FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cofrestru i bleidleisio

Mae am ddim, yn gyflym ac yn hawdd cofrestru. Yr unig beth sydd angen arnoch yw eich rhif yswiriant gwladol.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i

  • Gofrestru i bleidleisio
  • Diweddaru eich enw, cyfeiriad neu fanylion eraill ar y gofrestru etholiadol, gan gynnwys gwneud cais am ffurflen gais pleidlais drwy’r post.

Bydd gofyn i chi

  • Lle rydych yn byw (gan gynnwys os ydych yn ddinesydd Prydeinig sy’n byw dramor)
  • Eich dinasyddiaeth
  • Eich dyddiad geni
  • Eich enw llawn (gan gynnwys os ydych wedi newid eich enw yn ystod y 12 mis diwethaf)
  • Eich rhif Yswiriant Gwladol
  • Eich cyfeiriad
  • Os ydych yn byw mewn ail gyfeiriad (os oes gennych dau gartref neu os ydych yn fyfyriwr/wraig gyda chyfeiriad cartref ac yn ystod y tymor)
  • Os ydych wedi symud allan o gyfeiriad arall yn y 12 mis diwethaf (gan gynnwys o dramor)
  • Os ydych eisiau i’ch enw gael ei gynnwys ar y ‘gofrestr agored’.
  • Os ydych eisiau pleidlais drwy’r post
  • Sut fyddwch yn hoffi ein bod yn cysylltu â chi os bydd unrhyw gwestiynau gennych am eich cais.

Os nad oes mynediad gennych i’r we, ffoniwch ein llinell gymorth gwasanaethau etholiadol ar 01443 864203. Gallwn gymryd eich manylion dros y ffon neu anfon ffurflen gofrestru drwy’r post os oes well gennych.

Cofrestru i bleidleisio os ydych yn y lluoedd arfog

Mae pobl yn y lluoedd arfog, a’u gwyr/gwragedd neu bartneriaid sifil, yn gallu cofrestru i bleidleisio yn y ffordd arferol. Serch hynny, os ydych yn debygol o fod wedi eich lleoli dramor yn y flwyddyn nesaf, mae’n well i gofrestru fel pleidleisiwr/wraig gwasanaeth gan ddefnyddio cyfeiriad DU sefydlog.

Pwy all gofrestru?

Rhaid i chi fod yn 14 oed neu'n hŷn

Rhaid i chi hefyd fod yn un o'r canlynol:

  • dinesydd Prydeinig
  • dinesydd Gwyddelig neu'r Undeb Ewropeaidd sy'n byw yn y Deyrnas Unedig
  • dinesydd o'r Gymanwlad sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros yn y Deyrnas Unedig, neu nad oes angen caniatâd arno
  • dinesydd gwlad arall sy'n byw yng Nghymru sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros yn y Deyrnas Unedig, neu nad oes angen caniatâd arno

Pam ddylen i gofrestru?

  • Mae’r wybodaeth yn ofynnol yn gyfreithlon.
  • Os nad ydych wedi cofrestru, ni allwch bleidleisio mewn etholiadau.
  • Efallai byddwch yn ei chael hi’n anodd cael credyd, benthyciadau, cytundebau ffôn, morgais neu gyfrif banc gan fod y gofrestr yn cael ei ddefnyddio gan asiantaethau cyfeirnod credyd.

Pryd fydd angen i mi gofrestru?

Mae angen i chi gofrestru os:

  • nad ydych wedi cofrestru yn barod; neu
  • os nad ydych yn siŵr os ydych wedi cofrestru (peidiwch â phoeni am gofrestru ddwywaith - byddwn yn gwirio am hynny); neu
  • yw eich amgylchiadau wedi newid (er enghraifft, rydych wedi symud cartref yn ddiweddar neu newid eich enw ); neu
  • rydym wedi dweud wrthych chi yn ystod ein canfasio blynyddol nad yw eich manylion etholiadol yn cyd-fynd â chofnodion eraill. 
Cysylltwch â ni