Trolïau siopa wedi'u gadael
Mae trolïau siopa wedi'u gadael yn beryglus i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr y ffyrdd, ac yn difetha ein cymunedau.
Dylai trolïau siopa gael eu gadael yn y mannau trolïau ym meysydd parcio yr archfarchnadoedd.
Ni ddylai trolïau gael eu defnyddio i fynd â'r siopa adref.
Rhoi gwybod am droli siopa wedi'i adael
Os byddwch chi'n gweld troli wedi'i adael, cysylltwch â'r siop berthnasol a fydd yn trefnu ei gasglu:
Trolleywise
Os na fydd y siop yn ymateb i alwad o fewn 24 awr, cysylltwch â Trolleywise ar 01926 451951 neu anfon e-bost i trolleywise@wanzl.co.uk
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Trolleywise.