysbysebu cŵn ar werth heb nodi ei fod yn gweithredu busnes fel bridiwr cŵn.
Gweithredu fel cludwr anifeiliaid heb yr Awdurdod gofynnol.

16 wythnos o garchar, gordal dioddefwr o £154, costau o £5,945.44 i’r Awdurdod Lleol a gwaharddiad rhag cadw anifeiliaid am gyfnod amhenodol.

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014
 
Deddf Lles Anifeiliaid 2006
 
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008
 
Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007

Ruth WILLIAMS o Drelyn

18 Ebrill 2024 yn Llys Ynadon Casnewydd.
Cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn heb drwydded.
Methu â diwallu anghenion yr anifeiliaid dan ei gofal.
Achosi dioddefaint diangen i anifail gwarchodedig.
Arfer masnachol gwaharddedig o hysbysebu cŵn ar werth heb nodi ei bod yn gweithredu busnes fel bridiwr cŵn.

8 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis, gordal dioddefwr o £154, costau o £5,945.44 i’r Awdurdod Lleol a gwaharddiad rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd.

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014
 
Deddf Lles Anifeiliaid 2006
 
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008

Aneurin SHAWYER o Bontllan-fraith

28 Mawrth 2024 yn Llys Ynadon Cwmbrân.

Methu â rhoi hawliau canslo i ddefnyddwyr mewn perthynas â gwaith ar ardd.

Methu â gwneud gwaith garddio gyda diwydrwydd proffesiynol

Hawlio'n dwyllodrus ei fod yn masnachu fel Cwmni Cyfyngedig

11 mis o garchar wedi'i ohirio am 2 flynedd, 10 diwrnod o Ofyniad Gweithgaredd Adsefydlu, 3 mis o gyrffyw (1900-0700) gyda monitro electronig ac iawndal o £5,000 i'r defnyddiwr.

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008
 
Deddf Twyll 2006

Robert SHAWYER o Gelligaer

28 Mawrth 2024 yn Llys Ynadon Cwmbrân.

Hawlio'n dwyllodrus ei fod wedi cwblhau gwaith garddio.

28 wythnos o garchar wedi'i ohirio am 18 mis, 8 diwrnod o Ofyniad Gweithgaredd Adsefydlu, 3 mis o gyrffyw (1900-0700) gyda monitro electronig ac iawndal o £1,800 i'r defnyddiwr.

Deddf Twyll 2006

Simon HOBBS o Gaerffili

8 Chwefror 2024 yn Llys Ynadon Cwmbrân. Methu â diwallu anghenion yr anifeiliaid yn eu gofal Achosi dioddefaint diangen i anifail gwarchodedig

Dirwy o £360, gordal o £144, £7,884 o gostau i’r Awdurdod Lleol a gwaharddiad rhag cadw anifeiliaid am 5 mlynedd

Deddf Lles Anifeiliaid 2006

Amat KHAZRI o Abertridwr yn masnachu fel Pizza Bites, Ystrad Mynach.

8 Chwefror 2024 yn Llys Ynadon Cwmbrân. Cynnal Gweithgaredd Trwyddedadwy, darparu lluniaeth hwyr y nos, heb Drwydded

Dirwy o £333, gordal o £133, £1356.70 o gostau i'r Awdurdod Lleol

Deddf Trwyddedu 2003

Amanj Mawlod TAWFIK o Gaerdydd

26 Ionawr 2024 yn Llys Ynadon Casnewydd. Yn fwriadol yn barti i gynnal busnes twyllodrus at ddibenion gwerthu sigaréts a thybaco rholio â llaw ffug.

18 mis o garchar a gordal dioddefwr, gorchymyn amddifadu mewn perthynas â chynhyrchion tybaco anghyfreithlon a £3,630 o arian parod.

Deddf Twyll 2006

Dana Nadir KADIR o Bont-y-pŵl

26 Ionawr 2024 yn Llys Ynadon Casnewydd. Yn fwriadol yn barti i gynnal busnes twyllodrus at ddibenion gwerthu sigaréts a thybaco rholio â llaw ffug.

18 wythnos o garchar wedi'i ohirio am 24 mis, 100 awr o waith di-dâl, 6 diwrnod o ofynion gweithgaredd adsefydlu, gordal dioddefwr, gorchymyn amddifadu mewn perthynas â chynhyrchion tybaco anghyfreithlon a chostau o £1,200 i’r Awdurdod Lleol

Deddf Twyll 2006

Arshad Ahmad RASHID o Gaerffili

26 Ionawr 2024 yn Llys Ynadon Casnewydd. Yn fwriadol yn barti i gynnal busnes twyllodrus at ddibenion gwerthu sigaréts a thybaco rholio â llaw ffug.

100 awr o waith di-dâl, gordal dioddefwr, gorchymyn amddifadu mewn perthynas â chynhyrchion tybaco anghyfreithlon a chostau o £1,200 i’r Awdurdod Lleol.

Deddf Twyll 2006

Craig WILLETS yn masnachu fel CW Electricals, Coed Duon

10 Ionawr 2024 yn Llys Ynadon Casnewydd.
Methu rhoi hawliau canslo i ddefnyddwyr mewn perthynas â gwaith adeiladu.
Cynnal arfer masnachol wedi'i wahardd gan esgus ei fod wedi'i gymeradwyo gan TrustMark pan nad oedd.

Dirwy o £1330, gordal o £133 a chostau o £800 i'r Awdurdod Lleol.

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008

Andrew WALTER o Fargod

17 Tachwedd 2023 yn Llys Ynadon Casnewydd
Methu yn ei ddyletswydd i gymryd y camau angenrheidiol i gludo person yn ddiogel mewn Cerbyd Hacni a gafodd ei logi ar gyfer person anabl mewn cadair olwyn

Dirwy o £40 a chostau o £500 i'r Awdurdod Lleol

Deddf Cydraddoldeb 2010

Paul TAYLOR yn masnachu fel ‘The Rock Pub’ a Gwely a Brecwast o Goed Duon

14 Medi 2023 yn Llys Ynadon Cwmbrân
Wedi methu â nodi bod cynhwysyn bwyd yn gynhwysyn sy'n achosi alergeddau neu anoddefiadau.

Dirwy o £293, £117 o ordal dioddefwr a £1586.70 o gostau i’r Awdurdod Lleol

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

Ramzan IQBAL, Nelson, yn masnachu fel Pont News, Pontllan-fraith

31 Awst 2023 yn Llys Ynadon Cwmbrân.
Gwerthu cynnyrch mewnanadlu nicotin (e-sigarét) i blentyn o dan 18 oed.

Dirwy o £1,250, gordal dioddefwr o £480 a chostau o £740 i'r Awdurdod Lleol.

Rheoliadau Cynhyrchion Mewnanadlu Nicotin (Oedran Gwerthu a Phrynu drwy Ddirprwy) 2015

Danielle Helen BUCKLEY, Rhymni

24 Awst 2023 yn Llys Ynadon Cwmbrân.
Gyrru Cerbyd Hacni heb fod â thrwydded berthnasol.

Dirwy o £500, gordal dioddefwr o £200 a chostau o £1,255 i'r Awdurdod Lleol.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847

Daniel David BARWOOD o Faes-y-cwmwr

27 Gorffennaf yn Llys Ynadon Cwmbrân.
Cynnal gweithgaredd trwyddedadwy heb ganiatâd trwydded

Rhyddhad amodol am 6 mis, £26 o ordal dioddefwr a £575 o gostau i’r Awdurdod Lleol

Deddf Trwyddedu 2003

Julie Michelle PEARCE o Fochriw

10 Gorffennaf 2023 yn Llys y Goron, Caerdydd
Cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn heb drwydded.
Arfer masnachol gwaharddedig o hysbysebu cŵn ar werth heb nodi ei bod yn gweithredu busnes fel bridiwr cŵn

42 wythnos o garchar wedi’i ohirio am 12 mis, 15 niwrnod o Weithgarwch Adsefydlu a gwaharddiad rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd

Deddf Lles Anifeiliaid
 
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014
 
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008
 

Rosalie Toni PEARCE o Fochriw

10 Gorffennaf 2023 yn Llys y Goron, Caerdydd
Cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn heb drwydded.
Methu â diwallu anghenion yr anifeiliaid dan ei gofal
Achosi dioddefaint diangen i anifail gwarchodedig
Arfer masnachol gwaharddedig o hysbysebu cŵn ar werth heb nodi ei bod yn gweithredu busnes fel bridiwr cŵn

56 wythnos o garchar wedi’i ohirio am 12 mis, 100 awr o waith di-dâl a gwaharddiad rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd
 

Deddf Lles Anifeiliaid
 
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014
 
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008

Kaylie Lisa ADAMS o Fochriw
  

10 Gorffennaf 2023 yn Llys y Goron, Caerdydd
Cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn heb drwydded.
Methu â diwallu anghenion yr anifeiliaid dan ei gofal
Achosi dioddefaint diangen i anifail gwarchodedig
Arfer masnachol gwaharddedig o hysbysebu cŵn ar werth heb nodi ei bod yn gweithredu busnes fel bridiwr cŵn

56 wythnos o garchar wedi’i ohirio am 12 mis, 8 diwrnod o Weithgarwch Adsefydlu a 100 awr o waith di-dâl a gwaharddiad rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd

Deddf Lles Anifeiliaid
 
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014
 
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008

Jason Frederick JONES o Bont-y-pŵl

8 Gorffennaf 2023 yn Llys y Goron, Caerdydd
Achosion o atafaelu yn dilyn collfarn ym mis Mawrth 2023 am droseddau o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008

Iawndal o £17,700 i’w dalu i’r dioddefwr, gordal dioddefwr o £156 a chostau o £4,435 i’r Awdurdod Lleol

Deddf Enillion Troseddau 2002

Sathyavani THARMESH o Bontypridd, yn masnachu fel TSN Food and Wine        

15 Mehefin 2023 yn Llys Ynadon Cwmbrân
Gwerthu alcohol i berson o dan 18 mlwydd oed.
Rhoi bwyd anniogel ar y farchnad.

Dirwy o £1,522, gordal o £609 a chostau o £1000 i'r Awdurdod Lleol.

Deddf Trwyddedu 2003.
 
Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004

Alan LEE o Gaerdydd, yn masnachu fel AL Construction a Capitol Construction

26 Ebrill 2023 yn Llys y Goron, Caerdydd
Achos Atafaelu yn dilyn euogfarn ym mis Rhagfyr 2021 am dwyll

£133,485.98 i'w dalu i ddioddefwyr fel iawndal

Deddf Enillion Troseddau 2002

Sukhvinder Kaur REHILL o Rhisga

20 Ebrill 2023 yn Llys Ynadon Cwmbrân
Gwerthu alcohol i berson dan 18 oed

Dirwy £440, gordal dioddefwr o £176 a chostau o £1,918.90 i’r Awdurdod Lleol

Deddf Trwyddedu 2003