FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Dechrau busnes

Mae rhedeg busnes yn gofyn am amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys rheolaeth ariannol, gallu trefniadol, gwybodaeth farchnata ac ymwybyddiaeth o faterion cyfreithiol ac iechyd a diogelwch.

Ychydig iawn o bobl sy’n cychwyn mewn busnes sydd yn berchen ar y sgiliau hyn i gyd i ddechrau.  Gallem helpu i ddatblygu yr arbenigedd yr ydych ei angen i lwyddo.

Mae'r Tîm Adnewyddu Menter Busnes yn darparu ystod o gefnogaeth i'ch helpu i ddechrau eich busnes a chymorth bwysig tra bod y busnes yn tyfu.

Ar gyfer trafodaeth gychwynnol am yr hyn y gallwn ei gynnig i'ch busnes, cysylltwch â'r Tîm Adnewyddu Menter Busnes.

Rhoi cynnig ar eich busnes

Os ydych yn byw yn y bwrdeistref sirol, gallwch brofi eich syniad busnes ym Margod yn siop Blas ar Fenter ar Heol Hanbury.

Mae Blas ar Fenter yn eich galluogi i roi cynnig ar eich syniadau o fewn amgylchedd risg isel, gan helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau newydd a hefyd yn ennill cysylltiadau newydd a gwerthfawr, a allai helpu i roi dechrau da i'ch busnes. Pan fyddwch yn barod i symud ymlaen, mae ystod o eiddo sy'n addas ar gyfer pob angen.

I gael gwybod mwy ffoniwch 01685 377141 neu anfonwch e-bost tasteofenterprise@centreforbusiness.co.uk. Gallwch hefyd ymweld â'u gwefan yn www.tasteofenterprise.co.uk neu www.centreforbusiness.co.uk.

Cyngor a chefnogaeth Llywodraeth Cymru

Cefnogaeth Llywodraeth Cymru

Prynu busnes neu fasnachfraint

Cychwyn

Cyn i chi ddechrau

Syniad busnes

Os oes angen cymorth pellach, ffoniwch  Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000. Ar gael rhwng 8am a 6pm, ddydd Llun i ddydd Gwener, ar gau ar wyliau'r banc. 

Cysylltwch â ni

Rhowch eich adborth o ran y wefan hon.