FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cwynion ysgolion

Cymerwn unrhyw gŵyn o ddifrif ac mae gofyn i ysgolion gael gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer delio â hwy.

Fel arfer, gall unrhyw bryderon sydd gennych am addysg eich plentyn gael eu setlo drwy siarad â'r pennaeth, athro dosbarth neu aelod arall o staff.

Gwneud cwyn ffurfiol

Os oes gennych gŵyn am ysgol, mae'n rhaid i chi wneud eich cwyn yn uniongyrchol i'r ysgol. Mae manylion cyswllt ar gyfer ein holl ysgolion ar gael drwy ddefnyddio ein cyfleuster Dod o hyd i Ysgol.

Rydym yn argymell eich bod yn gofyn i'r ysgol am gopi o'i Pholisi Cwynion er mwyn i chi ddeall yn union sut y byddant yn ymdrin â'ch cwyn.

Rhaid i gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion meithrin, sefydlu gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion gan rieni, disgyblion, aelodau o staff, llywodraethwyr, aelodau o'r gymuned ac eraill.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai cyrff llywodraethu ysgolion sefydlu dull tri cham i ddatrys cwynion fel a ganlyn: -

  • Cam 1 - Cam anffurfiol lle gall y gŵyn gael ei chodi a'i datrys. Fel arfer, ni fydd cwyn yn symud i gam 2 hyd nes ei bod wedi'i hystyried o dan gam 1
  • Cam 2 - Cam ffurfiol
  • Cam 3 - Mae'r mater yn cael ei gyfeirio at Bwyllgor Cwynion y Corff Llywodraethu

Dylai'r weithdrefn gŵynion ysgolion gynnwys manylion mwy penodol am bob un o'r camau hyn.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth am y broses gŵynion ysgolion, cysylltwch â'r ysgol. Fel arall, cysylltwch â'r swyddog cwynion a fydd yn barod i roi cyngor i chi.

Cwynion Dysgu Eraill

Mae yna brosesau statudol eraill ar gyfer cwynion ac apeliadau sy'n ymwneud â'r cwricwlwm, addoli crefyddol, derbyniadau, Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), gwaharddiadau, cwynion staff, disgyblu staff a gallu athrawon. Mae canllawiau ar y pynciau hyn ar gael o www.learning.wales.gov.uk/?skip=1&lang=cy. Nid yw gweithdrefnau cwynion ysgolion yn disodli'r gweithdrefnau hyn.

Contact us