Gwastraff masnachol

Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.

Mae mwy o gwybodaeth am y newidiadau ar y wefan LLYW.CYMRU.

Mae gan fusnesau ddyletswydd gyfreithiol i waredu gwastraff. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen Dyletswydd Gofal. Rhaid i fusnesau ddefnyddio cludydd gwastraff cofrestredig i waredu eu gwastraff nhw.

Rydyn ni'n darparu gwasanaeth proffesiynol ac mae gennym ni dîm o swyddogion ar gael i helpu. Byddan nhw'n rhoi rhywfaint o gyngor ac arweiniad ar waredu gwastraff o'ch busnes chi.

Gallwch chi ofyn am gasgliad ar gyfer eich busnes ar-lein. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Ailgylchu@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866533.

Mwy o wastraff masnachol

Tudalennau cysylltiedig