Diagnosis Awtistiaeth

Mae cael diagnosis o awtistiaeth yn gofyn am asesiad manwl ac mae'n cynnwys tîm o weithwyr proffesiynol. Mae hyn yn cael ei adnabod fel asesiad diagnostig.

Diagnosis mewn Plant

Os yw'ch plentyn chi o dan 5 oed a'ch bod chi'n poeni, mae'n bwysig siarad â rhywun. Gallwch chi siarad â'ch meddyg teulu, ymwelydd iechyd, gweithiwr iechyd proffesiynol arall a/neu eich darparwr addysg. Am ragor o wybodaeth am y llwybr diagnostig ar gyfer plant dan 5 oed, ewch i wefan y Gwasanaethau Integredig i Blant ag Anghenion Ychwanegol (ISCAN).

Os yw'ch plentyn chi'n 5 oed neu hŷn, eich meddyg teulu chi a/neu ysgol eich plentyn fyddai'r bobl gyntaf i siarad â nhw am eich pryderon.  Byddan nhw'n gallu siarad â chi am eich pryderon a sut i wneud atgyfeiriad. Bydd gwylio'r fideo isod yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.

Efallai y byddwch chi hefyd yn clywed am rywbeth o'r enw panel lles SPACE.  

Diagnosis mewn Oedolion

Os ydych chi'n oedolyn ac yn teimlo efallai bod angen diagnosis arnoch chi neu eich bod chi'n gofalu am oedolyn yna gallwch chi wneud hunan-atgyfeiriad/atgyfeiriad cymunedol i'r Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig.

Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi’i sefydlu ar y cyd rhwng y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddarparu asesiad diagnostig i oedolion (weithiau ar y cyd â gwasanaethau eraill), cymorth a chyngor i oedolion â diagnosis a’r rhai sy’n eu cynorthwyo (rhieni/gofalwyr/partneriaid).

Maen nhw'n cynnal sesiynau cyngor y gall unrhyw un gadw lle ar eu cyfer i drafod unrhyw beth sy’n ymwneud ag Awtistiaeth neu i ddysgu am eu gwasanaeth.