Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Busnes
Trwyddedu a chaniatâu
Trwyddedau ffyrdd a phriffyrdd
Trwydded sgipiau
Sgip rheoliadau
Sgip rheoliadau
Awdurdod i osod cynhwysydd ar ffyrdd yn y Fwrdeistref Sirol
Rhaid i bob cynhwysydd ar y briffordd gydymffurfio â'r
fanyleb gyhoeddedig
.
Rhaid peidio â gosod cynhwysydd ar linell sengl yn ystod oriau'r gwaharddiad nac ar linellau dwbl ar unrhyw adeg.
Rhaid peidio â gosod cynhwysydd o fewn y man gwaharddedig i naill ochr croesfan sebra neu groesfan belican.
Rhaid peidio â gosod cynhwysydd o fewn 83 metr i'r llinell stop wrth ddynesu at y goleuadau traffig.
Rhaid peidio â gosod cynhwysydd o fewn 17 metr i gyffordd ag enw.
Rhaid gosod cynhwysydd ar y safle yn unol â'r rheolau canlynol:
Rhaid ei osod o fewn cwrtil eiddo/adeiladau, lle bynnag y bo modd, heb ddifrodi na rhwystro'r llwybr troed.
Os yw'n cael ei osod ar y ffordd gerbydau, rhaid ei osod fel nad yw'n amharu ar ddraenio dŵr wyneb, ac er mwyn lleihau'r rhwystr i draffig; yr awgrym yw pellter o 150mm o'r cwrb.
Ni fydd yn cael ei osod fel ei fod yn rhwystro mynediad i unrhyw dwll archwilio, hydrant tân neu gyfarpar unrhyw ymgymerwr statudol neu'r Cyngor.
Rhaid peidio â gosod cynhwysydd ar unrhyw ffordd gerbydau neu ffordd gefn sydd â lled o 5 metr neu lai.
Rhaid peidio â gadael cynhwysydd ar y briffordd am gyfnod hwy nag sy'n angenrheidiol. A bydd yn cael ei symud o'r briffordd beth bynnag, neu ei ail-leoli os bydd angen hynny ar yr heddlu neu gynrychiolydd dynodedig y Gwasanaethau Technegol.
Rhaid symud pob cynhwysydd o'r briffordd cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei lenwi.
Yn ystod y defnydd ohono, bydd cynnwys y cynhwysydd yn cael ei wlychu i atal niwsans yn sgil llwch a bydd unrhyw ollyngiad ar y briffordd yn cael ei glirio ar unwaith.
Rhaid peidio â defnyddio'r cynhwysydd ar gyfer dyddodi deunyddiau pydredig, gwenwynig neu dramgwyddus.
Rhaid cyflwyno pob cais erbyn 12.00pm, 48 awr cyn yr amser arfaethedig ar gyfer gosod y sgip.
Er mwyn gosod sgip ar y briffordd, rhaid i chi gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sydd werth £10 miliwn.
Bydd y Cwmni Llogi Sgipiau yn gyfrifol am symud yr holl ddeunyddiau wedi'u rhoi mewn unrhyw gynhwysydd, boed gennych chi, eich gweision neu asiantiaid, neu unrhyw berson gydag awdurdod neu hebddo, a chael gwared arnyn nhw'n briodol.
Bydd y Cwmni Llogi Sgipau yn cytuno i indemnio'r Gorfforaeth rhag unrhyw atebolrwydd, colled, hawliad neu achos o gwbl sy'n codi o dan gyfraith statud neu gyfraith gyffredin mewn perthynas â gosod a chadw unrhyw gynhwysydd ar unrhyw briffordd, neu ei symud oddi yno.
Ni fydd dim yn y llythyr o awdurdod hwn na'r amodau hyn yn effeithio ar bwerau'r heddlu, nac yn lleihau pwerau'r heddlu, i fynnu symud unrhyw gynhwysydd wedi'i osod ar y briffordd yn unol â'r awdurdod hwn.
Share on Facebook
Share on Twitter
Post Feedback
Ychwanegwch at fy nhudalennau
Print this page
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y