Cefnogi Busnesau Lleol

Economi Sylfaenol

Mae'r Economi Sylfaenol yn gwneud cyfraniad sylweddol i werth ychwanegol gros yng Nghymru. Amcangyfrifodd y Ganolfan Ymchwil Newid Cymdeithasol-Ddiwylliannol fod yr economi sylfaenol yn cyfrif am tua phedair o bob deg swydd a thua £1 ym mhob £3 a warir gan aelwydydd yng Nghymru, ac nid yw Bwrdeistref Sirol Caerffili yn eithriad.

Mae sectorau hyn yr economi na ellir ei masnachu yn bileri hanfodol ar gyfer creu swyddi a sefydlogrwydd, ac ar gyfer cyflogi graddedigion nad ydynt yn mudo.

Ymyraethau Arfaethedig

Mewn ymateb, mae'r Cynllun Buddsoddi Lleol yn cynnig ymyraethau a fydd yn cyflawni'r canlynol:

  • Darparu cymorth grant i BBaChau yn yr Economi Sylfaenol ehangu a thyfu.
  • Darparu grantiau ar gyfer egin fusnesau newydd yn yr Economi Sylfaenol.

Twristiaeth (y sector Hamdden a Lletygarwch)

Mae twristiaeth yn darparu cyfleoedd i ailadeiladu diwydiant sy'n allweddol i'r economi yn dilyn effaith niweidiol sylweddol y pandemig.

Yn ogystal â chefnogi digwyddiadau presennol, a datblygu digwyddiadau twristiaeth sy'n cynnig cyfleoedd lleol mewn perthynas â marchnadoedd targededig ac arbenigol, mae yna hefyd le i ddatblygu dull integredig o fynd i'r afael â'r cynnig twristiaeth, wedi'i anelu at sicrhau lefelau uwch o effaith economaidd, gan ddatblygu cadwyni cyflenwi a rhyngddibyniaethau ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae gan fentrau newydd yn ymwneud â thechnoleg bwyd a theithio y potensial i greu gwerth mewn perthynas â galluedd allforio ac i sicrhau y gall Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chaerffili chwarae rôl fwy gweithredol ym mentrau Gwyrdd yr Adran Masnach Ryngwladol a Masnach a Buddsoddi Cymru.

Ymyraethau Arfaethedig

Mewn ymateb, mae'r Cynllun Buddsoddi Lleol yn cynnig ymyraethau a fydd yn cyflawni'r canlynol:

  • Darparu cymorth grant i BBaChau yn yr Economi Sylfaenol ehangu a thyfu.
  • Galluogi'r Cyngor i weithio gyda Busnes Cymru i gasglu gwybodaeth am y farchnad a datblygu ‘twristiaeth profiad/blasu’ (canlyniad Hacathon). Cynhelir ymgyrch farchnata i gynyddu 'twristiaeth blasu' yn y Fwrdeistref Sirol, a fydd yn cynnwys gwell gwefannau a rhyngweithio â darpar gwsmeriaid.
  • Darparu cymorth i ddatblygu strategaeth allforio wedi'i theilwra.
  • Darparu Grantiau i gefnogi Masnach Ryngwladol yn y Fwrdeistref Sirol.

Cynaliadwyedd busnesau/mentrau lleol

Yn debyg i'r patrymau ledled Cymru a'r DU, mae demograffeg busnes Caerffili yn cael ei dominyddu gan ficro fusnesau (y rhai sy'n cyflogi llai na 10 o bobl), sy'n cyfrif am 94.3% o'r holl fentrau, gyda dim ond 3.5% yn cael eu dosbarthu'n fusnesau bach (10-49 o gyflogeion) ac 1.1% yn cael eu dosbarthu'n fusnesau canolig (50-250 o gyflogeion). 

Mae gan y rhanbarth gyfradd uwch o enedigaethau busnesau (12.6%) o gymharu â Chymru (11.4%) a Phrydain (11.9%), ond, i'r gwrthwyneb, mae ganddo hefyd gyfradd marwolaethau busnesau uwch o 11.2% (Cymru 9.8% a Phrydain 10.6%). (Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol Tachwedd 2021). 3.10.

Unig fasnachwyr oedd nifer o'r cwmnïau mwy i ddechrau, felly mae'n hanfodol darparu cymorth ar eu cyfer er mwyn cryfhau cydnerthedd yr ardal. (Ffynhonnell: “Transforming the Valleys” Rhagfyr 2020, Sefydliad Bevan). Mae'n amlwg bod yna her glir i ddarparu amgylchedd y gall busnesau bach dyfu ynddo a dod yn gynaliadwy yn y tymor hwy.

Ymyraethau Arfaethedig

Mewn ymateb, mae'r Cynllun Buddsoddi Lleol yn cynnig ymyraethau a fydd yn cyflawni'r canlynol:

  • Darparu cymorth grant i BBaChau ehangu a thyfu.
  • Darparu grantiau ar gyfer egin fusnesau newydd

Argaeledd Safleoedd Busnes

Mae diffyg seilwaith addas sydd ar gael yn her i fusnesau gyflawni eu potensial llawn. 

Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Gabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ynghyd â Llywodraeth Cymru, wedi dangos bod safleoedd o ansawdd da ar gyfer cyflogaeth yn brin, a bod yna brinder dybryd o eiddo hapfasnachol, parod o bob math sy'n amrywio o le ar gyfer busnesau bach ac egin fusnesau hyd at brosiectau gweithgynhyrchu ar raddfa fawr. (Ffynhonnell: “CCR City Deal Strategic Business Plan Wider Investment Fund 2020-2025”).

Ymyraethau Arfaethedig

Mewn ymateb, mae'r Cynllun Buddsoddi Lleol yn cynnig ymyraethau a fydd yn cyflawni'r canlynol:

  • Datgloi tir i'w ddatblygu o'r newydd ar gyfer ystod o fusnesau.
  • Hwyluso'r broses o ddarparu unedau ar gyfer egin fusnesau.

Lefelau isel o Fuddsoddiad Ymchwil a Datblygu

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd sylfaen wyddoniaeth uchel ei pharch trwy ei brifysgolion, sydd, gyda'i gilydd, yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu technolegau a chymwysiadau newydd. Fodd bynnag, mae buddsoddiad mewn Ymchwil a Datblygu wedi parhau'n gymharol isel yn y rhanbarth, gyda gwariant Innovate UK yn cael ei fesur yn llai na thraean y ffigur cyfartalog y pen yn y DU.

Ymyraethau Arfaethedig

Mewn ymateb, mae'r Cynllun Buddsoddi Lleol trwy Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnig ymyraethau a fydd yn cyflawni'r canlynol:

  • Cyflwyno cwmnïau yn y clystyrau a'r cadwyni cyflenwi i arloesedd ac arwyddion cynhyrchiant – gan feithrin galluogrwydd a sgiliau arweinyddiaeth yn ogystal â materion pragmatig mewn perthynas â sicrwydd ynni.
  • Denu rhagor o fusnesau i'r ardal, busnesau sy'n arloesol ac sy'n gyson â chlystyrau blaenoriaeth er mwyn datblygu sylfaen y swyddi gwerth uchel a chynyddu cynhyrchiant ac ysbryd cystadleuol y rhanbarth.
  • Cynyddu nifer y busnesau seiliedig ar wybodaeth yn y rhanbarth sy'n creu swyddi cyflog uchel sy'n allweddol o ran chwyddo a lledaenu ffyniant.
  • Sefydlu cyfres o academïau gwarantedig ledled y rhanbarth, a gefnogir gan addysg bellach a chlystyrau yn y rhanbarth, gan gefnogi symudedd cymdeithasol ac ‘ehangu mynediad’ a chyfrannu at y dirwedd sgiliau a arweinir gan gyflogwyr.

Twf Swyddi Gwyrdd

Ym mis Mawrth 2021, cymeradwyodd Senedd Cymru darged sero net ar gyfer 2050, ynghyd â thargedau interim ar gyfer 2030 (63%) a 2040 (89%). Bydd y targedau cynyddol hyn yn darparu cyfleoedd newydd ar gyfer arloesi a gweithgarwch economaidd, gyda mentrau i gefnogi datgarboneiddio, effeithlonrwydd ynni a'r economi werdd.

Ymyraethau Arfaethedig

Mewn ymateb, mae'r Cynllun Buddsoddi Lleol trwy Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnig ymyraethau a fydd yn cyflawni'r canlynol:

  • Darparu cymorth grant i ehangu a thyfu technoleg werdd a gwella effeithlonrwydd er mwyn symud i economi di-garbon.