Y lluoedd arfog

Mae cymuned y Lluoedd Arfog yn cynnwys unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac unigolion sy'n gysylltiedig â'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys aelodau a chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog, eu teuluoedd a'u dibynyddion.

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac mae’n anrhydedd i fod wedi ennill Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.