Cofrestru Marw-enedigaeth

Registering a stillbirth

Sut caiff marw-enedigaeth ei diffinio?

Mae plentyn marw-anedig yn cael ei ddiffinio fel plentyn a gaiff ei eni ar ôl y 24ain wythnos o feichiogrwydd na wnaeth anadlu na dangos unrhyw arwydd arall o fywyd ar unrhyw adeg ar ôl cael ei eni.

Beth sydd angen ei wneud i gofrestru’r enedigaeth?

Pan fydd plentyn yn farw-anedig, bydd meddyg neu fydwraig yn cyhoeddi tystysgrif feddygol marw-enedigaeth i'r cofrestrydd.

Rhaid cofrestru pob marw-enedigaeth yng  Nghymru a Lloegr yn yr ardal lle mae'n digwydd.

Pwy sy’n gallu cofrestru marw-enedigaeth farw?

Rhieni sy’n briod neu sydd mewn partneriaeth sifil â'i gilydd:

Os oedd rhieni’r plentyn yn briod neu mewn partneriaeth sifil â’i gilydd ar adeg y farw-enedigaeth(neu genhedlu), mae'r naill riant neu’r llall yn gallu cofrestru’r enedigaeth.

Rhieni nad ydyn nhw'n briod nac mewn partneriaeth sifil â'i gilydd:

Os nad oedd y rhieni’n briod neu mewn partneriaeth sifil â’i gilydd ar adeg y farw-enedigaeth (neu genhedlu), mae modd cofnodi gwybodaeth am y tad neu’r ail riant benywaidd ar y gofrestr mewn amgylchiadau penodol yn unig.

Bydd y cofrestrydd yn rhoi cyngor ar yr  amgylchiadau hyn pan fyddwch chi'n cysylltu â’r Swyddfa Gofrestru.

Os nad oes modd i rieni’r plentyn gofrestru’r farw-enedigaeth, mae’n rhaid i’r canlynol wneud hynny:

  • Preswylydd y tŷ neu’r ysbyty lle cafodd y plentyn ei eni’n farw.
  • Unigolyn a oedd yn bresennol yn ystod yr enedigaeth.
  • Unigolyn sy’n gyfrifol am y plentyn marw-anedig, er enghraifft swyddfa’r crwner.
  • Yr unigolyn a ddaeth o hyd i’r plentyn marw-anedig (pan fydd dyddiad/lleoliad yr farw-enedigaeth yn anhysbys).

Gwybodaeth i’w darparu er mwyn cofrestru marw-enedigaeth

Ar gyfer y plentyn:

  • Dyddiad a lleoliad y farw-enedigaeth:
  • Enw(au) cyntaf a chyfenw, os yw’r rhieni’n dymuno enwi’r plentyn marw-anedig.
  • Rhyw y plentyn.

Ar gyfer y fam:

  • Enw cyntaf a chyfenw (ac unrhyw enwau eraill sydd wedi'u defnyddio ganddi).
  • Cyfenw cyn priodi os yw’r fam yn briod neu mewn partneriaeth sifil, neu wedi bod yn y gorffennol.
  • Man geni.
  • Galwedigaeth ar adeg y farw-enedigaeth neu, os nad oedd yn gyflogedig ar y pryd, yr alwedigaeth ddiwethaf.
  • Cyfeiriad arferol ar ddyddiad y farw-enedigaeth.

Ar gyfer tad neu ail riant benywaidd (pan fydd angen cofnodi’r wybodaeth hon ar y gofrestr):

  • Enw(au) cyntaf a chyfenw.
  • Man geni.
  • Galwedigaeth ar adeg y farw-enedigaeth neu, os nad oedd yn gyflogedig ar y pryd, yr alwedigaeth ddiwethaf.

At ddibenion ystadegol yn unig:

  • Dyddiadau geni'r rhieni sydd wedi'u henwi wrth gofrestru
  • Dyddiad priodas neu bartneriaeth sifil rhieni, os yn briod neu mewn partneriaeth sifil â thad neu ail riant benywaidd y babi marw-anedig ar adeg y farw-enedigaeth.

Pa dystysgrifau a fydd yn cael eu cyhoeddi?

Tystysgrif Marw-enedigaeth

Unwaith y bydd marw-enedigaeth wedi’i chofrestru, mae modd prynu un neu fwy o dystysgrifau ar adeg y cofrestru.

Tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi

Bydd y cofrestrydd yn cyhoeddi tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi'r plentyn marw-anedig.

Caiff y dystysgrif ei hanfon, fel arfer, at y trefnydd angladdau sy’n gwneud y trefniadau.

Nid oes modd cynnal angladd nes bod y dystysgrif hon yn cael ei rhoi i’r awdurdod claddu neu’r amlosgfa.

Os bydd oedi wrth gofrestru, mae’n bosibl cyhoeddi tystysgrif ar gyfer claddu cyn cofrestru ar yr amod nad oes angen adrodd am y marw-enedigaeth wrth y crwner.

Cysylltwch â ni
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad