FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Gweithio mewn partneriaeth

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o gwmnïau i ddarparu gwasanaethau.

Bwrdd Gwasanaethau Lleol Caerffili 

Sefydlwyd y Bwrdd Gwasanaethau Lleol Caerffili ym mis Gorffennaf 2007, yn wreiddiol fel un o'r chwe ardal beilot a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae Byrddau Gwasanaethau Lleol yn rhywle gall arweinwyr sefydliadau o'r sector lleol, cyhoeddus a'r trydydd sector ddod ynghyd i weithredu ar y cyd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon ac yn canolbwyntio ar y dinasyddion.

Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol Caerffili yn goruchwylio darpariaeth y Strategaeth Gymunedol Caerffili.

Am fanylion pellach ar waith y Bwrdd gwasanaethau Lleol Caerffili, y Strategaeth Gymunedol Caerffili a chamau tuag at ddatblygu cynllun sengl integredig am gynllunio cymunedol yn y fwrdeistref ewch i'r wefan Cynllunio Cymunedol neu cysylltwch ag Alison Palmer ar 01443 864409 neu anfonwch e-bost at cynlluniocymunedol@caerffili.gov.uk.

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol

Mae'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerffili Saffach yn bartneriaeth statudol, ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Heddlu Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Awdurdod Tân ac Achub Lleol De Cymru a'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

Mae'r bartneriaeth yn gweithio gyda phartneriaethau lleol arall er mwyn lleihau lefelau trosedd ac anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio sylweddau ac ofn troseddau yn yr ardal leol.

Ewch i wefan Caerffili Saffach.

Diogelu Gwent

Mae diogelu a hyrwyddo lles plant yn gofyn am gydlynu effeithiol ym mhob ardal leol. Am y rheswm hwn, roedd y Ddeddf Plant 2004 yn gofyn bod pob Awdurdod Lleol yn sefydlu Bwrdd Diogelu Plant Lleol.

Diogelu gwent

Gefeillio

Mae'n debyg eich bod wedi sylwi ar yr arwyddion ffyrdd yn datgan "...gefeilliwyd â..." trwy'r fwrdeistref sirol. Ond beth mae'n ei olygu?

Y term "gefeillio" yw'r ffordd yr ydym yn disgrifio perthynas arbennig rhwng dwy gymuned, fel arfer mewn dwy wlad wahanol, lle mae'r cymunedau hynny wedi nodi diddordebau a gobeithion cyffredin.

Ewch i'r wefan gefeillio.

Fforwm Busnes Caerffili

Dyma'r rhwydwaith busnes arweiniol yn y fwrdeistref sirol. Mae'n rhoi llais i'r gymuned busnes ac yn gweithredu fel sefydliad lobïo annibynnol gan gynrychioli busnesau yn yr ardal leol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol Mae'n darparu rhyngwyneb pwysig gyda'r awdurdod lleol ac mae ganddo berthynas waith agos gyda'r Tîm Cymorth Menter Busnes.

Ewch i wefan y Fforwm Busnes Caerffili.

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol

Mae Bwrdd Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwent Fwyaf yn gorff partneriaeth allweddol a sefydlwyd i arwain a llywio gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn ardal Gwent Fwyaf (sy’n cynnwys ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen), ac yn eistedd o fewn ôl troed ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.’

Ewch i wefan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Cysylltwch â ni
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad