Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Caerffili
Beth yw Teuluoedd yn Gyntaf?
Nod Teuluoedd yn Gyntaf yw gwella bywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghaerffili. Ei nod yw cynorthwyo teuluoedd cyfan, nid unigolion yn unig.
Rydyn ni'n cynorthwyo teuluoedd yn gynnar i ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad. Rydyn ni'n gweithio gyda theuluoedd sydd â phlentyn neu blant o 0 i 25 oed.
Rydyn ni'n adeiladu ar gryfderau’r teulu ac yn dangos ffyrdd newydd iddyn nhw o wneud pethau. Mae hyn yn eu helpu nhw i deimlo'n fwy hyderus wrth ymdrin ag anawsterau y gallen nhw eu hwynebu yn y dyfodol.
Sut gall Teuluoedd yn Gyntaf eich helpu chi?
Mae magu teulu yn anodd, ac mae angen help a chymorth arnom ni i gyd rywbryd. Yn aml, gall gofyn am help yn gynnar atal pethau rhag gwaethygu neu gyrraedd pwynt o argyfwng.
Gallwn ni helpu gydag amrywiaeth o anghenion cymorth megis:
- Cymorth wedi'i gydlynu gan y Tîm o Amgylch y Teulu.
- Mynediad at ddarpariaeth gymunedol (i blant, pobl ifanc ac oedolion)
- Gwasanaethau eiriolaeth
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gwasanaethau cam-drin domestig
- Blynyddoedd Cynnar (0-7 oed): Beichiogrwydd, lleferydd ac iaith, ymddygiad a datblygiad plant
- Ymgysylltu â theuluoedd
- Cymorth ariannol
- Cymorth i rieni
- Cymorth lles
- Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc
Ewch i'r dudalen Prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf i gael rhagor o fanylion am ein prosiectau.
Os oes angen cymorth, cyngor neu arweiniad arnoch chi a'ch teulu, mae'n bosibl y gall rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf helpu.
Gallwch chi gysylltu â ni drwy ffonio ein gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 0808 100 1727 neu e-bostio CysylltuAcAtgyfeirio@caerffili.gov.uk