FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis pleidleisio mewn person mewn gorsaf bleidleisio.

Tua thair neu bedair wythnos cyn etholiad, byddwch yn derbyn eich cerdyn pleidleisio drwy’r post. Ar y garden hon byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am bryd, ble a sut i bleidleisio. Mae’n haws os ydych yn cymryd hyn gyda chi pan rydych yn pleidleisio er y gallwch bleidleisio hebddo.

Yn yr orsaf bleidleisio, bydd y Clerc Pleidleisio yn gofyn i chi ddweud eich enw a’ch cyfeiriad ar lafar. Mae’r cadarnhad ar lafar hwn yn brawf mai chi yw’r person. Mae’n drosedd i roi gwybodaeth ffug a gall arwain at erlyniad.

Byddwch wedyn yn derbyn papur pleidleisio a fydd yn dweud sawl ymgeisydd y gallwch bleidleisio amdanynt. Yn syml, cymerwch y papur pleidleisio i’r bwth pleidleisio a rhoi croes nesaf at yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr yr hoffech bleidleisio amdanynt.

Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth arall ar y papur neu efallai na fydd eich pleidlais yn cael ei gyfri. Plygwch y papur pleidleisio i guddio eich pleidlais, dangoswch y papur wedi plygu i’r clerc a rhowch e yn y blwch pleidleisio. Does dim rhaid i chi ddweud wrth unrhyw un pwy wnaethoch chi bleidleisio amdanynt.

Mae etholiadau yn cael eu cynnal rhwng 7am a 10pm ac fel arfer ar ddydd Iau.

Edrychwch ar y daith animeiddio symud trwy’r orsaf pleidleisio wedi'i animeiddio a ddarperir gan Y Comisiwn Etholiadol i weld pa mor hawdd yw pleidleisio.

Cysylltwch â ni